Y mae’r pecyn hwn wedi’i gynllunio i gael ei ddefnyddio gan weithwyr iechyd proffesiynol i hyfforddi rhieni a gofalwyr plant ynglŷn â diogelwch ffrâm gerdded i fabanod.
1. Fe argymhellir fod y person sy’n darparu’r hyfforddiant yn darllen yr ‘Hyfforddiant Ffrâm Gerdded i Fabanod – pecyn dosbarthu’ yn drwyadl er mwyn ymgyfarwyddo â strwythur y sesiwn, gan gynnwys unrhyw waith paratoi sydd ei angen.
2. Y cyflwyniad Power Point ddylai wedyn fod y prif offer a ddefnyddir yn ystod yr hyfforddiant ei hun. Fe fydd yr amser a gymerir i gyflwyno’r sesiwn yn amrywio o grŵp i grŵp, yn dibynnu ar ba mor rhyngweithiol yr ydych yn dymuno gwneud y sesiwn. Fel amcangyfrif, ceisiwch â chaniatáu o leiaf 90 munud. A fyddech cystal â nodi bod yna ar rai sleidiau ‘Nodiadau i’r Hyfforddwr’ sy’n ymddangos pan ydych yn edrych ar y Power Point yn ‘Normal view’.
3. Fe fydd arnoch angen argraffu dau gopi o ‘Gweithgaredd A’ ar gyfer pob un o’ch hyfforddeion. Fe allech hefyd hoffi argraffu ‘Gweithgaredd B’ i mewn i dryloywlun uwchben (fe fydd arnoch angen uwchdaflunydd yn ystod y sesiwn).
4. Yn olaf, fe fydd arnoch angen argraffu copi o ‘Hyfforddiant Ffrâm Gerdded i Fabanod - pecyn dosbarthu’ ar gyfer pob un o’ch hyfforddeion i fynd gyda hwynt adref. Fe awgrymir yn gryf nad yw’r pecynnau hyn yn cael eu dosbarthu tan ddiwedd y sesiwn hyfforddi.
Pecyn i’w Ddosbarthu Gweithgaredd A (Cwestiynau) Gweithgaredd A (Atebion)Gweithgaredd B Ymwybyddiaeth Diogelwch BW - Cyflwyniad Power Point