Cartref
|
Map o'r Safle
|
Telerau ac Amodau
|
Cysylltu a Ni
|
English
Aelodaeth
|
Newyddion
|
Amdanom Ni
|
Ein Gwaith
|
Meysydd Gwaith
Cyhoeddiadau
|
Digwyddiadau
|
Polisi
|
Yn Eich Ardal
|
Confensiwn y CU
|
Cysylltiadau
Chwilio
Cofnodwch eich term chwilio
Chwilio Manwl
Aelodau i Fewngofnodi
Enw Defnyddiwr
Cyfrinair
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma
Is-Dudalennau
Much Work Still to be Done
Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
Newyddion
Ymunwch â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
Cyhoeddiadau yn ymwneud â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
Wyneb tlodi yng Nghymru
»
Tlodi - Y Ffeithiau
Tlodi - Cwestiynau ac Atebion
Mentrau/polisïau'r Llywodraeth
Pa gamau a gymerir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i liniaru tlodi
Yr ydych yn :
Meysydd Gwaith
»
Tlodi Plant
»
Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
»
Tlodi - Y Ffeithiau
Tlodi - Y Ffeithiau
Fe all tyfu i fyny mewn tlodi amharu ar les, iechyd a datblygiad corfforol a gwybyddol plentyn.
Y mae plant a enir i dlodi yn fwy tebygol o fod yn pwyso llai ar eu genedigaeth, o fod â chyfradd marwolaeth uchel fel babanod ac o fod ag iechyd gwaelach na phlant mwy cefnog.
Y mae dietau pobl sydd ar incymau isel yn aml yn wael o ran maeth, gan ddibynnu ar ‘galorïau rhad’ o fwyd rhad wedi’i brosesu.
Y mae plant tlawd yn 15 gwaith mwy tebygol o farw mewn tân yn eu cartref na phlant mwy cefnog a thair gwaith yn fwy tebygol o gael eu taro gan gar.
Y mae’r cydberthynas rhwng tlodi, dosbarth cymdeithasol a phrofiad a chyrhaeddiad addysgol gwael wedi’u profi’n bendant.
Er bod addysg am ddim, y mae yna lawer o ‘bethau ychwanegol’ y mae disgwyl i deuluoedd dalu amdanynt. Y mae ymchwil a wnaed yng Nghymru yn awgrymu bod plant a phobl ifanc tlawd ar eu colled ac yn cael eu stigmateiddio oherwydd na allant fforddio lifrai ysgol priodol, ac oherwydd eu bod yn cael cinio ysgol am ddim. Y mae plant a phobl ifanc o deuluoedd tlotach hefyd yn aml yn cael eu hallgàu o deithiau ysgol a gweithgareddau cymdeithasol yn yr ysgol.
Y mae pobl sydd ar incymau isel yn aml yn cael profiad o ddyledion. Y mae costau ad-dalu dyledion yn aml yn arwain at deuluoedd yn byw heb eitemau hanfodol. Costau eraill dyledion yw’r costau sy’n amharu ar iechyd, perthynas ac ansawdd bywyd.
Y mae sefyllfaoedd megis digartrefedd ac amgylcheddau ble y mae yna ormod o bobl yn byw gyda’i gilydd dros gyfnod hirfaith yn cael effaith sylweddol ar les a datblygiad corfforol, meddyliol a chymdeithasol plentyn.