Yn ystod 2010, fe wnaeth Plant yng Nghymru ddatblygu a darparu amryw o weithdai rhyngweithiol, addysgiadol a chyfranogol gydag ystod eang o blant a phobl ifanc mewn 6 o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru ynghylch thema tlodi tanwydd a chartrefi cynnes. Mae’r gwaith hwn, a gomisiynwyd gan Llais Defnyddwyr Cymru, yn dal eu barn a’u profiadau, yn ychwanegol at ddatrysiadau allweddol 'y gall unigolion eu gwneud', 'y gall deiliaid y cartref eu gwneud' ac 'y gall sefydliadau (Llywodraethau, cwmnïau cyfleustodau, ysgolion, ac yn y blaen) eu gwneud' i gynorthwyo i gadw pobl yn gynnes ac i gynorthwyo i oresgyn tlodi tanwydd.
Mae yna DVD o’r gwaith wedi’i ddatblygu.
Fuel Poverty from Children in Wales on Vimeo.
Poster Cadw'n Gynnes (dwyieithog) - A3
Keeping Warm (Saesneg) - Adroddiad