Y mae Plant yng Nghymru’n gweithio i ddatblygu Strategaeth Diogelwch Plant ar gyfer Cymru. Y mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Her Iechyd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac y mae’n cael ei gefnogi gan lawer o sefydliadau ledled Cymru ac aelodau o’r Rhwydwaith CHAPPIE (Rhwydwaith Cyfnewid Arferion a Gwybodaeth am Atal Damweiniau i Blant).
Fe fydd y Strategaeth Diogelwch Plant ar gyfer Cymru yn anelu at:
Y mae yna grŵp llywio, a gydgysylltir gan Plant yng Nghymru, wedi’i ffurfio i ddarparu cyngor arbenigol ac arweiniad ar gyfer, yn gyntaf, datblygu’r Strategaeth Diogelwch Plant ac wedyn, yn ail, gweithredu’r Strategaeth yn effeithiol - cynllun gweithredu.
Y mae’r grŵp llywio wedi cynhyrchu papur briffio ymgynghorol: Tuag at Gynllun Gweithredu Diogelwch Plant. Amlinellodd y ddogfen hon yr argymhellion ar gyfer cynllun gweithredu, y math o ymyriadau y dylid eu mabwysiadu a’r cyd-destun polisi o fewn yr hyn y gwna’r argymhellion hyn weithio.
Fe wnaeth y broses ymgynghori bara am gyfnod o chwe mis, gan ddirwyn i ben ar y 12fed o Fedi, 2008. Yn ystod y broses hon, fe wnaethom ymgynghori â phlant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr, a sefydliadau statudol, gwirfoddol a chymunedol.
Yr ydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chynghrair Diogelwch Plant Ewrop, UNICEF a Sefydliad Iechyd y Byd i atal damweiniau ac anafiadau anfwriadol ledled Ewrop. Nod menter Cynllun Gweithredu Diogelwch Plant Ewrop yw gwella diogelwch plant yn y 33 o wledydd cyfrannog yn yr Undeb Ewropeaidd. Y mae’r fenter raddfa fawr hon yn weithredol ochr yn ochr â’n gwaith tuag at Strategaeth Diogelwch Plant a Chynllun Gweithredu Cymru.
Mae'r ddogfen terfynol, sydd yn seiliedig ar yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori, ar gael i lawrlwytho nawr.
Lawrlwythwch 'Gweithio Tuag at Strategaeth Diogelwch Plant ar gyfer Cymru'
Os hoffech ragor o wybodaeth am ddatblygiad y Strategaeth neu os hoffech ddysgu sut y gall eich sefydliad chi ei chefnogi, a fyddech cystal â chysylltu â: Karen.Mcfarlane@childreninwales.org.uk
Lansiad yr Adroddiad Ewropeaidd ar Ddiogelwch Plant yng Nghymru
Y mae 24 o wledydd yn Ewrop wedi bod yn gysylltiedig â phrosiect i ostwng damweiniau ac anafiadau ymysg plant. Drwy’r prosiect, y mae pob un wlad yn cael "Cerdyn Adroddiad ar Ddiogelwch Plant", sy’n graddio’u perfformiad mewn amrywiaeth o feysydd, megis diogelwch teithwyr, atal cwympiadau, atal llosgi a sgaldio, ac yn y blaen, yn ogystal â sgôr cyffredinol sy’n cymharu â’r gwledydd eraill sy’n cymryd rhan. Yr oedd sgôr cyffredinol Cymru yn ei gosod yn 21ain allan o’r 24. Fe ellir lawrlwytho'r dogfennau isod: