Y mae Anita Myfanwy, ein Swyddog Datblygu yng Ngogledd Cymru, yn cydlynu cyfarfodydd y Grŵp Cyfnewid Ymarfer ar Hawliau Plant Gogledd Cymru. Y mae’r grŵp yn darparu cyfle i aelodau gyfnewid syniadau a thrafod datblygiadau diweddar sy’n effeithio ar blant. Fe gynhelir cyfarfodydd yn chwarterol, fel arfer yn Swyddfa’r Comisiynydd Plant ym Mae Colwyn. Y mae dyddiadau’r cyfarfodydd sydd ar y gweill ar gael yn yr adran digwyddiadau.