Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Much Work Still to be Done
  • Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    » Newyddion
    Ymunwch â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Cyhoeddiadau yn ymwneud â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Wyneb tlodi yng Nghymru
    Tlodi - Y Ffeithiau
    Tlodi - Cwestiynau ac Atebion
    Mentrau/polisïau'r Llywodraeth
    Pa gamau a gymerir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i liniaru tlodi

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Tlodi Plant »Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru »Newyddion
Newyddion

Nifer y plant yn byw mewn tlodi yn codi - Mae'r figyrau Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog blynyddol (2007/08), a cyhoeddwyd ar y 7fed o Fai 2009, yn dangos bod ar ôl i gostau cynnal tŷ gael eu cymryd i ystyriaeth, yr oedd 32% o blant yng Nghymru mewn tlodi yn 2008, rhywbeth a ddiffinnir fel byw ar aelwydydd gyda llai na 60% o incwm canolrif y Deyrnas Unedig. Fe gododd hyn o 29% yn y flwyddyn flaenorol.

Keep the Promise - Digwyddiad fwyaf y DU i ddileu tlodi ymysg plant
Ar 4 Hydref 2008, fe wnaeth mwy na 10,000 o bobl deithio i Lundain er mwyn cymryd rhan yn y digwyddiad fwyaf y DU i ddileu tlodi ymysg plant. Darllenwch mwy ar wefan Dileu Tlodi Plant.

Etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol 2007 -Maniffesto NGO Tlodi Plant

Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Tlodi 2006 - Cost Addysg
Mae rhieni sy’n byw ar incwm isel yng Nghymru yn ei chael yn anodd talu am gostau ‘cudd’ cynyddol ac amrywiol anfon eu plant i’r ysgol, yn ôl Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru. Cliciwch yma

Child poverty mattersChild Poverty Matters
Ar y 30ain a’r 31ain o Awst 2006, fe aeth 24 o bobl ifanc 13-16 mlwydd oed o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru i ddigwyddiad Child Poverty Matters yn San Steffan i ddweud wrth Weinidogion ac unigolion blaenllaw ym maes tlodi ymysg plant sut y mae bywyd yn eu cymunedau. Yr oedd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn gysylltiedig â rhoi cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad hwn, ac fe wnaeth pobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Abertawe fynychu’r ymgynghoriad. Y mae’r Adroddiad ar gael yn awr ar ein gwefan ac fe ellir hefyd gweld rhywfaint o luniau fideo o’r digwyddiad yn YouTube

Tlodi Ymysg Plant yng Nghymru – llawer o waith i’w wneud, medd Adroddiad Cynhadledd, Awst 2006

Dewisiadau Anghyfartal
Ym mis Ebrill, 2006, fe wnaeth RhDTP Cymru drefnu ‘digwyddiad gwrando’ yng Nghaerdydd gyda rhieni ieuainc a phobl ifanc i gasglu’u barn a’u hatebion i lawer o’r problemau taer sy’n gysylltiedig â thlodi ymysg plant. Y mae Dewisiadau Anghyfartal, a gyhoeddwyd gan Dileu Tlodi Plant mewn cydweithrediad â Sefydliad Joseph Rowntree, yn croniclo barn mwy na 300 o bobl a gymrodd ran mewn digwyddiadau a gynhaliwyd yn Belfast, Caerdydd, Glasgow, Llundain, Lerpwl a Sheffield. Fe ellir llwytho copïau o’r adroddiad i lawr am ddim.

blyn
Adnoddau Cysylltiol
:“Tlodi Plant yng Nghymru - llawer o waith ar ôl”
:Cost Addysg, Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Tlodi 2006
:Child Poverty Matters Report, August 06 (pdf 1178k)
:Maniffesto Tlodi Plant (pdf 82k)
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313