Gorffennaf 2008:
1. Iechyd Meddwl a Phobl Ifanc: Fe wnaeth Sally Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant, Barnardo’s Cymru draddodi cyflwyniad a chynnal trafodaeth ddilynol ar yr E-Gyfarwyddiad Polisi ac Ymarfer ar Ddarpariaeth Iechyd Meddwl ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Ar gael i’w lawrlwytho: Papur Cyfarwyddiad a Chyflwyniad
Ar ôl y cyflwyno a’r trafod, fe wahanwyd y cyfranogwyr i fod yn grwpiau bychain i ystyried astudiaeth achos.
2. Gwerthuso: Fe gafodd y cyfnewid arferion ei groesawu, gydag adborth cadarnhaol oddi wrth bob un o’r 27 o’r cyfranogwyr; fe ellir cael golwg yma ar grynodeb o’r gwerthusiad.
3. Rhwydweithio: Fe wnaeth y sawl a fynychodd gwblhau Taflen Cyfnewid Gwybodaeth a ofynnai iddynt rannu, ‘Beth oeddynt yn ei wneud ar hyn o bryd?’ a ‘Beth y mae arnoch chi’i angen?’, gyda manylion cysylltu. Yr oedd y rhain ar gael ar gyfer eu rhannu ar y diwrnod ac ers hynny y maent wedi’u cofnodi ac fe ellir cael golwg arnynt yma. Fe fydd hyn yn cynorthwyo aelodau i barhau i rwydweithio ac i gefnogi’i gilydd ar ôl y cyfarfod.
Y mae manylion cysylltu’r sawl a fynychodd ar gael yma.