Y mae Plant yng Nghymru yn gysylltiedig ag amryw o gynlluniau sydd â’r nod o hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru, yn cynnwys:
Grwp Monitro Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) Fe gynrychiolir Plant yng Nghymru ar Grwp Monitro’r UNCRC, sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y gwaith o gadw golwg ar Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru yn cael ei gydlynu’n effeithiol. Y mae Achub y Plant yn cynnull Grwp Monitro’r UNCRC, sy’n gynghrair o asiantaethau ar y lefel genedlaethol sy’n cydlynu gwaith yng Nghymru o ran cadw golwg ar weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Y mae mwy o wybodaeth am gadw golwg ar yr UNCRC ar gael yn adran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig y wefan hon.