Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Grwp Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru
  • Grwp Cyfnewid Plant a Theuloedd De Cymru
    • Cyfarfodydd Blaenorol y Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Hydref 2008 - Cyfarfod y Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru
Hydref 2008 - Cyfarfod y Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru

Cyfle i ganfod sut i fynd i’r afael â bwlio. Fe wnaeth y Cyfnewid Arferion hyrwyddo Wythnos Gwrth-Fwlio o flaen llaw, gan baratoi cynrychiolwyr drwy roi rhywfaint o gynghorion gorau iddynt, a all gynorthwyo i gyflwyno a chynnal sefyllfa ble nad oes bwlio.

1. Cyflwyniadau: Fe gyflwynwyd amryw o enghreifftiau o arferion gorau ynglŷn â gwrth-fwlio i’r rhwydwaith.

  • Polisi ac Arferion Gorau Gwrth-Fwlio – Rachel Beddoe, Caerdydd yn Erbyn Bwlio.
  • Ysgol Gyfun Glan Afan – Fe wnaeth pump o bobl ifanc o’r ysgol gyflwyno’u cynllun gwrando ar gyfoedion, a gefnogir gan y rhaglen Bullies Out.
  • Bee frienders - rhaglen gyfeillgarwch ddeuddeg wythnos.  Traddodir gan Caroline Warren a Sarah Hooke o Dîm Mae Plant Abertawe yn Cyfri gan Barnardo’s.
  • Ysgolion Bro – Fe wnaeth Samantha Chamberlain o’r Clwstwr o Ysgolion Bro yng Ngarth Olwg rannu’i gwaith ar y Prosiect Gwrth-Fwlio Cymraeg.
  • Herio Bwlio - Fe wnaeth Gill Grandon, Prifathrawes yn Ysgol Gynradd Markham, ddosbarthu pecyn defnyddiol iawn o ddeunyddiau gwrth-fwlio.  Y mae Ysgol Gynradd Markham yng Nghaerffili wedi datblygu adnodd a wnaeth darddu o dargedau o fewn y Cynllun Ysgolion Iach ac sydd wedi datblygu i fod yn ffeil o offer ac arferion defnyddiol sy’n drosglwyddadwy i ysgolion yn gyffredinol. 
  • Fe wnaeth y Dr Emily Lovegrove, arbenigwr mewn technegau gwrth-fwlio, draddodi sesiwn i ysgogi’r meddwl, ac fe ddilynwyd hyn gan drafodaeth mewn grŵp bach am ganfyddiadau am yr hyn yw bwlio a bylchau neu faterion y mae angen eu nodi.

Fe wnaeth y drafodaeth godi amryw o bwyntiau.  Dyma’r hyn oedd gennych i ddweud:

  • Fe wnaeth aelodau nodi materion yn ymwneud â bwlio sy’n tarddu yn y gymuned ond sy’n dal i effeithio ar y plentyn yn yr ysgol – fe ddylai fod yna ymagweddiad cymunedol sy’n golygu cynnwys heddlu cymunedol.  
  • Y mae yna yn aml gyngor sy’n gwrthdaro neu o bosibl gormod o gyngor!
  • Y mae bwlio yn aml yn amharu ar bresenoldeb yn yr ysgol ac y mae yna oblygiadau cymdeithasol/emosiynol – fe ddylai athrawon dderbyn hyfforddiant cymdeithasol/emosiynol.  
  • Y mae angen cael ymagweddiad sydd wedi’i ganoli ar y plentyn.  Yn aml, fe fydd gan blant a phobl ifanc sy’n gysylltiedig â’r Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n profi bwlio, ragor o faterion y mae angen rhoi sylw iddynt.
  • Hyd yn oed pan fo yna raglenni/peirianwaith cymorth yn bodoli, nid yw atgyfeiriadau’n cael eu gwneud.  
  • Nid oes yna bwyslais digonol yn cael ei roi ar gadw golwg ar ddigwyddiadau.

Fe wnaeth aelodau enwi rhai adnoddau all fod o gymorth:

  • Help! I’m being bullied – 10 o strategaethau ymarferol i atal bwlio ar gyfer plant ac oedolion (ISBN 1905170343) gan y Dr Emily Lovegrove.
  • Unicef Rights Respecting Schools Award – Y mae’r cynllun gwobrwyo newydd hwn drwy’r wlad i gyd yn hyrwyddo Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel y sail ar gyfer dyrchafu addysgu, dysgu, moeseg, agweddau ac ymddygiad.   
  • R time – rhaglen strwythuredig ar gyfer ysgolion sy’n datblygu perthnasoedd cadarnhaol rhwng plant.  Y mae’n gwneud hyn drwy greu amgylchedd sy’n cefnogi ac yn dyrchafu moesau da, cyrhaeddiad, a dinasyddiaeth. 
  • Y mae Clybiau Plant Cymru / Kid’s Clubs Wales yn cynnig hyfforddiant o’r enw Herc, Cam a Naid.  Y mae Herc, Cam a Naid yn canolbwyntio ar oruchwylio a chefnogi plant a phobl ifanc yn ystod amser cinio, cyfnodau egwyl a gweithgareddau’r lle chwarae. 
  • Parchu Eraill: Canllaw Gwrth-Fwlio
  • Pecyn cymorth hunan-asesu Gwrth-Fwlio

2. Gwerthuso: Fe gafodd y cyfnewid arferion groeso da, gydag adborth cadarnhaol oddi wrth y 45 o gyfranogwyr i gyd; fe ellir gweld crynodeb o’r gwerthusiad yma.

3. Rhwydweithio: Fe wnaeth y sawl a fynychodd gwblhau Dalen Cyfnewid Gwybodaeth a ofynnodd iddynt rannu ‘Beth oeddynt yn ei wneud ar hyn o bryd?’ a ‘Beth y mae arnoch angen?’, gyda manylion cysylltu.  Yr oedd y rhain ar gael i’w rhannu ar y diwrnod ac y maent ers hynny wedi’u hysgrifennu ar bapur ac fe ellir eu gweld yma.  Fe wna hyn gynorthwyo aelodau i barhau i rwydweithio ac i gefnogi’r naill a’r llall ar ôl y cyfarfod.

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Hydref 2008 - Cyfarfod y Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence