Y mae’r Fforwm yn grwp amlasiantaethol sy’n rhannu gwybodaeth ac arferion da, ac sy’n lobïo dros faterion sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc anabl
Amcanion y Fforwm yw:
Pwy sy’n Mynychu?
Ar hyn o bryd, fe fynychir y Fforwm gan weithwyr proffesiynol o feysydd addysg, iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol a’r sector gwirfoddol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl.
Beth sy’n Digwydd Mewn Cyfarfodydd Fforwm?
Y mae’r rhaglen ar gyfer pob fforwm yn cynnwys cyflwyniadau a roddir gan gynrychiolwyr sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant anabl, trafodaeth ynglyn â phynciau allweddol a datblygu ymatebion i ymgynghoriadau. Y mae yna hefyd gyfle i aelodau rannu gwybodaeth am weithgareddau diweddar mewn Cyfnewidfa Gwybodaeth.
Pa mor Aml y Cynhelir Cyfarfodydd?
Y mae’r Fforwm Cymru Gyfan yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn yng Nghanolbarth Cymru. Cost
Fe wna Plant yng Nghymru dalu am logi’r man cyfarfod, ac fe ofynnir i gyfranogwyr gyfrannu £5.00 tuag at gost y cinio bwffe.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Catherine Lewis – Swyddog Datblygu Rhoi Plant yn Gyntaf (Plant Anabl, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: catherine.lewis@childreninwales.org.uk