Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
    Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop
    Diogelwch Dwr
    Ystadegau am Anafiadau
    Cyngor Diogelwch Cartrefi Cymru
    Ymyriadau gydag Anafiadau
    » Cynllun Gweithredu Diogelwch Plant
    Rhwydwaith Cyfnewid Arferion a Gwybodaeth am Atal Damweiniau i Blant (CHAPPIE)
    Diogelwch yn y Cartref
    Rhiant a Gofalwr
    Atal Anafiadau Plentyndod
    Cyhoeddiadau
    Cysylltiadau - Cyffredinol
    Useful Links - Road Safety
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Llythrennedd Emosiynol
  • Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Prosiect Llwybrau Bywyd
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Ymchwil
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc
  • WorldForum 2008

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith » Atal Damweiniau Plant » Cynllun Gweithredu Diogelwch Plant
Tuag at Strategaeth Diogelwch Plant ar gyfer Cymru

Y mae Plant yng Nghymru’n gweithio i ddatblygu Strategaeth Diogelwch Plant ar gyfer Cymru. Y mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Her Iechyd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac y mae’n cael ei gefnogi gan lawer o sefydliadau ledled Cymru ac aelodau o’r Rhwydwaith CHAPPIE  (Rhwydwaith Cyfnewid Arferion a Gwybodaeth am Atal Damweiniau i Blant).

Fe fydd y Strategaeth Diogelwch Plant ar gyfer Cymru yn anelu at:

  • Gwella iechyd a lles plant yng Nghymru;
  • Rhwystro neu leihau difrifoldeb anafiadau y mae modd eu hosgoi;
  • Lleihau anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru;
  • Tanategu a chyflwyno dulliau gweithredu i gefnogi polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni targedau penodedig ar gyfer lleihau anafiadau a marwolaethau;
  • Hyrwyddo’r tegwch daearyddol ar gyfer atal damweiniau;
  • Nodi ymyriadau arferion da sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth;
  • Cydgysylltu atal anafiadau damweiniol ac anfwriadol ledled Cymru.

Y mae yna grŵp llywio, a gydgysylltir gan Plant yng Nghymru, wedi’i ffurfio i ddarparu cyngor arbenigol ac arweiniad ar gyfer, yn gyntaf, datblygu’r Strategaeth Diogelwch Plant ac wedyn, yn ail, gweithredu’r Strategaeth yn effeithiol - cynllun gweithredu.

Y mae’r grŵp llywio wedi cynhyrchu papur briffio ymgynghorol: Tuag at Gynllun Gweithredu Diogelwch Plant.  Y mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r argymhellion ar gyfer cynllun gweithredu, y math o ymyriadau y dylid eu mabwysiadu a’r cyd-destun polisi o fewn yr hyn y gwna’r argymhellion hyn weithio.

Fe wnaeth y broses ymgynghori bara am gyfnod o chwe mis, gan ddirwyn i ben ar y 12fed o Fedi, 2008.  Yn ystod y broses hon, fe wnaethom ymgynghori â phlant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr, a sefydliadau statudol, gwirfoddol a chymunedol.

Y mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd ac fe fyddant yn cael eu defnyddio i hysbysu’r ddogfen Papur Briffio derfynol.  Fe fydd y ddogfen hon ar gael yma i’w lawrlwytho o’r 16eg o Ragfyr, 2008.

Os hoffech ragor o wybodaeth am ddatblygiad y Strategaeth neu os hoffech ddysgu sut y gall eich sefydliad chi ei chefnogi, a fyddech cystal â chysylltu â: Karen.Mcfarlane@childreninwales.org.uk

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313