Materion a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol y Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru.
Ionawr 2009: Yr Ychydig Anghofiedig
Cael y neges drosodd allan i fan ‘na – y mae ar blant a phobl ifanc angen gwybod sut i gael at eu hawliau. Y mae’r sesiwn hwn yn nodi plant a phobl ifanc y mae arnynt yn aml angen cymorth ychwanegol ac sy’n canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.
Fe fydd prif ffocws y diwrnod cyfnewid ymarfer ar rannu ymarfer gorau, amser i rwydweithio ar ôl cyflwyniadau a thrafodaeth ynglŷn â sut y gall ymarferwyr ysgogi newid.
1. Cyflwyniadau:
CCUHP – Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn - Fe wnaeth Gareth Jones, o Swyddfa’r Comisiynydd Plant, ddarparu crynodeb o adroddiad yr arsylwadau casgliadol oddi wrth Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – beth yw’r argymhellion, a sut, mewn perthynas â gwybod am a chael at hawliau, y gallwn ni’u cyflawni hwy?
Fe wnaeth y cyflwyniad godi rhai materion o bryder, ac un ohonynt oedd – a yw’r neges ynglŷn â Hawliau Plant yn mynd allan i fan ‘na? Fe ofynnwyd i gyfranogwyr yn y cyfarfod, ‘Pwy, yn ôl yn eich ardaloedd lleol a mannau gwaith, sydd wedi cael unrhyw hysbysiad neu drafodaeth am arsylwadau casgliadol adroddiad y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn?’ Yr oedd yn ymddangos nad oedd neb wedi derbyn unrhyw adborth oddi wrth Bartneriaethau neu fannau gwaith! Yr oedd Gareth i fwydo’r wybodaeth hon yn ôl i Grŵp Monitro CCUHP.
Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Caerffili Fe wnaeth Emma Phipps-Magill ac Alyson Sefton rannu’u llwyddiannau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan fedi’r buddion o gael Swyddog Datblygu Materion Anabledd pwrpasol. Fe wnaeth y sesiwn archwilio offer a thechnegau newydd sy’n gwneud gwahaniaeth mewn ymgysylltu â phlant sydd ag anghenion cyfathrebu.
Fe wnaeth Lleisiau mewn Gofal hwyluso gweithdy: Fe rannwyd cyfranogwyr yn grwpiau i drafod a rhannu syniadau ynglŷn â’r hyn sydd ei angen i adeiladu pont o allgàu i gynhwysiant. Fe rannodd y grwpiau rai dangosyddion cyffredin: protocol rhannu gwybodaeth, ymrwymiad a chydgyfrifoldeb, adnoddau, gwybodaeth a dealltwriaeth, hygyrchedd a myfyrdod a gwerthuso.
Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Blaenau Gwent - Fe wnaeth Emma Summerill ragolygu’r DVD y mae Plant sy’n Derbyn Gofal ym Mlaenau Gwent wedi chwarae rhan gyda’i greu. Fe wnaeth y DVD yn sicr daro’r nod gan gyfleu’n llwyr i’r gynulleidfa yr emosiynau y mae plant a phobl ifanc yn eu profi wrth adael eu cartrefi a’u teuluoedd.
2. Gwerthuso: Fe gafodd y cyfnewid ymarfer groeso da, gydag adborth cadarnhaol oddi wrth yr 16 o gyfranogwyr; fe ellir gweld crynodeb o’r gwerthusiad yma.
3. Rhwydweithio: Fe wnaeth y sawl a fynychodd gwblhau Taflen Cyfnewid Gwybodaeth a ofynnodd iddynt rannu ‘Beth oeddynt yn ei wneud ar hyn o bryd?’ a ‘Beth mae arnoch angen?’, gyda manylion cysylltu. Yr oedd y rhain ar gael ar gyfer eu rhannu ar y diwrnod ac y maent ers hynny wedi’u hysgrifennu ar bapur ac fe ellir eu gweld yma. Fe fydd hyn yn cynorthwyo aelodau i barhau i rwydweithio ac i gefnogi’r naill a’r llall ar ôl y cyfarfod.
Hydref 2008: Amrywiaeth o Wybodaeth Gwrth-Fwlio!
Cyfle i ganfod sut i fynd i’r afael â bwlio. Fe wnaeth y Cyfnewid Arferion hyrwyddo Wythnos Gwrth-Fwlio o flaen llaw, gan baratoi cynrychiolwyr drwy roi rhywfaint o gynghorion gorau iddynt, a all gynorthwyo i gyflwyno a chynnal sefyllfa ble nad oes bwlio.
1. Cyflwyniadau: Fe gyflwynwyd amryw o enghreifftiau o arferion gorau ynglŷn â gwrth-fwlio i’r rhwydwaith.
Fe wnaeth y drafodaeth godi amryw o bwyntiau. Dyma’r hyn oedd gennych i ddweud:
Fe wnaeth aelodau enwi rhai adnoddau all fod o gymorth:
2. Gwerthuso: Fe gafodd y cyfnewid arferion groeso da, gydag adborth cadarnhaol oddi wrth y 45 o gyfranogwyr i gyd; fe ellir gweld crynodeb o’r gwerthusiad yma.
3. Rhwydweithio: Fe wnaeth y sawl a fynychodd gwblhau Dalen Cyfnewid Gwybodaeth a ofynnodd iddynt rannu ‘Beth oeddynt yn ei wneud ar hyn o bryd?’ a ‘Beth y mae arnoch angen?’, gyda manylion cysylltu. Yr oedd y rhain ar gael i’w rhannu ar y diwrnod ac y maent ers hynny wedi’u hysgrifennu ar bapur ac fe ellir eu gweld yma. Fe wna hyn gynorthwyo aelodau i barhau i rwydweithio ac i gefnogi’r naill a’r llall ar ôl y cyfarfod.
Gorffennaf 2008:
1. Iechyd Meddwl a Phobl Ifanc: Fe wnaeth Sally Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant, Barnardo’s Cymru draddodi cyflwyniad a chynnal trafodaeth ddilynol ar yr E-Gyfarwyddiad Polisi ac Ymarfer ar Ddarpariaeth Iechyd Meddwl ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Ar gael i’w lawrlwytho: Papur Cyfarwyddiad a Chyflwyniad
Ar ôl y cyflwyno a’r trafod, fe wahanwyd y cyfranogwyr i fod yn grwpiau bychain i ystyried astudiaeth achos.
2. Gwerthuso: Fe gafodd y cyfnewid arferion ei groesawu, gydag adborth cadarnhaol oddi wrth bob un o’r 27 o’r cyfranogwyr; fe ellir cael golwg yma ar grynodeb o’r gwerthusiad.
3. Rhwydweithio: Fe wnaeth y sawl a fynychodd gwblhau Taflen Cyfnewid Gwybodaeth a ofynnai iddynt rannu, ‘Beth oeddynt yn ei wneud ar hyn o bryd?’ a ‘Beth y mae arnoch chi’i angen?’, gyda manylion cysylltu. Yr oedd y rhain ar gael ar gyfer eu rhannu ar y diwrnod ac ers hynny y maent wedi’u cofnodi ac fe ellir cael golwg arnynt yma. Fe fydd hyn yn cynorthwyo aelodau i barhau i rwydweithio ac i gefnogi’i gilydd ar ôl y cyfarfod.
Y mae manylion cysylltu’r sawl a fynychodd ar gael yma.
Ebrill 2008
Sylwadau: Fe wnaeth y cyflwyniad annog rhywfaint o drafodaeth, ac fe gododd faterion a phryderon yn y maes hwn. Y mae sylwadau a gofnodwyd ar y diwrnod yn cynnwys:
Gwerthuso: Fe gafodd y cyfnewid ymarfer groeso da, gydag adborth cadarnhaol oddi wrth y 24 o gyfranogwyr i gyd, y gellir gweld crynodeb ohono yma
3. Rhwydweithio: Fe wnaeth y sawl a fynychodd gwblhau Taflen Cyfnewid Gwybodaeth a ofynnodd iddynt rannu ‘Beth oeddynt wrthi’n ei wneud ar y funud?’ a ‘Beth y mae arnoch angen?’, gyda manylion cysylltu. Yr oedd y rhain ar gael ar gyfer eu rhannu ar y diwrnod ac y maent ers hynny wedi’u hailysgrifennu ac fe ellir cael golwg arnynt yma. Diben hyn yw dilyn hynt ar ôl y cyfarfod gydag unrhyw un y gallech deimlo y gall eich cynorthwyo chi gyda darn o waith, neu fel arall.
Ionawr 2008
1. Funky Dragon
2. Why do peoples ages go up not down?
3. Children & Young People in Wales ~ The Policy Context
4. The Partnership Support Unit Purpose and Programme
5. Adolygiad o'r cyfarfod ar 15eg o Ionawr 2008
Hydref 2006
Funky Dragon – UNCRC Children’s ReportAs part of the Monitoring Process for the UNCRC, Funky Dragon presented information about their plans for a young people's independent UNCRC report.
Pyramid Trust Cymru – Building Friendships, Creating ConfidenceA presentation outlining the work of Pyramid Trust Cymru and opportunity to learn more of their role and the target group of children/YP they aim to work with.
CLIC – Young People’s Information service
Haf 2006
Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru delivered a presentation of their developing participation agenda with children and young people.
Gwanwyn 2006
Gaeaf 2005
Hydref 2005
Haf 2005
Gwanwyn 2005
Gaeaf 2004
Hydref 2004
Haf 2004
Gwanwyn 2004
Y mae sesiynau archifol yn cynnwys: