Y mae’r is-fforwm anabledd yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn, gyda dau gyfarfod yn cael eu cynnal yng Ngogledd Cymru, De Orllewin Cymru a De Ddwyrain Cymru. Y mae’r cyfarfodydd hyn yn rhoi cyfle i drafod materion yn fanylach nag sy’n bosibl ym mhrif gyfarfodydd y Fforwm a’r nod yw annog gwaith rhyngasiantaethol rhwng grwpiau o awdurdodau lleol. Y mae’r cyfarfod yn agored i bob gweithiwr proffesiynol o’r sectorau statudol a gwirfoddol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl yn y meysydd a gaiff eu cwmpasu gan amrywiol gyfarfodydd yr is-Fforwm.
Fe gynhelir cyfarfodydd yr is-Fforwm fel cyfarfodydd hanner diwrnod. Fel arfer, fe drafodir dau bwnc ym mhob cyfarfod, gyda’r gweithdy trafodaeth ar gyfer pob pwnc yn cadw at y fformat hwn.
Ar ôl sesiynau’r gweithdy, fe ddarperir cinio bwffe i’r aelodau hynny sy’n dymuno aros. Y mae hyn yn rhoi cyfle da ar gyfer rhwydweithio anffurfiol ymysg aelodau’r Fforwm.
Y mae’r pynciau a drafodwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys – Egwyl fer, Addysg ar gyfer plant anabl a’r sawl sydd ag anghenion addysgol arbennig, Trawsnewidiadau, Chwarae a Hamdden. Y mae yna bapurau wedi’u paratoi ynglyn â’r pynciau uchod ac fe gânt eu cyflwyno i’r Grwp Polisi ar gyfer eu trafod cyn cael eu cyflwyno i gynrychiolwyr yn Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda’r nod o ddylanwadu ar ddatblygiadau polisi ar gyfer plant anabl yng Nghymru.
Cost
Y mae Plant yng Nghymru yn talu am logi’r man cyfarfod ac fe ofynnir i gyfranogwyr gyfrannu £5.00 tuag at gost y cinio bwffe.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Catherine M. Lewis – Swyddog Datblygu Rhoi Plant yn Gyntaf (Plant Anabl), Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: catherine.lewis@childreninwales.org.uk