Y mae Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop yn Rhaglen o eiddo’r sefydliad EuroSafe ac fe’i cynhelir ac fe’i cefnogir gan y Sefydliad Diogelwch Defnyddwyr yn Yr Iseldiroedd. Gorchwyl y Gynghrair yw hyrwyddo atal damweiniau i blant drwy Ewrop i gyd drwy wella ansawdd bywydau plant drwy nerth rheswm, cydgefnogaeth a thosturi.
Ewch i wefan Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop.
TACTICS
Menter graddfa fawr sy’n rhan o Gynghrair Diogelwch Plant Ewrop yw TACTICS (Tools to Address Childhood Trauma, Injury and Children’s Safety), ac mae’n cynnwys pob un o 27 Aelod Wladwriaeth yr UE, Croatia, Gwlad yr Iâ, Israel, Norwy a’r Swistir. Bydd yn parhau o fis Ebrill 2011 tan fis Mawrth 2014, ac mae’n gweithio i wneud bywydau plant yn Ewrop yn fwy diogel trwy ddatblygu offer i gynyddu’r ymyriadau effeithiol a fabwysiadir ac a weithredir ar lefelau cenedlaethol a lleol.
Mae TACTICS yn bwysig oherwydd ei fod:
Arweinir TACTICS gan Gynghrair Diogelwch Plant Ewrop. Fe’i cefnogir gan y Comisiwn Ewropeaidd, ac mae ganddo bartneriaid mewn mwy na 30 o wledydd Ewropeaidd. Y partneriaid yng Nghymru yw Plant yng Nghymru a Phrifysgol Abertawe.
Galwad am Enghreifftiau o Ymarfer Da
Gan weithio mewn partneriaeth gyda Chynghrair Diogelwch Plant Ewrop, y mae’r Rhwydwaith Cyfnewid Arferion a Gwybodaeth am Atal Damweiniau i Blant (CHAPPIE) yn chwilio am enghreifftiau o ymarfer da o atal damweiniau.
Y mae Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop eisoes wedi cynhyrchu 13 o astudiaethau achos o ymarfer da ledled Ewrop, gydag AWISS (System Arolygu Anafiadau Cymru Gyfan) yn cael ei henwi yn un. Y mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddogfen hon. Os gallwch gynorthwyo, a fyddech cystal â chysylltu â karen.mcfarlane@childreninwales.org.uk
Adnoddau