Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
    • Strategaethau Atal Damweiniau Awdurdodau Lleol
    • Cynhadledd IOBI
    • Diogelwch ar y Fferm
    • Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop
    • Diogelwch Dwr
    • Ystadegau am Anafiadau
    • Cyngor Diogelwch Cartrefi Cymru
    • Ymyriadau gydag Anafiadau
    • Cynllun Gweithredu Diogelwch Plant
    • Rhwydwaith Cyfnewid Arferion a Gwybodaeth am Atal Damweiniau i Blant (CHAPPIE)
    • Diogelwch yn y Cartref
    • Rhiant a Gofalwr
    • Atal Anafiadau Plentyndod
    • Adnoddau & Chysylltiadau Defnyddiol - Cyffredinol
    • Useful Links - Road Safety
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • 'Sdim Curo Plant!
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Y Cyfryngau
  • Cyfranogaeth
  • Magu Plant
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Adnoddau & Chysylltiadau Defnyddiol - Cyffredinol
Adnoddau & Chysylltiadau Defnyddiol - Cyffredinol

Adnoddau

Damweiniau a datblygiad plant
Canllaw cynhwysfawr i risgiau damweiniau plant ar wahanol gyfnodau yn eu datblygiad, o enedigaeth i 11 mlwydd oed. Ar gyfer pob un cyfnod o ddatblygiad, y mae’r canllaw’n darparu ffeithiau ac ystadegau allweddol, amlinelliad o alluoedd a nodweddion plant, disgrifiad o ddamweiniau cyffredin ynghyd â chynghorion ymarferol ynglŷn â diogelwch.
£9 oddi wrth Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau i Blant (CAPT).

Dangerspot Books
Llyfrau doniol ar gyfer diogelwch plant, i osgoi damweiniau.

Designed for Life: Creating world class Health and Social Care for Wales in the 21st Century
Gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru dros gyfnod o ddeng mlynedd ar gyfer creu fframwaith iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Cynhyrchwyd yn 2005.

Injury Prevention News
Taflen newyddion yn darparu ffynhonnell o wybodaeth am ddim i ymarferwyr atal anafiadau ynglŷn â mentrau newydd, cyhoeddiadau o ystadegau, canfyddiadau ymchwil, cyfleoedd a digwyddiadau hyfforddi.

Atal damweiniau yn ystod plentyndod: canllaw ar weithredu effeithiol
Canllaw cynhwysfawr ar gyfer adeiladu strategaeth atal damweiniau ymysg plant sy’n effeithiol, a ategir gan enghreifftiau ymarferol o fframweithiau rhaglenni a mentrau a dangosyddion lleol, fel ei gilydd.
£9 oddi wrth Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau i Blant.

Atal a lleihau anafiadau damweiniol ymysg plant a phobl hŷn: Cyfarwyddiad tystiolaeth
Y mae’r cyfarwyddiad gan Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE) yn crynhoi amryw o adolygiadau o dystiolaeth yn ymwneud â lleihau ac atal anafiadau damweiniol ymysg plant a phobl hŷn. Y mae’n amcanu at amlygu pa fesurau, yn cynnwys ymyriadau, sydd â’r potensial i atal neu i leihau anafiadau damweiniol, yn ogystal â nodi bylchau ac anghysonderau yn y dystiolaeth.

Diogelwch mewn lleoliadau gofal dydd a chwarae
Canllaw i atal damweiniau i blant ar gyfer gwarchodwyr plant a threfnwyr cyfleusterau gofal dydd a chwarae eraill. Y mae’n cynnwys llunio cynllun diogelwch, dewis cyfarpar diogelwch, hyfforddi staff a beth i wneud os yw plentyn yn cael ei anafu.
£7 oddi wrth Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau i Blant.

Canllaw Cynnyrch Eurosafe o ran Diogelwch Plant
Fe ysgrifennwyd y canllaw hwn er mwyn lleihau anafiadau ymysg plant yn gysylltiedig â chynhyrchion drwy ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr am bump ar hugain o gynhyrchion y mae arbenigwyr ar ddiogelwch plant yn Ewrop wedi’u nodi fel rhai sydd â pheryglon o achosi anaf i blant.

Dolenni

Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau
Y sefydliad cenedlaethol sy’n arbenigo ym mhob mathau o atal anafiadau. Gwych ar gyfer bod yn gyfoes â’r prosiectau a’r newyddion diweddaraf.

Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant
Y mae’r Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant (CAPT) yn elusen genedlaethol sydd wedi ymrwymo i leihau nifer y plant a phobl ifanc sy’n cael eu lladd, eu hanablu neu’u hanafu’n ddifrifol o ganlyniad i ddamweiniau.

Cydweithio er Atal Damweiniau a Rheoli Anafiadau
Dyma gydweithrediad aml-asiantaethol, amlddisgyblaethol o unigolion a sefydliadau sy’n cymorth mentrau atal anafiadau ledled Cymru.

Ymddiriedolaeth Tân a Llosgiadau Plant
Y mae’r Ymddiriedolaeth Tân a Llosgiadau Plant (CFBT) wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i blant sydd wedi’u hanafu drwy losgi a sgaldian, a’u teuluoedd.

Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop
Y mae Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop yn rhaglen o eiddo’r sefydliad Ewropeaidd, EuroSafe. Fe’i cynhelir a’i cefnogir gan y Sefydliad Diogelwch Defnyddwyr yn Yr Iseldiroedd.

Y Gymdeithas Ryngwladol er Atal Anafiadau Plant a’r Glasoed
Y mae’r sefydliad hwn yn hyrwyddo cyfnewid syniadau, gwyddor, a phrofiad ymysg aelodau i hwyluso cydweithio, gweithgareddau, a seminarau rhyngwladol ar ymchwil, rhaglennu, a pholisi.

Cynllun Atal Anafiadau a Diogelwch Plant Preston
Gwefan lachar a lliwgar gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer oedolion ac yn enwedig plant. Y mae cwisiau a gweithgareddau llawn hwyl ar gyfer plant yn cael eu cynnwys.

Yr Ystafell - Gwefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i bobl ifanc 13-17 oed yng Nghymru. Mae'n cynnwys rhestr o ddolenni defnyddiol ynglyn â ddiogelwch (dewiswch 'Safety' o dan Categoriau).

SafetyLit

Ymgyrch ‘Gwnewch o’n Ddiogel’
Manylion yr ymgyrch i gael rhieni i gadw’u cysgodlenni yn ddiogel, dan arweiniad Cymdeithas Llenni a Chaeadau Prydain

Rhieni dros Ddiogelwch Cysgodlenni Ffenestri
Mae’r wefan hon yn cynnwys fideos sy’n dangos sut mae cortynnau cysgodlenni yn beryglus


Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Adnoddau & Chysylltiadau Defnyddiol - Cyffredinol

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence