Y mae Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop yn Rhaglen o eiddo’r sefydliad EuroSafe ac fe’i cynhelir ac fe’i cefnogir gan y Sefydliad Diogelwch Defnyddwyr yn Yr Iseldiroedd. Gorchwyl y Gynghrair yw hyrwyddo atal damweiniau i blant drwy Ewrop i gyd drwy wella ansawdd bywydau plant drwy nerth rheswm, cydgefnogaeth a thosturi.
Galwad am Enghreifftiau o Ymarfer Da
Gan weithio mewn partneriaeth gyda Chynghrair Diogelwch Plant Ewrop, y mae’r Rhwydwaith Cyfnewid Arferion a Gwybodaeth am Atal Damweiniau i Blant (CHAPPIE) yn chwilio am enghreifftiau o ymarfer da o atal damweiniau.
Y mae Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop eisoes wedi cynhyrchu 13 o astudiaethau achos o ymarfer da ledled Ewrop, gydag AWISS (System Arolygu Anafiadau Cymru Gyfan) yn cael ei henwi yn un. Y mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddogfen hon. Os gallwch gynorthwyo, a fyddech cystal â chysylltu â karen.mcfarlane@childreninwales.org.uk
Adnoddau