Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymeryd i liniaru tlodi?
Y mae Cynulliad Cymru wedi parhau i ailddatgan eu hymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi ymysg plant yng Nghymru. Ym mis Mai, 2003, fe ddywedodd y Gweinidog Cyntaf, Rhodri Morgan: "..prif thema’r weinyddiaeth newydd hon fydd gweithredu yn erbyn tlodi." Ym mis Mehefin, 2004, fe ddywedodd y Gweinidog dros Blant, Jane Hutt: "Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn credu’n gryf y dylir dileu tlodi ymysg plant o fewn cenhedlaeth." Fe wnaeth y Gweinidog, Jane Hutt, amlinellu gweithredu ar dlodi gan y Cynulliad mewn araith a draddodwyd yng nghynhadledd ‘Eurochild’ ar y 25ain o Hydref, 2004. (Y mae’r wybodaeth hon ar gael ond yn y Saesneg)
Mynd i’r afael ag anfantais gymdeithasol yw un o’r tair prif themâu y mae’r Cynulliad wedi’i dderbyn yn eu cynllun strategol, ‘Cymru'n Un'.
Cymru'n Un
Y mae agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru am y pedair blynedd nesaf wedi’i hamlinellu yn ‘Cymru'n Un: Rhaglen flaengar ar gyfer llywodraethu Cymru', a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2007. Y mae’n amlinellu’r meysydd allweddol y bydd y Llywodraeth clymbleidiol yn canolbwyntio arnynt.
Adroddiad Blynyddol ar Gyfiawnder Cymdeithasol yng Nghymru. Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar Gyfiawnder Cymdeithasol yng Nghymru.
Brecwast/nofio am ddimMae gan Llywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymiad i ddarparu bod holl blant ysgolion cynradd yn cael brecwast am ddim. Bwriedir i'r fenter hon helpu i wella iechyd plant a'u gallu i ganolbwyntio, helpu i godi safonau dysgu a chyrhaeddiad.
Mae cynllun Nofio am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ddarparu nofio am ddim ar gyfer plant a phobl ifanc 16 oed ac iau yn ystod pob gwyliau ysgol.
Strategaeth Tlodi PlantAr y 9fed o Chwefror, 2005, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru "Dyfodol Teg i'n Plant", sef y Strategaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Mynd i'r Afael â Thlodi ymysg Plant. Mai 2006 - Cynllun Cyflawni ar Dlodi Ymysg Plant
Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r PlentynYn 2004, fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru dderbyn Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel y sail ar gyfer eu holl waith gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Fe wnaethant drosi hyn i 7 o amcanion craidd. Yn seiliedig ar Erthyglau CCUHP/UNCRC 6,26,27,28, y mae Amcan 7 yn datgan na ddylai plant a phobl ifanc fod dan anfantais oherwydd tlodi. Y mae adran Cytundeb y Cenhedloedd Unedig o wefan Plant yng Nghymru yn rhoi manylion pob Erthygl o’r Cytundeb.