Y mae’r adran hon yn darparu manylion ynglyn â chyfarfodydd o Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru ac y mae’n amlinellu rhai o’r materion a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol.
Clychiwch yma am ragor o wybodaeth am y cyfarfodydd hyn, cysylltwch â Sarah Thomas, Swyddog Datblygu De Cymru, Plant yng Nghymru, 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: 029 2034 2434. E-bost: Sarah.Thomas@childreninwales.org.uk.
Materion a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf:
Hydref 2008
Amrywiaeth o Wybodaeth Gwrth-Fwlio!
Cyfle i ganfod sut i fynd i’r afael â bwlio. Fe wnaeth y Cyfnewid Arferion hyrwyddo Wythnos Gwrth-Fwlio o flaen llaw, gan baratoi cynrychiolwyr drwy roi rhywfaint o gynghorion gorau iddynt, a all gynorthwyo i gyflwyno a chynnal sefyllfa ble nad oes bwlio.
1. Cyflwyniadau: Fe gyflwynwyd amryw o enghreifftiau o arferion gorau ynglŷn â gwrth-fwlio i’r rhwydwaith.
Fe wnaeth y drafodaeth godi amryw o bwyntiau. Dyma’r hyn oedd gennych i ddweud:
Fe wnaeth aelodau enwi rhai adnoddau all fod o gymorth:
2. Gwerthuso: Fe gafodd y cyfnewid arferion groeso da, gydag adborth cadarnhaol oddi wrth y 45 o gyfranogwyr i gyd; fe ellir gweld crynodeb o’r gwerthusiad yma.
3. Rhwydweithio: Fe wnaeth y sawl a fynychodd gwblhau Dalen Cyfnewid Gwybodaeth a ofynnodd iddynt rannu ‘Beth oeddynt yn ei wneud ar hyn o bryd?’ a ‘Beth y mae arnoch angen?’, gyda manylion cysylltu. Yr oedd y rhain ar gael i’w rhannu ar y diwrnod ac y maent ers hynny wedi’u hysgrifennu ar bapur ac fe ellir eu gweld yma. Fe wna hyn gynorthwyo aelodau i barhau i rwydweithio ac i gefnogi’r naill a’r llall ar ôl y cyfarfod.