Yn 2006, fe gafodd yna 1,297 o blant eu hanafu mewn damweiniau ar y ffyrdd yng Nghymru, a gafodd 144 ohonynt eu llad neu eu anafu'n ddifrifol. Yr oedd 33% o’r rhai a anafwyd neu a laddwyd yn gerddwyr ac yr oedd 14% yn ddisgyblion ysgol yn teithio i ac o’r ysgol.
Y mae’r adran hon yn darparu ystod o ddolenni i sefydliadau ac adnoddau defnyddiol yn ymwneud â materion diogelwch ar y ffyrdd.
BrakeElusen genedlaethol yn ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd yw Brake, sydd â’r nod o atal marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd ac sy’n gofalu am y sawl sydd wedi cael profedigaeth neu yr effeithiwyd arnynt gan anaf difrifol.
Y Clwb Traffig PlantY mae’r Clwb Traffig Plant yn galluogi plant 3 a 4 mlwydd oed i ddysgu am sgiliau diogelwch ar y ffyrdd mewn ffordd sy’n llawn hwyl.
Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru Y mae Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru yn gweithio i ostwng nifer y bobl sy’n cael eu hanafu a’u lladd, a hynny drwy gydweithio. Y maent yn cynhyrchu taflen newyddion chwarterol a chyngor ynglŷn ag addysg a hyfforddiant parthed diogelwch ar y ffyrdd.
Y Groes Goch Brydeinig - tudalen diogelwch ar y ffyrddGwybodaeth ar ddiogelwch ar y ffyrdd a sgiliau cymorth cyntaf ar gyfer aros yn ddiogel ar y ffyrdd.
Llwybrau Diogelach i’r Ysgol Y mae hafan y Llwybrau Diogelach i’r Ysgol yn darparu gwybodaeth a chyngor i’r sawl sy’n dymuno dechrau prosiectau llwybrau diogelach i’r ysgol.
Meddyliwch!Dyma wefan Diogelwch ar y Ffyrdd o eiddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Road Stuff Y mae Road Stuff yn ymgyrchu ynglŷn â materion diogelwch ar y ffyrdd ac y mae’n darparu cyngor am ddiogelwch ar y ffyrdd.
RoadPeace (Hedd ar Ffyrdd)Elusen Brydeinig yw hon sy’n cefnogi’r sawl sydd wedi cael profedigaeth ac sydd wedi’u hanafu o ganlyniad i ddamweiniau ffyrdd.
Seddau car plant Gwybodaeth oddi wrth RoSPA ac ymgyrch Meddyliwch! Diogelwch ar y ffyrdd. Hwn yw’r canllaw diffiniol sy’n llawn o wybodaeth ddibynadwy, yn ogystal â bod yn offer i chwilio am eich gwasanaethau gwirio seddau car lleol.
Siwrne SaffNôd yr ymgyrch yw gwneud ffyrdd Gogledd Cymru yn saffach drwy annog unigolion i gadw at y cyfyngiadau cyflymder, ac felly’n gostwng cyflymder, lleihau gwrthdrawiadau ac felly’n gostwng y nifer sy’n cael eu lladd a’u hanafu.
Tudalennau Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cynulliad Cymru Y mae’r adran hon o wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn egluro’r gwaith diogelwch ar y ffyrdd y mae’r Cynulliad yn ei gefnogi.
Ystadegau ar gyfer Cymru - Anafusion Ffyrdd 2006: Diogelwch Plant ar y Ffordd Ystadegau sydd yn cynnwys dadansoddiad manwl o ddamweiniau ffyrdd sy’n ymwneud â phlant yr hysbyswyd yr heddlu amdanynt.