Fe sefydlwyd HAP Wales (Cyngor Diogelwch Cartrefi Cymru yn flaenorol) dros ugain mlynedd yn ôl i ysgogi, cefnogi, cydgysylltu a hyrwyddo’r gwaith o atal damweiniau yn y cartref. Y mae aelodaeth o’r sefydliad yn agored i Awdurdodau Lleol, cyrff statudol, mudiadau gwirfoddol a sefydliadau masnachol (ble y bo’n briodol).
Er gwaethaf y niferoedd mawr o bobl sy’n mynychu’r adran damweiniau ac achosion brys bob blwyddyn o ganlyniad i ddamwain yn y cartref, y mae’r sefydliad yn flaenorol wedi gorfod brwydro i ennill cynrychiolaeth oddi wrth bob un o’r 22 o awdurdodau lleol. Fe wnaeth y heriau yma arwain at adolygiad o'r Cyngor Diogelwch Cartrefi Cymru Er mwyn penderfynu a oes ganddo ran i chwarae gyda dylanwadu ar atal damweiniau yn y cartref yng Nghymru.
Fe sefydlwyd gweithgor i gynnal adolygiad. Fe wnaeth y grŵp hwn ystyried llawer o faterion, yn cynnwys:
Y mae’r adolygiad wedi canfod yr angen am arweiniad ynglŷn ag atal damweiniau yn y cartref, ac y mae wedi argymell newidiadau trefniadaethol a strwythurol. Y mae’r newidiadau hyn yn cael eu cofleidio’n llwyr gan y cyngor, ac y maent yn awr yn edrych ymlaen at ddyfodol disgleiriach, mwy cadarnhaol ar gyfer atal damweiniau yn y cartref yng Nghymru.
Y mae’r Review of the Wales Home Safety Council ar gael i’w lawrlwytho.
Os hoffech ragor o wybodaeth am yr adolygiad neu os hoffech ddod yn gysylltiedig ag Atal Damweiniau yn y Cartref yng Nghymru, a fyddech cystal â chysylltu â helen.wilson@pembrokeshire.org.uk