Fel rhiant neu ofalwr, fe all fod yn anodd a dryslyd ceisio â chanfod adnoddau dibynadwy a hawdd cael gafael arnynt ynglŷn ag atal damweiniau plant.
Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant - Y mae’r Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant yn elusen sy’n darparu adnoddau, cyngor, hyfforddiant a gwybodaeth ragorol am bob mathau o faterion atal damweiniau plant.
Cynllun Atal Damweiniau a Diogelwch Plant - Yn ychwanegol, y mae gan y Cynllun Atal Damweiniau a Diogelwch Plant a leolir yn Preston, swydd Gaerhirfryn wefan lachar a deniadol yn gyforiog o wybodaeth. Ar gyfer pob un maes pwnc, y mae yna adran ar gyfer oedolion ac un ar gyfer plant, sy’n cynnwys gemau, pethau i lawrlwytho a chwisiau llawn hwyl. Y mae hon yn wefan wirioneddol ragorol!
Cynorthwyo Gyrwyr sy’n Dysgu i fod yn Yrwyr Diogelach - Y mae’n cynnwys gwybodaeth ar gyfer dysgwyr a rhieni/gofalwyr, fel ei gilydd, yn cynnwys cyngor a gwybodaeth ymarferol yn ymwneud â’r gyfraith a gyrwyr sy’n dysgu.
Diogel Gartref - Y mae SafeHome wedi’i ddatblygu i’ch cynorthwyo chi i ganfod peryglon a nodweddion diogelwch yn eich cartref ac i ddarparu cyngor ynglŷn â gwella diogelwch.
Draenogod - Gwefan diogelwch ar y ffyrdd ryngweithiol a llawn hwyl ar gyfer plant ieuainc. Y mae plant yn dysgu holl agweddau diogelwch ar y ffyrdd drwy gynorthwyo’u draenog i groesi’r ffordd, cael eu gweld yn y nos a gwisgo helmed feicio.
Gwefan Tân Gwyllt RoSPA Y mae gwefan Tân Gwyllt RoSPA yn darparu cyngor ynglŷn â sut i ddefnyddio tân gwyllt yn ddiogel, deddfwriaeth, sut i drefnu’ch arddangosfa’ch hun, ynghyd â dolenni i wefannau defnyddiol eraill.
Gwiriad Diogelwch am ddim rhag Tân yn y Cartref - Y mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru’n cynnig gwiriad diogelwch am ddim rhag tân yn y cartref. Fe wnânt drefnu ymweld â’ch cartref, gosod synwyryddion mwg am ddim (os oes angen) a rhoi cyngor ynglŷn â sut y gallwch chi a’ch teulu leihau’ch risg o dân - mae o am ddim!
Lôn Beryglus – Gwefan Diogelwch Plant Ryngweithiol - Yma, fe all plant chwarae gemau llawn hwyl, tra eu bod yn dysgu am beryglon a risgiau mewn gwahanol leoliadau a beth i wneud.
Planhigion GwenwynigMae gwybodaeth ar blanhigion gwenwynig ar gael oddi ar wefan y Royal Horticultural Society a gwefan Real Gardeners.
Pwyllwch! Diogelwch ar y Ffordd Fawr - Gwybodaeth ar gyfer rhieni, plant a phobl ifanc yn eu harddegau am bob agwedd o ddiogelwch ar y ffyrdd.
Seddau Car Plant - Gwefan wych sy’n rhoi gwybodaeth ichi am y mathau o seddau car sydd ar gael, sut i ddewis un a’r hyn y mae arnoch angen ei wybod am y gyfraith a chludo plant yn ddiogel.