Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Meysydd Gwaith
    Eiriolaeth
    Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
    Bwlio
    Atal Damweiniau Plant
    Tlodi Plant
    Hawliau Plant
    » Anabledd
    Blynyddoedd Cynnar
    Llythrennedd Emosiynol
    Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
    Cynadleddau Grwp Teuluoedd
    Prosiect Llwybrau Bywyd
    Plant sy’n Derbyn Gofal
    Magu Plant
    Cyfranogaeth
    Ymchwil
    Diogelu Plant
    Y Sector Gwirfoddol
    Gofalwyr Ieuainc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Anabledd
Anabledd

Orange bookY mae Plant yng Nghymru yn gweithio gydag aelodau i ymgyrchu dros ddarpariaeth deg o wasanaethau ledled Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc anabl. Yr ydym yn gweithio i gefnogi aelodau i ddatblygu gwasanaethau i gynorthwyo i ddiwallu anghenion plant anabl yng Nghymru. Y mae enghreifftiau o’r gwaith hyn yn cynnwys:

  • Cysylltu gyda Rheolwyr Timau Plant Anabl y Gwasanaethau Cymdeithasol i ystyried sut y mae cefnogaeth i blant anabl a’u teuluoedd yn cael ei threfnu, a sut y mae amcanion y rhaglen Rhoi Plant yn Gyntaf wedi effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau lleol.
  • Trefnu cyfarfodydd i lunio ymateb i ddogfennau ymgynghori perthnasol, megis Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a’r Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru.
  • Cynrychiolaeth ar y Grwp Llywio gyda Chydlynu Gofal, sy’n amcanu at ddatblygu’r cysyniad o gydlynu gofal drwy Gymru i gyd. Y mae’r cysyniad hwn yn nodi gweithiwr allweddol a fydd yn cefnogi plant anabl a’u teuluoedd a thrafod gydag asiantaethau ar eu rhan.
  • Cynorthwyo Cyngor Ieuenctid Cymru a Chyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru (CWVYS) yn eu paratoadau ar gyfer cynhadledd o dan y teitl ‘Rheoli Newid, Chwalu Rhwystrau – Egwyddorion ac ymarfer gweithredu’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ar gyfer y sector ieuenctid gwirfoddol.’
  • Cynnull amryw o fforymau a rhwydweithiau i ddod â chyrff ynghyd i rannu gwybodaeth ac arferion da ac i lobïo dros faterion sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc anabl.

Fe ddylid cyfeirio ymholiadau yn ymwneud â’r gwaith hwn at: Catherine Lewis, Swyddog Datblygu, Plant yn Gyntaf , Ffôn 029 2034 2434, E-bost: catherine.lewis@childreninwales.org.uk.

Plant a Phobl Ifanc Anabl a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn: Y mae gwaith Plant yng Nghymru yn ymwneud yn agos â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Y mae gwaith yn gysylltiedig â magu plant yn ymwneud ag Erthygl 23.  

Fforymau a Rhwydweithiau Anabledd a Gweithiau Eraill:
Early Support
The Early Support Programme was developed in England to improve the quality, consistency and coordination of services for disabled children under the age of five and their families. It is designed to ensure that all services provided for families with young disabled children are well co-ordinated and responsive to their needs. The Welsh Assembly Government has now agreed to implement Early Support across all 22 local authorities in Wales.
Disabled Children Matter Wales
Fforwm Cymru Gyfan o eiddo Plant yng Nghymru ar Faterion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Anabl.
Y mae’r Fforwm yn grwp amlasiantaethol sy’n rhannu gwybodaeth ac arferion da, ac sy’n lobïo dros faterion sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc anabl
Cyfarfodydd Is-Fforwm Anabledd
Y mae’r is-fforwm anabledd yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn, gyda dau gyfarfod yn cael eu cynnal yng Ngogledd Cymru, De Orllewin Cymru a De Ddwyrain Cymru.
Grwp Polisi ar Faterion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Anabl
Nod y grwp yw dylanwadu ar bolisi cyhoeddus yng Nghymru ym maes plant a phobl ifanc anabl.
Rhwydweithiau ar gyfer Pobl Anabl Ifanc
Y mae Plant yng Nghymru yn cydlynu rhwydweithiau ar gyfer pobl anabl ifanc yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Dolenni Cysylltiol
Rhwydwaith Cymru o Bobl Anabl Ifanc
Mae’r Rhwydwaith yn anelu i roi strwythur lle gall pobl ifanc anabl gael eu cefnogi i chwarae rhan lawn a gweithgar yn y prosesau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Adnoddau Cysylltiol
:Adroddiad Grwp Monitro CCUHP Cymru 2006 - Anabledd
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313