Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Rhwydwaith Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant
    » Grwp Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant Gogledd Cymru
    Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru
  • Cynrychiolaeth i Hawliau Plant
  • Hyfforddiant gyda Hawliau Plant

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Hawliau Plant »Rhwydwaith Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant »Grwp Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant Gogledd Cymru
Grwp Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant Gogledd Cymru

Y mae Anita Myfanwy, ein Swyddog Datblygu yng Ngogledd Cymru, yn cydlynu cyfarfodydd y Grŵp Cyfnewid Ymarfer ar Hawliau Plant Gogledd Cymru. Y mae’r grŵp yn darparu cyfle i aelodau gyfnewid syniadau a thrafod datblygiadau diweddar sy’n effeithio ar blant. Fe gynhelir cyfarfodydd yn chwarterol, fel arfer yn Swyddfa’r Comisiynydd Plant ym Mae Colwyn. Y mae dyddiadau’r cyfarfodydd sydd ar y gweill ar gael yn yr adran digwyddiadau.

Fe ellir cysylltu ag Anita yn ein swyddfa yng Nghaernarfon - Ffôn 01286 677570 neu E-bost anita.myfanwy@childreninwales.org.uk.

Materion a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf

Cyflwyniad ar Llawn Gofal – Julie Edwards, CPC: Mae ‘Llawn Gofal’ yn adroddiad ar y ffordd mae cyfrifoldebau gofalu yn gallu amharu ar allu gofalwyr ifanc i ymarfer eu hawliau, fel y’i osodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. 

Esboniodd Julie  ddiffiniadau gofalwr ifanc fel a ganlyn:

  • Plentyn neu berson ifanc yn gwneud tasgau arwyddocaol…..
  • Deddf Gofalwyr 1995 : Plant a phobl ifanc sy’n darparu gofal sylweddol ac yn rheolaidd
  • 1998 Gofalwyr DU: Bywyd unrhyw berson dan 18 sydd yn gyfyngedig oherwydd yr angen i fod yn gyfrifol am ofal person gwael, gydag anabledd, sy’n dioddef straen feddyliol neu sydd wedi eu heffeithio gan gamddefnydd sylweddau.

Yr Adroddiad:

  • I gasglu barn gofalwyr ifanc ar draws Cymru
  • Wedi comisiynu gofalwyr Powys i gynnal arolwg ar farn ofalwyr ifanc
  • Casglu ‘r sylwadau er mwyn hysbysu’r  argymhellion
  • Cyhoeddi adroddiad a’r argymhellion

Ymhellach i’r argymhellion, esboniodd Julie y camau nesaf, fel a ganlyn:

  • Parhau i weithio gyda chydweithwyr yng nghynulliad Cenedlaethol Cymru a’r sector gwirfoddol
  • Monitro'r argymhellion yn swyddogol gan ofyn am sylwadau a chynlluniau gweithredu
  • Cofrestr o fonitro’r ymatebion ar gael i’r cyhoedd
  • Dylanwadu ar Orchymun Cymhwysedd Deddfwriaethol a’r mesurau a ddeillir ohono.

Manylion pellach ar gael ar www.complantcymru.org.uk neu yn Saesneg ar  www.childcomwales.org.uk

Cyflwyniad ar Fenter Pencampwyr Cynhwysiant Ariannol yng Nghymru gan Rhian Hughes, Pencampwr Rhanbarthol Cynhwysiant Ariannol: Mae yna 2 Bencampwr ychwanegol o’r enw Katija Dew, Pencampwr Cynhwysiant Ariannol Cenedlaethol i Gymru a Ryan Jones, Pencampwr Cynhwysiant Ariannol Rhanbarthol (De a Gorllewin Cymru).     Prif nod y Llywodraeth ar gyfer cynhwysiad ariannol yw sicrhau bod gan bawb fynediad at wasanaethau ariannol priodol, er mwyn eu galluogi  reoli eu harian o ddydd i ddydd, cynllunio ar gyfer y dyfodol ac i ddelio’n effeithiol gyda straen ariannol.

Mae’r offer yn cynnwys:

  • Bancio
  • Cynilon
  • Benthyca
  • Yswiriant
  • Gallu
  • Cyngor

Y 5  prif amcan/blaenoriaeth yw:

  • Mynediad at wasanaethau ariannol prif lif
  • Mynediad at gredyd a chynilion fforddiadwy
  • Cyngor cyrraeddadwy ar arian a dyled
  • Gallu a llythrennedd ariannol
  • Eithafiad Incwm

Mae yna gyfrif cynilo arian parod o’r enw ‘Savings Gateway’ ar gyfer y rhai sy’n ennill incwm isel.  Bydd y Llywodraeth yn ychwanegu 50c am bob £1 a ginilir.  Gellir cynilo uchafswm o £25 bob mis am 2 flynedd.  Mae adnodd ar gyfer plant oed ysgol  o’r enw Undeb Credyd mewn Ysgolion.  Ceir gwybodaeth bellach  ar gael ar http://www.cuinschools.org Mae pecyn gwybodaeth cyd-denantiaeth o’r enw ‘Fy Nghartref’ ar gael i denantiaid newydd cymdeithasau tai e.e. Conwy, Sir Dinbych, Cymdeithas Tai Eryri a Shelter Cymru.


Cyflwyniad gan Ed Janes, Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogaeth Cymru, Plant yng Nghymru ar waith y rhwydwaith: Y mae RGCC (Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogaeth Cymru) yn wasanaeth newydd am ddim ar gyfer gweithwyr a mudiadau sy’n hyrwyddo cyfranogaeth plant a phobl ifanc, neu sydd â diddordeb mewn gwneud hynny yn y dyfodol.  Mae’r rhwydwaith yn cynnig:

  • Cronfa ddata ar-lein ble y gall aelodau ganfod a rhwydweithio gyda gweithwyr cyfranogiad eraill
  • Y cyfle i weithwyr rannu gwybodaeth am arferion da o ran cyfranogi, a phrofiadau a syniadau ar gyfer dulliau cyfranogi
  • E-gyfarwyddiadau bob dau fis, gan gynnwys newyddion ac ymgynghoriadau parthed cyfranogiad

Mae angen datblygu’r safle we ymhellach. Mae wedi mynd allan ar gyfer tendro. Dyfarnwyd arian er mwyn gweithio gyda 1 sefydliad plant a phobl ifanc mewn pob awdurdod ac i weithio gyda phobl ifanc ac ymarferwyr i ddatblygu sgiliau cyfranogaeth. Gwybodaeth bellach ar gael ar www.participationworkerswales.org.uk neu ed.janes@childreninwales.org.uk

Cyfarfodydd Blaenorol

  • Cofnodion 07-07-09
  • Cofnodion 22-05-09
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313