Y mae ystadegau sy’n berthnasol i weithwyr proffesiynol atal damweiniau ar gael oddi wrth y ffynonellau a ganlyn:
CAPICY mae CAPIC (Cefnogi Cydweithredu er mwyn Lleihau Damweiniau a Rheoli Anafiadau) yn gydweithrediad amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol o unigolion a sefydliadau sy’n cefnogi cynlluniau atal anafiadau ledled Cymru. Y mae’u gwefan yn cynnwys dolenni i amrywiaeth o ystadegau am anafiadau.
Adroddiad System Arolygu Damweiniau yn y Cartref 2002Y mae’n cynnwys ystadegau am ddamweiniau sydd wedi digwydd yn y cartref ac wrth hamddena yn y Deyrnas Unedig, ble y mae’r dioddefwr wedi ymofyn triniaeth mewn ysbyty yn ystod 2000, 2001 a 2002.
EurosafeY mae gwefan Eurosafe yn cynnwys data am ddamweiniau ac anafiadau yn yr Undeb Ewropeaidd.
Arolwg o Anafiadau Tân Gwyllt y Deyrnas Unedig, 2005 Crynodeb o anafiadau tân gwyllt yn 2005. Paratowyd gan yr Adran Masnach a Diwydiant.
Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA)Y mae gwefan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yn cynnwys ystadegau boddi, ystadegau am ddamweiniau cyffredinol, a throsolwg ar ystadegau damweiniau.
Ystadegau Tân
Ystadegau Tân Cymru, 2006Y mae’r bwletin hwn, a gyhoeddwyd gan Gyfarwyddiaeth Ystadegol Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cyflwyno ystadegau am ddigwyddiadau tân yng Nghymru.
Ystadegau Anafusion Ffyrdd
Anafusion Ffyrdd yng Nghymru – ffigurau chwarterol dros dro 2008 Y mae’r Datganiad Cyntaf hwn yn darparu amcangyfrifon hyd at fis Mawrth 2008 o anafusion yng Nghymru yn deillio o ddamweiniau ffyrdd yn peri anafiadau personol.
Anafusion Ffyrdd 2007 Ystadegau am Anafusion Ffyrdd yng Nghymru am y cyfnod hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2007.
Ystadegau Poblogaeth
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yw’r mesur swyddogol o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru.
Poblogaeth Cymru 2008Trosolwg cynhwysfawr ar ystadegau demograffig ar gyfer Cymru.
Yr arolwg Byw yng Nghymru 2007Gwybodaeth ystadegol am gartrefi yng Nghymru.
Ffocws Ystadegol ar Gymru a’r DU 2007Y mae gwybodaeth yn cynnwys disgwyliad oes, incwm cartrefi, gweithgaredd economaidd ac addysg.
Y mae ystadegau defnyddiol eraill ar gael oddi wrth yr adran Polisi o wefan Plant yng Nghymru.