Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Grwp Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant Gogledd Cymru
  • Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru
    » Cyfarfodydd Blaenorol y Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Hawliau Plant »Rhwydwaith Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant »Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru »Cyfarfodydd Blaenorol y Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru
Cyfarfodydd Blaenorol y Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru

Materion a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol y Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru.

Hydref 2008

Amrywiaeth o Wybodaeth Gwrth-Fwlio!

Cyfle i ganfod sut i fynd i’r afael â bwlio. Fe wnaeth y Cyfnewid Arferion hyrwyddo Wythnos Gwrth-Fwlio o flaen llaw, gan baratoi cynrychiolwyr drwy roi rhywfaint o gynghorion gorau iddynt, a all gynorthwyo i gyflwyno a chynnal sefyllfa ble nad oes bwlio.

1. Cyflwyniadau: Fe gyflwynwyd amryw o enghreifftiau o arferion gorau ynglŷn â gwrth-fwlio i’r rhwydwaith.

  • Polisi ac Arferion Gorau Gwrth-Fwlio – Rachel Beddoe, Caerdydd yn Erbyn Bwlio.
  • Ysgol Gyfun Glan Afan – Fe wnaeth pump o bobl ifanc o’r ysgol gyflwyno’u cynllun gwrando ar gyfoedion, a gefnogir gan y rhaglen Bullies Out.
  • Bee frienders - rhaglen gyfeillgarwch ddeuddeg wythnos.  Traddodir gan Caroline Warren a Sarah Hooke o Dîm Mae Plant Abertawe yn Cyfri gan Barnardo’s.
  • Ysgolion Bro – Fe wnaeth Samantha Chamberlain o’r Clwstwr o Ysgolion Bro yng Ngarth Olwg rannu’i gwaith ar y Prosiect Gwrth-Fwlio Cymraeg.
  • Herio Bwlio - Fe wnaeth Gill Grandon, Prifathrawes yn Ysgol Gynradd Markham, ddosbarthu pecyn defnyddiol iawn o ddeunyddiau gwrth-fwlio.  Y mae Ysgol Gynradd Markham yng Nghaerffili wedi datblygu adnodd a wnaeth darddu o dargedau o fewn y Cynllun Ysgolion Iach ac sydd wedi datblygu i fod yn ffeil o offer ac arferion defnyddiol sy’n drosglwyddadwy i ysgolion yn gyffredinol. 
  • Fe wnaeth y Dr Emily Lovegrove, arbenigwr mewn technegau gwrth-fwlio, draddodi sesiwn i ysgogi’r meddwl, ac fe ddilynwyd hyn gan drafodaeth mewn grŵp bach am ganfyddiadau am yr hyn yw bwlio a bylchau neu faterion y mae angen eu nodi.

Fe wnaeth y drafodaeth godi amryw o bwyntiau.  Dyma’r hyn oedd gennych i ddweud:

  • Fe wnaeth aelodau nodi materion yn ymwneud â bwlio sy’n tarddu yn y gymuned ond sy’n dal i effeithio ar y plentyn yn yr ysgol – fe ddylai fod yna ymagweddiad cymunedol sy’n golygu cynnwys heddlu cymunedol.  
  • Y mae yna yn aml gyngor sy’n gwrthdaro neu o bosibl gormod o gyngor!
  • Y mae bwlio yn aml yn amharu ar bresenoldeb yn yr ysgol ac y mae yna oblygiadau cymdeithasol/emosiynol – fe ddylai athrawon dderbyn hyfforddiant cymdeithasol/emosiynol.  
  • Y mae angen cael ymagweddiad sydd wedi’i ganoli ar y plentyn.  Yn aml, fe fydd gan blant a phobl ifanc sy’n gysylltiedig â’r Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n profi bwlio, ragor o faterion y mae angen rhoi sylw iddynt.
  • Hyd yn oed pan fo yna raglenni/peirianwaith cymorth yn bodoli, nid yw atgyfeiriadau’n cael eu gwneud.  
  • Nid oes yna bwyslais digonol yn cael ei roi ar gadw golwg ar ddigwyddiadau.

Fe wnaeth aelodau enwi rhai adnoddau all fod o gymorth:

  • Help! I’m being bullied – 10 o strategaethau ymarferol i atal bwlio ar gyfer plant ac oedolion (ISBN 1905170343) gan y Dr Emily Lovegrove.
  • Unicef Rights Respecting Schools Award – Y mae’r cynllun gwobrwyo newydd hwn drwy’r wlad i gyd yn hyrwyddo Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel y sail ar gyfer dyrchafu addysgu, dysgu, moeseg, agweddau ac ymddygiad.   
  • R time – rhaglen strwythuredig ar gyfer ysgolion sy’n datblygu perthnasoedd cadarnhaol rhwng plant.  Y mae’n gwneud hyn drwy greu amgylchedd sy’n cefnogi ac yn dyrchafu moesau da, cyrhaeddiad, a dinasyddiaeth. 
  • Y mae Clybiau Plant Cymru / Kid’s Clubs Wales yn cynnig hyfforddiant o’r enw Herc, Cam a Naid.  Y mae Herc, Cam a Naid yn canolbwyntio ar oruchwylio a chefnogi plant a phobl ifanc yn ystod amser cinio, cyfnodau egwyl a gweithgareddau’r lle chwarae. 
  • Parchu Eraill: Canllaw Gwrth-Fwlio
  • Pecyn cymorth hunan-asesu Gwrth-Fwlio

2. Gwerthuso: Fe gafodd y cyfnewid arferion groeso da, gydag adborth cadarnhaol oddi wrth y 45 o gyfranogwyr i gyd; fe ellir gweld crynodeb o’r gwerthusiad yma.

3. Rhwydweithio: Fe wnaeth y sawl a fynychodd gwblhau Dalen Cyfnewid Gwybodaeth a ofynnodd iddynt rannu ‘Beth oeddynt yn ei wneud ar hyn o bryd?’ a ‘Beth y mae arnoch angen?’, gyda manylion cysylltu.  Yr oedd y rhain ar gael i’w rhannu ar y diwrnod ac y maent ers hynny wedi’u hysgrifennu ar bapur ac fe ellir eu gweld yma.  Fe wna hyn gynorthwyo aelodau i barhau i rwydweithio ac i gefnogi’r naill a’r llall ar ôl y cyfarfod.

 

Gorffennaf 2008:

1. Iechyd Meddwl a Phobl Ifanc: Fe wnaeth Sally Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant, Barnardo’s Cymru draddodi cyflwyniad a chynnal trafodaeth ddilynol ar yr E-Gyfarwyddiad Polisi ac Ymarfer ar Ddarpariaeth Iechyd Meddwl ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Ar gael i’w lawrlwytho: Papur Cyfarwyddiad a Chyflwyniad

Ar ôl y cyflwyno a’r trafod, fe wahanwyd y cyfranogwyr i fod yn grwpiau bychain i ystyried astudiaeth achos.

2. Gwerthuso: Fe gafodd y cyfnewid arferion ei groesawu, gydag adborth cadarnhaol oddi wrth bob un o’r 27 o’r cyfranogwyr; fe ellir cael golwg yma ar grynodeb o’r gwerthusiad.

3. Rhwydweithio: Fe wnaeth y sawl a fynychodd gwblhau Taflen Cyfnewid Gwybodaeth a ofynnai iddynt rannu, ‘Beth oeddynt yn ei wneud ar hyn o bryd?’ a ‘Beth y mae arnoch chi’i angen?’, gyda manylion cysylltu. Yr oedd y rhain ar gael ar gyfer eu rhannu ar y diwrnod ac ers hynny y maent wedi’u cofnodi ac fe ellir cael golwg arnynt yma.  Fe fydd hyn yn cynorthwyo aelodau i barhau i rwydweithio ac i gefnogi’i gilydd ar ôl y cyfarfod.

Y mae manylion cysylltu’r sawl a fynychodd ar gael yma. 

Ebrill 2008

  1. Gwaharddiadau o'r Ysgol: Swyddogol ac Answyddogol - Fe wnaeth Peter Hosking, Swyddog Polisi yn Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, draddodi cyflwyniad yn trafod gwahardd o’r ysgol.
  2. Adolygiad - Y mae Swyddfa’r Comisiynydd Plant hefyd wedi cyhoeddi ‘Adroddiad yn dilyn ymchwiliad i waharddiadau answyddogol o ysgolion’, y gellir ei lawrlwytho oddi ar wefan y Comisiynydd Plant.

Sylwadau: Fe wnaeth y cyflwyniad annog rhywfaint o drafodaeth, ac fe gododd faterion a phryderon yn y maes hwn. Y mae sylwadau a gofnodwyd ar y diwrnod yn cynnwys:

  • A ydyw Plant sy’n Derbyn Gofal yn gwybod bod ganddynt athro dynodedig? A yw’r athrawon a’r gweithwyr cymdeithasol yn gwybod hyn? A yw hon yn rôl fiwrocrataidd neu’n rôl y gall y plentyn fynd ati am gymorth?
  • Pan fo plant yn cael eu gwahardd, pam na all gwasanaethau megis Cynhwysiant Cymdeithasol hawlio’r arian a ddynodwyd i’r plentyn hwnnw i gymorth y plentyn hwnnw ar ôl y pymtheg diwrnod?

Gwerthuso: Fe gafodd y cyfnewid ymarfer groeso da, gydag adborth cadarnhaol oddi wrth y 24 o gyfranogwyr i gyd, y gellir gweld crynodeb ohono yma

  3. Rhwydweithio: Fe wnaeth y sawl a fynychodd gwblhau Taflen Cyfnewid Gwybodaeth a ofynnodd iddynt rannu ‘Beth oeddynt wrthi’n ei wneud ar y funud?’ a ‘Beth y mae arnoch angen?’, gyda manylion cysylltu.  Yr oedd y rhain ar gael ar gyfer eu rhannu ar y diwrnod ac y maent ers hynny wedi’u hailysgrifennu ac fe ellir cael golwg arnynt yma.   Diben hyn yw dilyn hynt ar ôl y cyfarfod gydag unrhyw un y gallech deimlo y gall eich cynorthwyo chi gyda darn o waith, neu fel arall.

 

Ionawr 2008

    1.  Funky Dragon

    2.  Why do peoples ages go up not down?

    3.  Children & Young People in Wales ~ The Policy Context

    4.  The Partnership Support Unit Purpose and Programme

    5.  Adolygiad o'r cyfarfod ar 15eg o Ionawr 2008

 Hydref 2006

  1. Funky Dragon – UNCRC Children’s Report
    As part of the Monitoring Process for the UNCRC, Funky Dragon presented information about their plans for a young people's independent UNCRC report.

  2. Pyramid Trust Cymru – Building Friendships, Creating Confidence
    A presentation outlining the work of Pyramid Trust Cymru and opportunity to learn more of their role and the target group of children/YP they aim to work with.

  3. CLIC – Young People’s Information service

Haf 2006

  1. The Group provided comments in respect of the draft consultation 'Good Practice Guide for Children: Young People's Participation'
  2. Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru delivered a presentation of their developing participation agenda with children and young people.

Gwanwyn 2006

  1. Cyflwyniad gan NSPCC Cymru ar ddiogelu plant a hawliau plant, gan gysylltu’r drafodaeth gyda’r argymhellion allweddol a gynhwysir o fewn y cyhoeddiad diweddar ‘Cywiro’r Cam: Realiti Hawliau Plant yng Nghymru’
  2. Cyflwyniad gan Gyngor Gofal Cymru ar eu hymgynghoriad cyfredol yn anelu i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yng ngwaith y sefydliad.

Gaeaf 2005

  1. Cyflwyniad a sesiwn gweithdy gan Rwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
  2. Trafodaeth ac Adfocatiaeth a Chyfranogiad.

Hydref 2005

  1. Sesiwn gweithdy dan arweiniad prosiect Advocacy in Somerset ar adfocatiaeth ac iechyd meddwl gan gyflwyno adnodd newydd - yr ‘Headspace Toolkit’ (pecyn cymorth hunan-adfocatiaeth a hawliau i bobl ifanc)
  2. Cyflwyniad gan Draig Ffynci, cynulliad plant a phobl ifanc Cymru.

Haf 2005

  1. ‘Nid yw Plant yn Cwyno….’ Cyflwyniad gan dîm Polisi a Gwerthuso Comisiynydd Plant Cymru.
  2. Cyflwyniad ar ymgynghori â, ac ennyn diddordeb, plant a phobl ifanc (Tîm Cyfathrebu Comisiynydd Plant Cymru).

Gwanwyn 2005

  1. Cyflwyniadau gan yr Uned Cyfranogi ynglyn â ‘Cyfranogi yng Nghymru.’
  2. Cyflwyniad gan Hawliau Plant Merthyr Tudful (Tros Gynnal) ynglyn â Phecyn Cymorth a Strategaeth Cyfranogi Merthyr Tudful.

Gaeaf 2004

  1. Cyflwyniad gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru
  2. Cyflwyniad gan Eiriolaeth Spurgeons
  3. Monitro gan CCUHP (UNCRC): ‘Sut y gallwn ni gymhwyso i’n gwaith ymagweddiad sy’n seiliedig ar hawliau.’

Hydref 2004

  1. BAAF Cymru – Deddf Mabwysiadu a Phlant 2004
  2. Achub y Plant – Monitro gan CCUHP (UNCRC)

Haf 2004

  1. Canllaw Ar-lein – trosolwg o wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc  
  2. Stonewall Cymru – trosolwg o’u gwaith yn gysylltiedig â hawliau pobl ifanc sy’n lesbiaidd, hoyw a deuryw  
  3. Comisiwn Etholiadol – trosolwg o Raglen Allgymorth.

Gwanwyn 2004  

  1. ‘Sdim Curo Plant Cymru – cyflwyniad parthed ymgyrch SCP (CAU) a deddfwriaeth gyfredol yn ymwneud â ‘chosbi rhesymol’
  2. Uned Hawliau Plant (Castell Nedd Port Talbot) – trosolwg o gynigion i sefydlu siop un safle yng Nghastell Nedd.

Y mae sesiynau archifol yn cynnwys:

  1. Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Siaradwr: NACRO Cymru)
  2. Darparwyr Gwasanaeth Eiriolaeth
  3. Addysg Cyfoed (Siaradwr: Cyswllt Ieuenctid Cymru)
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313