Bu Grwp Llywio Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yn brysur iawn yn ystod mis Rhagfyr. Ar 8 Rhagfyr cawsom gyfarfod cadarnhaol iawn gyda Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddwn yn ei chyfarfod eto ym mis Mawrth. Byddwn yn trafod y Cynllun Gweithredu Mynd i'r Afael â Thlodi gyda Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr.
Mae'r Grwp Llywio hefyd wedi cael gwahoddiad i fynychu digwyddiadau Llywodraeth Cymru ar Ymgynghoriad ar opsiynau i ddisodli Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Argyfwng ar gyfer Treuliau Byw Cronfa Gymdeithasol - gweler yr Adran Ymgynghoriadau. Byddwn yn ymateb i'r ymgynghoriad yn swyddogol yn ystod y misoedd nesaf.
Cyflwynodd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru ymateb i'r ymgynghoriad Papur Gwyn y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru ). Canolbwyntiodd y Rhwydwaith ar y cwestiynau ar gynlluniau Brecwast am Ddim a chostau cinio ysgol. - gweler yn yr Adran ymgynghoriadau.
Strategaeth Tlodi Plant i Gymru a Chynllun Cyflenwi - Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar y Strategaeth Tlodi Plant newydd i Gymru
Siarter Tlodi Tanwydd - Mae clymblaid o sefydliadau, yn cynnwys Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, wedi lansio siarter tanwydd sydd yn galw am gael gwared ar dlodi tanwydd yng Nghymru.
Y mae gwefan newydd a ddyluniwyd i gynorthwyo cynghorau a’u partneriaid i ddatblygu ymatebion lleol i ostwng tlodi ymysg plant wedi’i lansio: www.childpovertysolutions.org.uk
Nifer y plant yn byw mewn tlodi yn codi - Mae'r figyrau Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog blynyddol (2007/08), a gyhoeddwyd ar y 7fed o Fai 2009, yn dangos bod ar ôl i gostau cynnal tŷ gael eu cymryd i ystyriaeth, yr oedd 32% o blant yng Nghymru mewn tlodi yn 2008, rhywbeth a ddiffinnir fel byw ar aelwydydd gyda llai na 60% o incwm canolrif y Deyrnas Unedig. Cododd hyn o 29% yn y flwyddyn flaenorol.
Keep the Promise - Digwyddiad mwyaf y DU i ddileu tlodi ymysg plantAr 4 Hydref 2008, fe wnaeth mwy na 10,000 o bobl deithio i Lundain er mwyn cymryd rhan yn nigwyddiad mwyaf y DU i ddileu tlodi ymysg plant. Darllenwch mwy ar wefan Dileu Tlodi Plant.
Etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol 2007 -Maniffesto NGO Tlodi Plant
Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Tlodi 2006 - Cost AddysgMae rhieni sy’n byw ar incwm isel yng Nghymru yn ei chael yn anodd talu am gostau ‘cudd’ cynyddol ac amrywiol anfon eu plant i’r ysgol, yn ôl Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru. Cliciwch yma
Child Poverty MattersAr y 30ain a’r 31ain o Awst 2006, fe aeth 24 o bobl ifanc 13-16 mlwydd oed o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru i ddigwyddiad Child Poverty Matters yn San Steffan i ddweud wrth Weinidogion ac unigolion blaenllaw ym maes tlodi ymysg plant sut y mae bywyd yn eu cymunedau. Yr oedd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn gysylltiedig â rhoi cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad hwn, ac fe wnaeth pobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Abertawe fynychu’r ymgynghoriad. Y mae’r Adroddiad ar gael yn awr ar ein gwefan ac fe ellir hefyd gweld rhywfaint o luniau fideo o’r digwyddiad yn YouTube
Tlodi Ymysg Plant yng Nghymru – llawer o waith i’w wneud, medd Adroddiad Cynhadledd, Awst 2006
Dewisiadau Anghyfartal Ym mis Ebrill, 2006, fe wnaeth RhDTP Cymru drefnu ‘digwyddiad gwrando’ yng Nghaerdydd gyda rhieni ieuainc a phobl ifanc i gasglu’u barn a’u hatebion i lawer o’r problemau taer sy’n gysylltiedig â thlodi ymysg plant. Y mae Dewisiadau Anghyfartal, a gyhoeddwyd gan Dileu Tlodi Plant mewn cydweithrediad â Sefydliad Joseph Rowntree, yn croniclo barn mwy na 300 o bobl a gymrodd ran mewn digwyddiadau a gynhaliwyd yn Belfast, Caerdydd, Glasgow, Llundain, Lerpwl a Sheffield. Fe ellir llwytho copïau o’r adroddiad i lawr am ddim.