Y mae’r adran hon yn darparu manylion ynglyn â chyfarfodydd o'r Fforwm Cymru Gyfan ac y mae’n amlinellu rhai o’r materion a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol.
Mehefin 2011
Play Our Way – Fun and Friendship
Rhoddodd Siân Davies, Rheolwr Dinasyddiaeth a Chyfranogiad ym Mencap Cymru, gyflwyniad am brosiect "Play Our Way - Fun and Friendship " sy’n cael ei ariannu drwy Plant mewn Angen. Ar hyn o bryd mae’r prosiect ar waith yng Nghaerdydd, Rhondda Cynon Taf, Sir y Fflint a Chonwy ac yn gweithredu drwy Ysgolion Arbennig ac Unedau AAA o fewn ysgolion prif-ffrwd. Nod y prosiect yw grymuso pobl ifanc sydd ag anabledd dysgu i nodi a dileu’r rhwystrau i fanteisio ar weithgareddau hamdden yn y gymuned wrth gymdeithasu gyda ffrindiau. Yn dilyn sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant sydd ar agor i gyfranogwyr perthnasol, mae 2 person ifanc yn cael eu hethol i weithredu’n llysgenhadon ar gyfer yr ysgol. Mae’r Llysgenhadon yn canfasio am farn eu ffrindiau ysgol ynghylch y gweithgareddau hamdden/ cymdeithasol sydd orau ganddynt ac yn nodi pa rwystrau sy’n bodoli i fanteisio ar y rhain. Mae gweithgareddau’n cynnwys ymweld â chyfleusterau hamdden/cymdeithasol, cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cael eu cynnig, ac asesu pa mor gynhwysol maen nhw. Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys datblygu offer cyfathrebu, fel DVD, straeon digidol, i gyflwyno rhwystrau ac atebion i fanteisio ar weithgareddau hamdden cymunedol a lobio am newid o fewn awdurdodau lleol.
Ymhlith y materion mae’r prosiect wedi eu nodi hyd yma mae’r angen am gefnogaeth fwy arbenigol ar gyfer pobl ifanc anabl ar ôl iddynt droi 16 oed a sicrhau bod staff cymorth mewn ysgolion yn teimlo’n fwy hyderus am fynediad plant a phobl ifanc anabl i chwarae a hamdden am eu bod yn poeni’n fawr iawn am ystyriaethau risg. Yn ei ail flwyddyn bydd y Prosiect yn gweithredu yng Ngwynedd, Ynys Môn, Blaenau Gwent a Bro Morgannwg. Caiff pedwar awdurdod lleol arall eu hychwanegu ym mlwyddyn tri. Ni fydd cefnogaeth uniongyrchol yn parhau pan ddaw’r cyllid i ben ond y gobaith yw y bydd y gwaith yn parhau o hyd. Bydd dau ddigwyddiad i ledaenu gwybodaeth am y Prosiect yn cael eu cynnal ym mis Hydref – yn Ne a Gogledd Cymru.
Y Gronfa Loteri Fawr – Ariannu Nawr ac yn y Dyfodol
Rhoddodd Janet Thickpenny, Swyddog Polisi, a Nia Lloyd o’r Gronfa Loteri Fawr gyflwyniad am y gronfa grantiau sy’n cael ei galw’n BIG. Mae mwy na £600 miliwn wedi cael ei roi yng Nghymru ers dechrau’r gronfa. Mae BIG yn dyfarnu arian y loteri i grwpiau cymunedol a phrosiectau sy’n gwella iechyd, addysg a’r amgylchedd. Y rhaglenni presennol sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc yw Pawb a’i Le sy’n cefnogi prosiectau sy’n adfywio cymunedau, yn gwella perthnasoedd neu’n gwella amgylcheddau lleol; Arian i Bawb, cynllun grantiau bach sy’n rhoi grantiau i brosiectau sy’n cefnogi gweithgarwch cymunedol gan gynnwys estyn mynediad a chyfranogiad; Ffordd o Fyw sy’n hyrwyddo ymagwedd gysylltiedig at fwyta’n iach ac ymarfer, a Chwarae Plant sy’n cefnogi datblygiad chwarae i blant. Mae prosiectau’r DU gyfan yn cynnwys Dyfodol Gwell sy’n ceisio gwella deilliannau i blant sy’n dod o deuluoedd sy’n dioddef problemau lluosog a chymhleth fel iechyd gwael a diweithdra, a Gwireddu Uchelgais sy’n cefnogi prosiectau sydd eisoes wedi profi eu heffeithiolrwydd gan ddarparu cyllid a all wedyn fod o les i fwy o bobl ifanc. Caiff grant newydd ei lansio ar 1 Medi o’r enw Dyfodol Disglair. Bydd arian ar gael i gefnogi rhieni ifanc a phobl ifanc anabl rhwng 14 - 25 oed i fagu eu hyder, datblygu sgiliau oes, estyn rhwydweithiau cymorth a chael mynediad gwell i wasanaethau. Bydd grantiau rhwng £200,000 ac £1 miliwn yn cael eu rhoi i gyrff 3ydd sector yng Nghymru i ddarparu prosiectau am rhwng 3 a 5 mlynedd. Rhaid cyflwyno mynegiannau o ddiddordeb erbyn mis Hydref 2011. Bydd gweithdai’n cael eu cynnal i annog cyrff i weithio gyda’i gilydd.
Ffocws Anabledd o fewn Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf
Rhoddodd Catherine Lewis, Swyddog Datblygu (Plant Anabl) yn Plant yng Nghymru gyflwyniad am Deuluoedd yn Gyntaf a phlant anabl. Rhaglen sy’n hyrwyddo’r datblygiad systemau a chefnogaeth aml-asiantaeth effeithiol gan ardaloedd awdurdodau lleol yw Teuluoedd yn Gyntaf, gyda phwyslais clir ar atal ac ymyrraeth gynnar i deuluoedd, gan dargedu’n benodol y sawl sy’n byw mewn tlodi. Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn un o’r ymatebion allweddol i Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru. Egwyddorion Teuluoedd yn Gyntaf yw datblygu ymagwedd integredig at gefnogi teuluoedd yng Nghymru. Mae angen trefnu gwasanaethau er mwyn i’r gefnogaeth hoelio sylw ar y teulu, bod yn bwrpasol, yn integredig, yn rhagweithiol, yn ddwys ac yn lleol. Mae wedi cael ei gydnabod bod angen ffocws penodol o fewn Teuluoedd yn Gyntaf i sicrhau y darperir ar gyfer anghenion penodol teuluoedd â phlant / pobl anabl a bod gwasanaethau a gweithgareddau’n cymryd yr anghenion hyn i ystyriaeth yn llawn. Gan hynny, trefnwyd bod cyllid ychwanegol ar gael drwy Teuluoedd yn Gyntaf yn benodol i ddarparu ffocws amlwg a dwys ar anabledd. Yn ei chyflwyniad amlygodd Cath y tebygrwydd rhwng dulliau Teuluoedd yn Gyntaf a phlant anabl ond nododd nad yw’r cysylltiad rhwng y ddau beth bob amser yn syml. Rhaid i gefnogaeth i deuluoedd â phlant anabl gyda Theuluoedd yn Gyntaf fod yn gysylltiedig hefyd â’r ddarpariaeth bresennol mewn awdurdodau lleol - fel y rhaglen Cefnogaeth Gynnar. Trafodwyd rhai ystyriaethau sy’n wynebu plant anabl a all gael eu cynnwys o fewn cynlluniau teulu, yn ogystal â sut i’w diwallu. Hefyd nodwyd materion a themâu allweddol y mae angen i awdurdodau lleol fod yn ymwybodol ohonynt wrth ddarparu cymorth i blant anabl a’u teuluoedd.
Diweddariad am Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru
Dwedodd Cath wrth y Grŵp fod cyfarfod yr Ymgyrch wedi cael ei gynnal ym mis Mai gyda’r nod o adolygu’r gwaith y corff yn ystod y Cynulliad diwethaf a datblygu cynllun ar gyfer tymor y Cynulliad presennol. Lluniodd y cyfarfod restr o gyflawniadau’r Ymgyrch sy’n cynnwys:
1) Proffil o fewn Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ymhlith uwch weision sifil sy’n dymuno clywed barn DCMW ar ddatblygiadau polisi.
2) Dyrannu cyllid i wasanaethau plant anabl o ganlyniad i’r ymgyrch, gan gynnwys gwasanaethau cadeiriau olwyn, y rhaglen Cefnogaeth Gynnar, Newid Lleoedd a’r Ymgyrch Manteisio ar Fudd-daliadau.
3) Sefydlu Grŵp Tasg a arweiniodd at ddatblygu "Ar y Trywydd Iawn" "Y Daith Hyd Yma" a mentrau polisi eraill.
4) Rhoddodd DCMW gyfle i gyrff gydweithio’n effeithio mewn partneriaeth.
5) Rhoddodd y wefan yr offer i gefnogwyr gymryd rhan mewn gwaith ymgyrchu a mynnu bod eu llais yn cael ei glywed.
6) Datblygwyd sylfaen cefnogwyr ac anogwyd y cefnogwyr i gysylltu ag Aelodau’r Cynulliad ac ati.
Mae’r gwersi sydd i’w dysgu’n cynnwys:-
1) Dylai cynrychiolaeth ymgyrchu a’r Grŵp Tasg fod wedi eu gwahanu, gan ddirprwyo’r olaf i Grŵp Polisi Plant Anabl Plant yng Nghymru, sy’n cynnwys grŵp ehangach o gyrff na’r rhai sy’n rhan o DCMW.
2) Mae’n anodd cynnal ymgyrch effeithiol heb allu nac arian pwrpasol.
3) Mae cyfranogiad gwirioneddol yn anodd mewn "byd polisi anniddorol" ac weithiau ni lwyddom ni i ymgysylltu â phlant / pobl ifanc anabl a’u teuluoedd mewn ffordd wir gyfranogol.
4) Mae angen mater pendant penodol er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc anabl a’u teuluoedd
Mae’r ymgyrch felly wedi cael ei gohirio nes bod neges glir yn dod i’r amlwg y gallwn ei chyfleu i’n cefnogwyr. Bydd gwaith polisi parhaus yn cael ei arwain gan y Grŵp Polisi Plant Anabl, wedi ei hwyluso gan Plant yng Nghymru.
Cyfnewid Gwybodaeth
Rhannodd aelodau wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ym mhob un o’r sefydliadau.
Nodiadau ar gyfer cyfarfod Mai 2010
Nodiadau ar gyfer cyfarfod Rhagfyr 2009
Nodiadau ar gyfer cyfarfod Hydref 2009
Nodiadau ar gyfer cyfarfod Mehefin 2009.