Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
    • Diogelwch yn y Cartref: Darparu yn y Gymuned
    • Strategaethau Atal Damweiniau Awdurdodau Lleol
    • Cynhadledd IOBI
    • Diogelwch ar y Fferm
    • Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop
    • Diogelwch Dwr
    • Ystadegau am Anafiadau
    • Cyngor Diogelwch Cartrefi Cymru
    • Ymyriadau gydag Anafiadau
    • Cynllun Gweithredu Diogelwch Plant
    • Rhwydwaith Cyfnewid Arferion a Gwybodaeth am Atal Damweiniau i Blant (CHAPPIE)
    • Diogelwch yn y Cartref
    • Rhiant a Gofalwr
    • Atal Anafiadau Plentyndod
    • Adnoddau & Chysylltiadau Defnyddiol - Cyffredinol
    • Useful Links - Road Safety
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • 'Sdim Curo Plant!
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Y Cyfryngau
  • Cyfranogaeth
  • Magu Plant
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Diogelwch yn y Cartref
Diogelwch yn y Cartref

Adnoddau

Gwenwyno Carbon Monocsid

Bob blwyddyn, mae rhyw 50 o farwolaethau damweiniol o ganlyniad i wenwyno Carbon Monocsid (CO) aciwt yng Nghymru a Lloegr a mwy na 200 o achosion o wenwyno nad yw’n farwol lle mae angen derbyn y dioddefwr i’r ysbyty. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu cyngor i weithwyr iechyd proffesiynol gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth am wenwyno CO.

Gwenwyno Carbon Monocsid: Marwolaethau Diangen, Anafiadau y gellir eu hosgoi

Strategaeth Diogelwch yn y Cartref Gogledd Iwerddon

Yn 2004, cynhyrchodd Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd (DHSS&PS) Gogledd Iwerddon Strategaeth a Chynllun Gweithredu pum mlynedd ar gyfer Atal Damweiniau yn y Cartref. Prif amcanion y Strategaeth oedd:

  • Lleihau damweiniau yn y cartref, yn enwedig ymhlith y rhai yn y perygl mwyaf (rhai o dan 5 a thros 65 oed)
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o’r achosion a hybu mesurau atal effeithiol
  • Hybu a hwyluso hyfforddiant effeithiol, sgiliau a gwybodaeth ar draws yr holl sefydliadau, grwpiau ac unigolion perthnasol

Mewn cwta bum mlynedd, mae Gogledd Iwerddon wedi cyflawni gostyngiad rhyfeddol o 54% yn y derbyniadau i’r ysbyty a achoswyd gan ddamweiniau yn y cartref.

Home Accident Prevention Strategy and Action Plan 2004 -2009 (Saesneg un unig)
Report on the Review of the Home Accident Prevention Strategy and Action Plan 2004 - 2009 (Saesneg un unig)

Cyfarwyddeb Diogelwch Teganau

Daeth Cyfarwyddeb Diogelwch Teganau newydd Ewrop, a gyhoeddwyd yn 2009, i rym ar 20 Gorffennaf 2011. Erbyn hyn, mae’n rhaid i bob Aelod-wladwriaeth gydymffurfio â rheolau a gofynion diogelwch newydd i amddiffyn plant a lleihau damweiniau gyda theganau peryglus.

Cyfarwyddeb Diogelwch Teganau 2009
Dogfen Arweiniad
Taflen Diogelwch Teganau Cyfarwyddeb
Ffeithlen Darpariaeth o ran Rhybuddion
Ffeithlen Cwmpas y Gyfarwyddeb
Ffeithlen datganiad o Gydymffurfiaeth
Awgrymiadau diogelwch teganau

Gwnewch chi'n ddiogel!
Mae Plant yng Nghymru wedi gweithio mewn partneriaeth â British Blind and Shutter Association (BBSA). Mae eu taflen ardderchog, Make it Safe, sy'n darparu gwybodaeth ar atal damweiniau llinyn dall, bellach ar gael yn y Gymraeg.

Taflen Gwnewch hi’n Ddiogel!

Diogelwch yn y Cartref - C.M.C. (Cadwch Mewn Cof)
Mae Plant yng Nghymru wedi datblygu taflen atgoffa i helpu ymarferwyr i atal y damweiniau hynny yn y cartref sy’n achosi anafiadau difrifol, marwol ac anablu yn fwyaf cyffredin i blant o dan 5 mlwydd oed.

Nod C.M.C., a gafodd ei ddatblygu ar y cyd ag Ymwelwyr Iechyd, yw codi’r materion i’w hystyried, hyrwyddo trafodaeth a chynnig cyngor cryno, hawdd ei gofio ar atal damweiniau.

Mae C.M.C. ar gael i’w brynu am gyn lleied â £29.50 am 50 o daflenni sgleiniog, cryf neu am ddim i’w lawrlwytho.

Ffurflen Archebu C.M.C.
Lawrlwytho fersiwn A5
Lawrlwytho fersiwn A4

Diogelwch yn y Cartref - Atal Codymau
Mae Plant yng Nghymru wedi datblygu cynllun sesiwn cyflawn i alluogi ymarferwyr i roi gwybodaeth am atal codymau i rieni mewn cyd-destun cymunedol.

Gan drafod codymau plant rhwng 0-5 mlwydd oed, ochr yn ochr â’r adnodd defnyddiol hwn mae dalenni dwyieithog i’w dosbarthu ac mae ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim.

Cynllun Sesiwn
Cwis
Atebion
Dalen

DVD Small Steps to Safety
Mae Her Iechyd Caerffili a Phartneriaethau Cymunedau’n Gyntaf Tredegar Newydd a Fochriw wedi lansio DVD addysgol am ddiogelwch plant sy’n canolbwyntio ar ddamweiniau yn y cartref.

Cymerodd cylchoedd chwarae a thrigolion lleol ran yn y ffilmio er mwyn iddo edrych yn fwy ‘real’. Rhoddwyd cyngor ac arweiniad gan Plant yng Nghymru. Wedi cychwyn fel prosiect bach lleol, erbyn hyn mae’r DVD yn cael ei ddosbarthu i deuluoedd sy’n byw yng Nghaerffili, Casnewydd, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Tor-faen.

Mae copïau o’r DVD ar gael i’w prynu am £1.50 yr un. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Siân Wolfe-Williams, Cydlynydd Her Iechyd Caerffili ar 01495 235401 neu wolfes@caerphilly.gov.uk.

Pecyn Hyfforddi Ffrâm Gerdded i Fabanod
Y mae’r pecyn hwn wedi’i gynllunio i gael ei ddefnyddio gan weithwyr iechyd proffesiynol i hyfforddi rhieni a gofalwyr plant ynglŷn â diogelwch ffrâm gerdded i fabanod.

Canllaw Arfer Da ar gyfer sefydlu a chynnal Cynlluniau Cyfarpar Diogelwch yn y Cartref
Fe’i cynhyrchwyd gan Gyngor Dinas Leeds ac Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Gogledd Orllewin Leeds. Canllaw arfer da ar gyfer unrhyw un sydd â chysylltiad gyda rhieni plant o dan bum mlwydd oed ac ar gyfer y sawl sydd â diddordeb mewn atal anafiadau.

Rhestr Wirio Diogelwch Cartref
Canllaw i ddiogelwch yn y cartref ar ffurf "Rhestr Wirio Diogelwch yn y Cartref a’r Ardd" o’r peryglon sydd i’w canfod yn y cartref ac yn yr ardd. Cyhoeddwyd gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau.

Canllaw i Ddiogelwch Dodrefn yn yr Ardd
Rhestr o'r peryglon sy'n ymwneud a dodrefn yn yr ardd.

Cwis Diogelwch
Taflenni i’w defnyddio gyda rhieni mewn lleoliad cymunedol/mewn grŵp.

Taflen wybodaeth ar godymau

Dolenni

Atal Tân Cymru
Y mae Atal Tân Cymru yn elusen sy’n gweithio i gadw cartrefi a chymunedau Cymru yn ddiogel rhag tân.

Cymdeithas Gwneuthurwyr Falfiau Cymysgu Thermostatig (TMVA)
Amcanion y Gymdeithas Gwneuthurwyr Falfiau Cymysgu Thermostatig yw canolbwyntio sylw ar y ddarpariaeth ddiogel o ddŵr poeth wrth y man y caiff ei ddefnyddio.

Sefydliad Diogelwch yn y Cartref
Y mae Sefydliad Diogelwch yn y Cartref yn gweithio i annog y gwaith o ddatblygu’r safonau uchaf o ymagweddiad tuag at addysg a hyfforddiant o ran diogelwch yn y cartref.

Planhigion Gwenwynig
Mae gwybodaeth ar blanhigion gwenwynig ar gael oddi ar wefan y Royal Horticultural Society a gwefan Real Gardeners.

Tudalennau Diogelwch yn y Cartref RoSPA
Tudalennau diogelwch yn y cartref y Cymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yng Nghymru.

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Diogelwch yn y Cartref

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence