"Y mae Cymru yn wlad sy’n dioddef mewn lleoedd oddi wrth amddifadedd sylweddol. Y mae’r cyfryw ardaloedd yn dioddef oddi wrth safonau gwael mewn iechyd, cyrhaeddiad addysgol isel, camddefnyddio sylweddau, dibyniaeth ar fudd-daliadau a phrinder rhagolygon gwaith. Y mae gormod o deuluoedd yn profi effeithiau tlodi." Adroddiad Blynyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Gynhwysiad Cymdeithasol yng Nghymru (2003).
*Amharir ar 29 y canto blant yng Nghymru gan dlodi
Y mae teulu Dafydd ond yn un ohonynt:
Y mae hanes Dafydd** yn cyfleu’r realiti y mae llawer o blant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru yn ei wynebu. Y mae Dafydd yn saith oed. Y mae’n byw gyda’i fam a dau frawd neu chwaer sy’n 10 ac 11 mlwydd oed. Y maent yn byw mewn ty a rentir yn breifat yng Ngogledd Cymru. Y mae Dafydd yn dioddef oddi wrth asthma, a waethygir gan y lleithder yn yr eiddo. Y mae llwydni yn tyfu ar y carpedi a’r dillad - sydd o’r herwydd yn golygu bod angen eu golchi byth a beunydd. Y mae Dafydd yn cael trafferthion yn yr ysgol. Y mae ef yn aml yn absennol o’r ysgol oherwydd ei broblemau iechyd ac y mae’n dioddef oddi wrth warthnodaeth. Y mae unedau’r gegin yn pydru oherwydd y cyflwr ac y mae hyn yn gwneud glanweithdra a choginio yn anodd. Y mae’i fam yn derbyn cymhorthdal incwm ac y mae’n gorfod treulio llawer mwy o incwm y cartref ar wresogi’r eiddo nag y dylai oherwydd cyflwr yr eiddo sy’n dadfeilio. Y mae hyn yn cael effaith ar ei gallu i fwydo’r teulu yn iawn ac i gael eitemau hanfodol eraill. Y mae cyflwr gwael fel hyn y tai a phwysau ariannol eraill yn peri straen emosiynol a meddyliol ar y teulu.
*Yn seiliedig ar ffigurau oddi wrth Ffigurau Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (CIIC / HBAI) am 2006/07
**Y mae hanes Dafydd yn seiliedig ar dystiolaeth ddiweddar achos bywyd go iawn a ddarparwyd gan Shelter Cymru.