Mae ‘Gyda’n Gilydd dros Hawliau’ (‘T4R’) yn grŵp Cymru gyfan o bobl anabl ifanc 11-19 mlwydd oed.
Nod ‘Gyda’n Gilydd dros Hawliau’ (‘T4R’) yw rhoi cyfleoedd i bobl anabl ifanc o bob cwr o Gymru i:
Mae ‘Gyda’n Gilydd dros Hawliau’ (‘T4R’) yn gweithio drwy fforymau a grwpiau ieuenctid, ac mae’n cynnal digwyddiadau rheolaidd ledled Cymru.
Yn ychwanegol, mae ‘Gyda’n Gilydd dros Hawliau’ (‘T4R’) yn cynnal rhaglen ysgolion gyffrous sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth ymysg plant a phobl ifanc anabl o’u hawliau fel yr amlinellir hwy yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Nod y prosiect yw eu galluogi a’u cefnogi hwy i gael at eu hawliau a chael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt yng Nghymru.
Cyfeiriad e-bost cyswllt: andrea.storer@childreninwales.org.uk. Mae gwefan ‘Gyda’n Gilydd dros Hawliau’ (‘T4R’) ar hyn o bryd wrthi’n cael ei datblygu.