Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau Y sefydliad cenedlaethol sy’n arbenigo ym mhob mathau o atal anafiadau. Gwych ar gyfer bod yn gyfoes â’r prosiectau a’r newyddion diweddaraf.
Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant Y mae’r Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant (CAPT) yn elusen genedlaethol sydd wedi ymrwymo i leihau nifer y plant a phobl ifanc sy’n cael eu lladd, eu hanablu neu’u hanafu’n ddifrifol o ganlyniad i ddamweiniau.
Cydweithio er Atal Damweiniau a Rheoli Anafiadau Dyma gydweithrediad aml-asiantaethol, amlddisgyblaethol o unigolion a sefydliadau sy’n cymorth mentrau atal anafiadau ledled Cymru.
Ymddiriedolaeth Tân a Llosgiadau Plant Y mae’r Ymddiriedolaeth Tân a Llosgiadau Plant (CFBT) wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i blant sydd wedi’u hanafu drwy losgi a sgaldian, a’u teuluoedd.
Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop Y mae Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop yn rhaglen o eiddo’r sefydliad Ewropeaidd, EuroSafe. Fe’i cynhelir a’i cefnogir gan y Sefydliad Diogelwch Defnyddwyr yn Yr Iseldiroedd.
Y Gymdeithas Ryngwladol er Atal Anafiadau Plant a’r Glasoed Y mae’r sefydliad hwn yn hyrwyddo cyfnewid syniadau, gwyddor, a phrofiad ymysg aelodau i hwyluso cydweithio, gweithgareddau, a seminarau rhyngwladol ar ymchwil, rhaglennu, a pholisi.
Cynllun Atal Anafiadau a Diogelwch Plant Preston Gwefan lachar a lliwgar gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer oedolion ac yn enwedig plant. Y mae cwisiau a gweithgareddau llawn hwyl ar gyfer plant yn cael eu cynnwys.
Yr Ystafell - Gwefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i bobl ifanc 13-17 oed yng Nghymru. Mae'n cynnwys rhestr o ddolenni defnyddiol ynglyn â ddiogelwch (dewiswch 'Safety' o dan Categoriau).