Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Much Work Still to be Done
  • Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Newyddion
    Ymunwch â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Cyhoeddiadau yn ymwneud â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Wyneb tlodi yng Nghymru
    Tlodi - Y Ffeithiau
    Tlodi - Cwestiynau ac Atebion
    » Mentrau/polisïau'r Llywodraeth
    Pa gamau a gymerir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i liniaru tlodi

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Tlodi Plant »Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru »Mentrau/polisïau'r Llywodraeth
Mentrau/polisïau'r Llywodraeth

senedd2

Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymeryd i liniaru tlodi'

Y mae Cynulliad Cymru wedi parhau i ailddatgan eu hymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi ymysg plant yng Nghymru. Ym mis Mai, 2003, fe ddywedodd y Gweinidog Cyntaf, Rhodri Morgan: "..prif thema’r weinyddiaeth newydd hon fydd gweithredu yn erbyn tlodi." Ym mis Mehefin, 2004, fe ddywedodd y Gweinidog dros Blant, Jane Hutt: "Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn credu’n gryf y dylir dileu tlodi ymysg plant o fewn cenhedlaeth." Fe wnaeth y Gweinidog, Jane Hutt, amlinellu gweithredu ar dlodi gan y Cynulliad mewn araith a draddodwyd yng nghynhadledd ‘Eurochild’ ar y 25ain o Hydref, 2004. (Y mae’r wybodaeth hon ar gael ond yn y Saesneg)

Mynd i’r afael ag anfantais gymdeithasol yw un o’r tair prif themâu y mae’r Cynulliad wedi’i dderbyn yn eu cynllun strategol, ‘Cymru'n Un'.

Cymru'n Un

Y mae agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru am y pedair blynedd nesaf wedi’i hamlinellu yn ‘Cymru'n Un: Rhaglen flaengar ar gyfer llywodraethu Cymru' , a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2007. Y mae’n amlinellu’r meysydd allweddol y bydd y Llywodraeth clymbleidiol yn canolbwyntio arnynt.

Adroddiad Blynyddol ar Gyfiawnder Cymdeithasol yng Nghymru.
Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar Gyfiawnder Cymdeithasol yng Nghymru.

Y mae yna ddwy brif raglen sydd gan y Cynulliad i gael effaith ar dlodi ymysg plant sef Rhoi Cymunedau’n Gyntaf a Cymorth.

  1. Rhoi Cymunedau’n Gyntaf
    Y mae rhaglen Rhoi Cymunedau’n Gyntaf yn strategaeth hirdymor ar gyfer gwella amodau byw a rhagolygon ar gyfer pobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Y mae’r rhaglen yn amcanu at sicrhau bod yr arian a’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac amryfal asiantaethau eraill a gyllidir gan arian cyhoeddus yn cael eu hanelu at yr ardaloedd tlotaf.
  2. Cymorth – Y Gronfa Cymorth i Blant a Phobl Ifanc sy’n cyfuno’r cyllid a ddarparwyd yn flaenorol drwy Cychwyn Cadarn, Partneriaethau Gofal Plant a’r Gronfa Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc, gan gynnwys y Fenter Mynediad Ieuenctid a Grant Chwarae. Cyllid gan Cymorth yw’r ffynhonnell o gynhaliaeth ariannol ar gyfer cynlluniau plant a phobl ifanc sy’n cael eu cynhyrchu, yn ôl eu trefn, gan y Partneriaethau Plant a Phartneriaethau Pobl Ifanc. Fe fydd y partneriaethau hyn yn is-grwpiau o Bartneriaethau Fframwaith Plant a Phobl Ifanc, a sefydlwyd ym mhob un awdurdod lleol. Fe fydd y Partneriaethau Plant a Phartneriaethau Pobl Ifanc yn gyfrifol am, ymysg pethau eraill, lunio a rheoli cynllun lleol ar gyfer defnyddio arian Cymorth.

Brecwast/nofio am ddim
Mae gan Llywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymiad i ddarparu bod holl blant ysgolion cynradd yn cael brecwast am ddim. Bwriedir i'r fenter hon helpu i wella iechyd plant a'u gallu i ganolbwyntio, helpu i godi safonau dysgu a chyrhaeddiad.

Mae cynllun Nofio am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ddarparu nofio am ddim ar gyfer plant a phobl ifanc 16 oed ac iau yn ystod pob gwyliau ysgol.

Strategaeth Tlodi Plant
Ar y 9fed o Chwefror, 2005, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru "Dyfodol Teg i'n Plant", sef y Strategaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Mynd i'r Afael â Thlodi ymysg Plant. Mai 2006 - Cynllun Cyflawni ar Dlodi Ymysg Plant

Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Yn 2004, fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru dderbyn Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel y sail ar gyfer eu holl waith gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Fe wnaethant drosi hyn i 7 o amcanion craidd. Yn seiliedig ar Erthyglau CCUHP/UNCRC 6,26,27,28, y mae Amcan 7 yn datgan na ddylai plant a phobl ifanc fod dan anfantais oherwydd tlodi. Y mae adran Cytundeb y Cenhedloedd Unedig o wefan Plant yng Nghymru yn rhoi manylion pob Erthygl o’r Cytundeb.

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313