Diwygio Statudol - Cliff Warwick, Swyddog Datblygu Cynhwysiant yn Llywodraeth Cynulliad Cymru
Fe roddodd Cliff Warwick, sy’n arwain ar gynlluniau ar gyfer Diwygio Statudol, gyflwyniad o dan y teitl Datganiadau neu Rywbeth Gwell? Crynodeb o’r Cynnydd a Wnaed Hyd Yma a’r Camau Nesaf.
Fe roddwyd 3 opsiwn gerbron gan Grŵp Gorchwyl i edrych ar ddisodli Datganiadau:
Yn yr holl opsiynau uchod, fe fydd cymorth i bobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth yn ymestyn i 25 mlwydd oed. ‘Roedd yna gydnabyddiaeth oddi wrth rieni nad yw’r gyfundrefn gyfredol yn gweithio’n iawn. ‘Roedd y farn hon hefyd yn cael ei rhannu gan rieni ond ‘roeddynt yn hoffi amddiffyniad cyfreithiol y Datganiad a’r modd o gyrchu cymorth Tribiwnlys. Mae adroddiad ar y papur cyn ymgynghori ar gael, ac mae cynigion ynglŷn â sut y gellir gwella’r system wedi’u datblygu. Mae’r rhain ar hyn o bryd yn cael eu treialu ledled Cymru. Mae’r diffiniad o Anghenion Dysgu Ychwanegol hefyd yn cael ei ystyried.
Gweithwyr Allweddol Oed Trosglwyddo – Sally Rees, Cydlynydd Datblygu Cymru, Rhwydwaith Cydlynu Gofal dros y Deyrnas Unedig (CCNUK)
Mae’r Rhwydwaith Cydlynu Gofal dros y Deyrnas Unedig yn cefnogi pum prosiect i weithwyr allweddol oed trosglwyddo yng Nghymru (hynny yw, yn Sir Benfro, Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn a Sir Fynwy) sy’n cael eu cyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Lawrlwythwch ragor o wybodaeth.
Ymateb i’r Ymgynghoriad
Fe wnaeth aelodau’r fforwm gwblhau ymateb i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef "Hyrwyddo Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru", fel rhan o’r Ymarfer Gwrando, o’r hyn y bydd cynigion yn cael eu datblygu ar gyfer y dyletswyddau cydraddoldeb penodol yng Nghymru. Mae copi o’r ymateb ar gael ar yr ochr aelodau o’r wefan hon.
Cyfnewid Gwybodaeth
Fe wnaeth aelodau hefyd rannu gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn eu sefydliadau.