Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
    • Diogelwch yn y Cartref: Darparu yn y Gymuned
    • Strategaethau Atal Damweiniau Awdurdodau Lleol
    • Cynhadledd IOBI
    • Diogelwch ar y Fferm
    • Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop
    • Diogelwch Dwr
    • Ystadegau am Anafiadau
    • Cyngor Diogelwch Cartrefi Cymru
    • Ymyriadau gydag Anafiadau
    • Cynllun Gweithredu Diogelwch Plant
    • Rhwydwaith Cyfnewid Arferion a Gwybodaeth am Atal Damweiniau i Blant (CHAPPIE)
    • Diogelwch yn y Cartref
    • Rhiant a Gofalwr
    • Atal Anafiadau Plentyndod
    • Adnoddau & Chysylltiadau Defnyddiol - Cyffredinol
    • Useful Links - Road Safety
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • 'Sdim Curo Plant!
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Y Cyfryngau
  • Cyfranogaeth
  • Magu Plant
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Tuag at Strategaeth Diogelwch Plant ar gyfer Cymru
Tuag at Strategaeth Diogelwch Plant ar gyfer Cymru

Y mae Plant yng Nghymru’n gweithio i ddatblygu Strategaeth Diogelwch Plant ar gyfer Cymru. Y mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Her Iechyd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac y mae’n cael ei gefnogi gan lawer o sefydliadau ledled Cymru ac aelodau o’r Rhwydwaith CHAPPIE (Rhwydwaith Cyfnewid Arferion a Gwybodaeth am Atal Damweiniau i Blant).

Fe fydd y Strategaeth Diogelwch Plant ar gyfer Cymru yn anelu at:

  • Gwella iechyd a lles plant yng Nghymru;
  • Rhwystro neu leihau difrifoldeb anafiadau y mae modd eu hosgoi;
  • Lleihau anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru;
  • Tanategu a chyflwyno dulliau gweithredu i gefnogi polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni targedau penodedig ar gyfer lleihau anafiadau a marwolaethau;
  • Hyrwyddo’r tegwch daearyddol ar gyfer atal damweiniau;
  • Nodi ymyriadau arferion da sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth;
  • Cydgysylltu atal anafiadau damweiniol ac anfwriadol ledled Cymru.

Y mae yna grŵp llywio, a gydgysylltir gan Plant yng Nghymru, wedi’i ffurfio i ddarparu cyngor arbenigol ac arweiniad ar gyfer, yn gyntaf, datblygu’r Strategaeth Diogelwch Plant ac wedyn, yn ail, gweithredu’r Strategaeth yn effeithiol - cynllun gweithredu.

Y mae’r grŵp llywio wedi cynhyrchu papur briffio ymgynghorol: Tuag at Gynllun Gweithredu Diogelwch Plant. Amlinellodd y ddogfen hon yr argymhellion ar gyfer cynllun gweithredu, y math o ymyriadau y dylid eu mabwysiadu a’r cyd-destun polisi o fewn yr hyn y gwna’r argymhellion hyn weithio.

Fe wnaeth y broses ymgynghori bara am gyfnod o chwe mis, gan ddirwyn i ben ar y 12fed o Fedi, 2008.  Yn ystod y broses hon, fe wnaethom ymgynghori â phlant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr, a sefydliadau statudol, gwirfoddol a chymunedol.

Yr ydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chynghrair Diogelwch Plant Ewrop, UNICEF a Sefydliad Iechyd y Byd i atal damweiniau ac anafiadau anfwriadol ledled Ewrop.  Nod menter Cynllun Gweithredu Diogelwch Plant Ewrop yw gwella diogelwch plant yn y 33 o wledydd cyfrannog yn yr Undeb Ewropeaidd.  Y mae’r fenter raddfa fawr hon yn weithredol ochr yn ochr â’n gwaith tuag at Strategaeth Diogelwch Plant a Chynllun Gweithredu Cymru.

Mae'r ddogfen terfynol, sydd yn seiliedig ar yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori, ar gael i lawrlwytho nawr.

Lawrlwythwch 'Gweithio Tuag at Strategaeth Diogelwch Plant ar gyfer Cymru'

Os hoffech ragor o wybodaeth am ddatblygiad y Strategaeth neu os hoffech ddysgu sut y gall eich sefydliad chi ei chefnogi, a fyddech cystal â chysylltu â: Karen.Mcfarlane@childreninwales.org.uk

 

Lansiad yr Adroddiad Ewropeaidd ar Ddiogelwch Plant yng Nghymru

Y mae 24 o wledydd yn Ewrop wedi bod yn gysylltiedig â phrosiect i ostwng damweiniau ac anafiadau ymysg plant.  Drwy’r prosiect, y mae pob un wlad yn cael "Cerdyn Adroddiad ar Ddiogelwch Plant", sy’n graddio’u perfformiad mewn amrywiaeth o feysydd, megis diogelwch teithwyr, atal cwympiadau, atal llosgi a sgaldio, ac yn y blaen, yn ogystal â sgôr cyffredinol sy’n cymharu â’r gwledydd eraill sy’n cymryd rhan.  Yr oedd sgôr cyffredinol Cymru yn ei gosod yn 21ain allan o’r 24. Fe ellir lawrlwytho'r dogfennau isod:

  • Wales Country Profile (Saesneg yn unig)
  • Cerdyn Adroddiad Cymru
  • Gweithio Tuag at Strategaeth Diogelwch Plant yng Nghymru
  • European Summary Report Card (Saesneg yn unig)
  • Datganiad i'r Wasg

  • Gweithio Tuag at Strategaeth Gweithredu Diogelwch Plant i Gymru 1512k
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Tuag at Strategaeth Diogelwch Plant ar gyfer Cymru

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence