Cyflwyniad am Cerebra gan David Williams, Cynorthwyydd Cymorth i Rieni: Fe sefydlwyd yr elusen Cerebra i gynorthwyo i wella bywydau plant sydd â chyflyrau yn ymwneud â’r ymennydd drwy ymchwil ac addysg gan gymorth y plant a’u gofalwyr.
Cyflwyniad gan Zoe Richards o Anabledd Dysgu Cymru, sydd wedi’u comisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynhyrchu dogfennau sy’n ystyriol o blant a phobl ifanc sy’n egluro’r broses o bontio i oedolaeth. Yn 2007, fe gyhoeddwyd dau adroddiad gan Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol a oedd yn edrych ar y mater o bontio i oedolaeth ar gyfer pobl anabl ifanc. Y rhain oedd y drydedd ran o adolygiad y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes o anghenion dysgu ychwanegol, a oedd yn ymwneud â phontio, ac adolygiad y Pwyllgor Cydraddoldeb o wasanaethau ar gyfer plant anabl, oedd o dan y teitl "Pam bod plant anabl bob tro’n cael eu hystyried olaf?" Yn dilyn yr adroddiadau hyn, fe wnaeth y grŵp Transition in Action gydlynu cynhadledd ar bontio i oedolaeth, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fe arweiniwyd y gynhadledd hon gan bobl anabl ifanc eu hunain. I baratoi ar gyfer y gynhadledd, fe gynhaliwyd dau grŵp ffocws ynglŷn â phwnc pontio gyda’r nod o ddarganfod beth oedd profiadau pobl ifanc o’r broses o bontio i oedolaeth. Y prif fater a wnaeth ddeillio o’r grwpiau ffocws oedd nad oedd y bobl ifanc yn wir ymwybodol o beth oedd pontio, ac er bod y bobl ifanc wedi cyfrannu mewn llawer o gyfarfodydd, a oedd yn trafod eu dyfodol, ‘roeddynt yn teimlo nad oedd neb wedi gwrando arnynt. Fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru wedyn sefydlu grŵp o’r enw’r Grŵp Llywio Cyfeirio Allanol Trosglwyddo i edrych ar weithredu’r argymhellion oddi wrth y ddau adroddiad a grybwyllir uchod a chymryd i ystyriaeth y sylwadau a wnaed gan y bobl ifanc anabl yn y gynhadledd.
Taflenni: I gydategu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Grŵp Llywio Pontio, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu Anabledd Dysgu Cymru i gynhyrchu taflen yn egluro’r broses o bontio i oedolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Fe fydd yna Ganllaw ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol yn cael ei gynhyrchu gan Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru, ac mae’r Canllaw ar gyfer Rhieni yn cael ei ysgrifennu gan SNAP. Mae Zoe wedi cyfarfod â llawer o grwpiau o bobl ifanc i drafod yr hyn a ddylai fod yn y daflen. Fe ddywedodd y bobl ifanc eu bod eisiau ystod o daflenni oedd yn darparu gwahanol wybodaeth ar wahanol adegau. Fe fydd y rhain yn edrych ar:
Trafodaeth ynglŷn ag adrannau dau adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc anabl
Diweddariad ar yr Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru: Yng nghyfarfod agored Plant Anabl yn Cyfri Cymru yn yr haf, fe gytunwyd y bydd angen strwythur ffurfiol gan y byddai mwy o sefydliadau yn gysylltiedig â llywio’r Ymgyrch Ar ôl hynny, yng nghyfarfod Grŵp Llywio mis Tachwedd, fe etholwyd Keith Bowen, Cyswllt Teulu, fel Cadeirydd, a Liz Walker, Rhwydwaith Cydlynu Gofal dros y Deyrnas Unedig, fel Ysgrifennydd, ac fe benodwyd gweithgor bychan i lunio Cyfansoddiad. Mae deg o sefydliadau yn awr yn cael eu cynrychioli ar y grŵp llywio - Plant yng Nghymru, Cyswllt Teulu, Mencap Cymru, Anabledd Dysgu Cymru, Cerebra, Gweithredu dros Blant, Barnardo's, Cronfa’r Teulu, Scope Cymru ac NDCS Cymru (Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar). Fe gynhaliwyd cyfarfodydd rhwng cynrychiolwyr yr Ymgyrch a’r Gweinidog dros Blant, Jane Hutt. ‘Roedd hwn yn gyfarfod cadarnhaol, gyda’r Ymgyrch yn cael ei hysbysu y byddai Grŵp Gorchwyl Gweithredu’r Hawliau yn cael ei gadeirio gan David Hawker, Cyfarwyddwr Cyffredinol Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Fe wnaeth cynrychiolwyr yr Ymgyrch hefyd gyfarfod â’r Comisiynydd Plant, Keith Towler. Fe ddywedodd Keith ei fod wedi cyfarfod â llawer o blant a phobl ifanc anabl yn ystod ei daith o amgylch Cymru, ac ‘roedd yn awyddus i barhau â chysylltiad gyda’r Ymgyrch i amlygu materion sy’n gyffredin. Fe gafodd yna erthygl o dan y teitl The Language of Priorities, a ysgrifennwyd gan Keith Bowen am blant anabl ac a gyhoeddwyd yn Society, hefyd ei dosbarthu yn y cyfarfod.
Cyfnewid Gwybodaeth: Fe wnaeth aelodau hefyd rannu gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ym mhob un o’u sefydliadau.