Cyflwyniad i Hawliau Plant
Nod y cwrs cyflwyniadol hwn yw datblygu dealltwriaeth ymarferwyr o’r sylfaen gwybodaeth sy’n datblygu sy’n bodoli ar hawliau plant. Mae wedi ei anelu at ymarferwyr a rheolwyr sy’n dymuno diweddaru eu gwybodaeth o’r agenda seiliedig ar ‘hawliau’ sy’n datblygu yng Nghymru ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gymharol newydd i’r maes hwn o astudiaeth. Bydd y rhaglen yn anelu i ddatblygu dealltwriaeth cyfranogwyr o’r fframwaith polisi sy’n bodoli yng Nghymru a hefyd rôl Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Bydd hefyd yn archwilio sut y datblygir y dynesiad hwn sy’n seiliedig ar ‘hawliau’ hwn mewn gwahanol osodiadau ac ar gyfer gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Datblygwyd y rhaglen hon ar gyfer ymarferwyr yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn amrediad o wasanaethau a sectorau. Hyd yma fe’i cyflwynwyd i weithwyr proffesiynol yn gweithio o fewn y sector statudol, gwirfoddol, iechyd ac addysg yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, uwch ymarferwyr, gofalwyr maeth, gweithwyr gofal preswyl, gweithwyr lles addysg, ymwelwyr iechyd, gweithwyr troseddu ieuenctid, swyddogion heddlu/tân gyda chyfrifoldebau amddiffyn plant a llawer arall.
Medrir teilwrio’r rhaglen hyblyg hon i gynulleidfa aml-asiantaeth yn ogystal ag i asiantaeth benodol e.e. gweithwyr gofal preswyl yn unig, gofalwyr maeth yn unig. Cafodd hefyd ei addasu ar gyfer cynulleidfa aml-asiantaeth sy’n gweithio gyda grwp oedran neilltuol neu grwpiau penodol o blant a phobl ifanc e.e. plant sy’n derbyn gofal, plant anabl ac ati.
Nod
Dulliau gwaith y cwrs
Bydd y cwrs yn anelu i ddefnyddio amrediad o ddulliau cyfranogol i ymrwymo gweithwyr proffesiynol.
Bydd pawb sy’n cymryd rhan ar y cwrs yn derbyn pecyn gwybodaeth helaeth, y medrir ei ddefnyddio i gefnogi eu dysgu pan fyddant yn ôl yn y gweithle.
Nodyn: Cafodd rhaglen y cwrs ei ymestyn yn flaenorol i ddigwyddiad hyfforddi 2-ddydd os dymunir. Gofynnwch am fanylion am gostau a chynnwys.
Y mae manylion am gyrsiau a drefnwyd ymlaen llaw sydd ar y gweill ar gael yn yr Adran Ddigwyddiadau neu Ffoniwch 029 2034 2434 am fwy o wybodaeth.