Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Meysydd Gwaith
    • Eiriolaeth
    • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
    • Bwlio
    • Atal Damweiniau Plant
      • Strategaethau Atal Damweiniau Awdurdodau Lleol
      • Cynhadledd IOBI
      • Diogelwch ar y Fferm
      • Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop
      • Diogelwch Dwr
      • Ystadegau am Anafiadau
      • Cyngor Diogelwch Cartrefi Cymru
      • Ymyriadau gydag Anafiadau
      • Cynllun Gweithredu Diogelwch Plant
      • Rhwydwaith Cyfnewid Arferion a Gwybodaeth am Atal Damweiniau i Blant (CHAPPIE)
      • Diogelwch yn y Cartref
      • Rhiant a Gofalwr
      • Atal Anafiadau Plentyndod
      • Adnoddau & Chysylltiadau Defnyddiol - Cyffredinol
      • Useful Links - Road Safety
    • Tlodi Plant
    • Hawliau Plant
    • Anabledd
    • Blynyddoedd Cynnar
    • 'Sdim Curo Plant!
    • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
    • Plant sy’n Derbyn Gofal
    • Y Cyfryngau
    • Cyfranogaeth
    • Magu Plant
    • Diogelu Plant
    • Y Sector Gwirfoddol
    • Gofalwyr Ieuainc

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Diogelwch Plant: Atal Anafiadau Damweiniol ac Anfwriadol
Diogelwch Plant: Atal Anafiadau Damweiniol ac Anfwriadol

Bob blwyddyn yng Nghymru, y mae mwy na 145,000 o blant a phobl ifanc yn mynychu Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys oherwydd anaf anfwriadol, sy’n gyfwerth â thua 400 o blant bob un diwrnod.

Nod Plant yng Nghymru yw lleihau’r nifer hwn, ac y mae’n gwaith yn rhoi sylw i atal damweiniau ym mhob lleoliad, yn cynnwys gartref, ar y ffyrdd, o amgylch dŵr ac yn yr ysgol. Yr ydym yn cefnogi ac yn gweithio’n agos gydag aelodau ac ymarferwyr ledled Cymru i leihau’r nifer o blant a phobl ifanc sy’n cael eu hanafu drwy ddamweiniau bob blwyddyn.

Y mae gwaith Plant yng Nghymru’n cynnwys:

  • Datblygu a gweithredu’r Strategaeth Atal Damweiniau i Blant gyntaf ar gyfer Cymru;
  • Gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo’r gwaith o atal damweiniau ac anafiadau anfwriadol i blant;
  • Hyrwyddo ymchwil ynglŷn ag atal anafiadau;
  • Hyrwyddo casglu data a gwyliadwriaeth ar anafiadau;
  • Cydgysylltu rhwydwaith atal damweiniau effeithiol drwy Gymru i gyd;
  • Gwella gwaith atal damweiniau cenedlaethol a lleol;
  • Hyrwyddo arferion da yn seiliedig ar dystiolaeth;
  • Cynnwys plant a phobl ifanc;
  • Darparu cyngor, gwybodaeth, hyfforddiant ac adnoddau i ymarferwyr yn y maes.

Adnoddau dwyieithog ar gyfer Wythnos Diogelwch PlantOSA sample

Mae Plant yng Nghymru yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant (CAPT) i nodi adnoddau dwyieithog a all gael eu defnyddio yn ystod Wythnos Diogelwch Plant, yn ogystal â thrwy gydol y flwyddyn.

Mae One Step Ahead yn siart mur diogelwch arloesol gan yr Ymddiriedolaeth ar gyfer rieni a gofalwyr plant 0-2 flwydd oed. Wedi ei arlunio’n hardd mewn lliw llawn, mae’n cynnwys matrics hawdd ei ddeall sy’n gweddu oedran a datblygiad y plentyn â pheryglon yn y cartref.

Mae rhieni sy’n mynd i adrannau damweiniau a brys pan fydd eu plentyn wedi cael damwain yn dweud yn aml ei bod yn syndod iddynt y gallai’r plentyn rolio/cropian/dringo/cyrraedd/agor drysau a chypyrddau neu dynnu caeadau. Mae’r siart mur One Step Ahead yn ymdrin â hyn drwy roi iddynt yr wybodaeth maent ei hangen i aros un cam ar y blaen wrth atal eu plentyn rhag cael damwain ddifrifol yn y cartref.

Mewn cydweithrediad â Plant yng Nghymru, mae’r Ymddiriedolaeth yn bwriadu cynhyrchu, os oes digon o alw, fersiwn sydd â’r Gymraeg ar un ochr a’r Saesneg ar y llall. Mae pecynnau o 50 o siartiau mur lliw llawn ar gael am £50 gan gynnwys pecynnu a phostio.

Cliciwch yma i weld y fersiwn sampl

I rag-archebu, mae ond angen anfon e-bost at gillian.colver@capt.org.uk gyda’r manylion anfonebu a dosbarthu erbyn 31 Ionawr 2012. Os cawn o leiaf 20 archeb, caiff y siartiau mur eu hargraffu a’u hanfon ym mis Chwefror ynghyd â’ch anfoneb.

Fe ddylid cyfeirio ymholiadau yn ymwneud â’r gwaith hwn at:

Karen McFarlane
Swyddog Datblygu: Diogelwch Plant
Ffôn: 029 2034 2434

Ariannir swydd Karen gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy'r Cynllun Grantiau Her Iechyd Cymru i'r Sector Gwirfoddol.

Y mae'r gwaith hyn yn cynnwys:

Tuag at Strategaeth Diogelwch Plant ar gyfer Cymru

Rhwydwaith Cyfnewid Arferion a Gwybodaeth am Atal Damweiniau i Blant (CHAPPIE)

Adnoddau a Ddolenni ddefnyddiol

Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop

Cynhadledd IOBI 24 & 25 Medi 2009 - Cyflwyniadau

HAP Cymru

Ymyriadau gydag Anafiadau

Gwybodaeth ar gyfer rhiant neu ofalwr plant

Ymchwil ac adroddiadau ynglŷn ag Atal Anafiadau Plentyndod

Ystadegau

Adnoddau & Dolenni Defnyddiol – Cyffredinol

Adnoddau & Dolenni Defnyddiol - Diogelwch ar y Ffyrdd

Anoddau & Dolenni Defnyddiol - Diogelwch yn y Cartref

Anoddau & Dolenni Defnyddiol - Diogelwch Dŵr

Adnoddau & Dolenni Defnyddiol - Strategaethau Atal Damweiniau Awdurdodau Lleol

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Diogelwch Plant: Atal Anafiadau Damweiniol ac Anfwriadol

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence