Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
    Cefnogi Cynnar
    Plant Anabl yn Cyfrif Cymru
    Fforwm Cymru Gyfan o eiddo Plant yng Nghymru ar Faterion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Anabl.
    » Cyfarfodydd Is-Fforwm Anabledd
    Grwp Polisi ar Faterion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Anabl
    Rhwydweithiau ar gyfer Pobl Anabl Ifanc
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Llythrennedd Emosiynol
  • Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Gwaith Rhyngwladol
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Cyfranogaeth
  • Magu Plant
  • Ymchwil
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Anabledd »Cyfarfodydd Is-Fforwm Anabledd
Cyfarfodydd Is-Fforwm Anabledd

Y mae’r is-fforwm anabledd yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn, gyda dau gyfarfod yn cael eu cynnal yng Ngogledd Cymru, De Orllewin Cymru a De Ddwyrain Cymru. Y mae’r cyfarfodydd hyn yn rhoi cyfle i drafod materion yn fanylach nag sy’n bosibl ym mhrif gyfarfodydd y Fforwm a’r nod yw annog gwaith rhyngasiantaethol rhwng grwpiau o awdurdodau lleol. Y mae’r cyfarfod yn agored i bob gweithiwr proffesiynol o’r sectorau statudol a gwirfoddol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl yn y meysydd a gaiff eu cwmpasu gan amrywiol gyfarfodydd yr is-Fforwm.

Beth yw’r Fformat ar gyfer y Cyfarfodydd?

Fe gynhelir cyfarfodydd yr is-Fforwm fel cyfarfodydd hanner diwrnod.  Fel arfer, fe drafodir dau bwnc ym mhob cyfarfod, gyda’r gweithdy trafodaeth ar gyfer pob pwnc yn cadw at y fformat hwn.

  • Trosolwg/cyflwyniad i’r testun sydd i’w drafod. 
  • Fe anogir cynrychiolwyr pob awdurdod lleol sy’n bresennol i rannu gwybodaeth gyda’u grwp am y sefyllfa gyfredol yn eu hawdurdod lleol.
  • Fe roddir cyfleoedd i rannu enghreifftiau o arferion da. 
  • Fe anogir aelodau i drafod unrhyw anawsterau a gaiff eu profi ac i drafod ffyrdd o’u goresgyn hwynt.

Ar ôl sesiynau’r gweithdy, fe ddarperir cinio bwffe i’r aelodau hynny sy’n dymuno aros.  Y mae hyn yn rhoi cyfle da ar gyfer rhwydweithio anffurfiol ymysg aelodau’r Fforwm.

Y mae’r pynciau a drafodwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys – Egwyl fer, Addysg ar gyfer plant anabl a’r sawl sydd ag anghenion addysgol arbennig, Trawsnewidiadau, Chwarae a Hamdden. Y mae yna bapurau wedi’u paratoi ynglyn â’r pynciau uchod ac fe gânt eu cyflwyno i’r Grwp Polisi ar gyfer eu trafod cyn cael eu cyflwyno i gynrychiolwyr yn Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda’r nod o ddylanwadu ar ddatblygiadau polisi ar gyfer plant anabl yng Nghymru.

Cost

Y mae Plant yng Nghymru yn talu am logi’r man cyfarfod ac fe ofynnir i gyfranogwyr gyfrannu £5.00 tuag at gost y cinio bwffe.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Catherine M. Lewis – Swyddog Datblygu Rhoi Plant yn Gyntaf (Plant Anabl), Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: catherine.lewis@childreninwales.org.uk

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313