Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Much Work Still to be Done
  • Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Newyddion
    Ymunwch â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Cyhoeddiadau yn ymwneud â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    » Wyneb tlodi yng Nghymru
    Tlodi - Y Ffeithiau
    Tlodi - Cwestiynau ac Atebion
    Mentrau/polisïau'r Llywodraeth
    Pa gamau a gymerir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i liniaru tlodi

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Tlodi Plant »Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru »Wyneb tlodi yng Nghymru
Wyneb tlodi yng Nghymru

Boys Dancing"Y mae Cymru yn wlad sy’n dioddef mewn lleoedd oddi wrth amddifadedd sylweddol. Y mae’r cyfryw ardaloedd yn dioddef oddi wrth safonau gwael mewn iechyd, cyrhaeddiad addysgol isel, camddefnyddio sylweddau, dibyniaeth ar fudd-daliadau a phrinder rhagolygon gwaith. Y mae gormod o deuluoedd yn profi effeithiau tlodi." Adroddiad Blynyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Gynhwysiad Cymdeithasol yng Nghymru (2003).

*Amharir ar 29 y canto blant yng Nghymru gan dlodi

Y mae teulu Dafydd ond yn un ohonynt:

Y mae hanes Dafydd** yn cyfleu’r realiti y mae llawer o blant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru yn ei wynebu. Y mae Dafydd yn saith oed. Y mae’n byw gyda’i fam a dau frawd neu chwaer sy’n 10 ac 11 mlwydd oed. Y maent yn byw mewn ty a rentir yn breifat yng Ngogledd Cymru. Y mae Dafydd yn dioddef oddi wrth asthma, a waethygir gan y lleithder yn yr eiddo. Y mae llwydni yn tyfu ar y carpedi a’r dillad - sydd o’r herwydd yn golygu bod angen eu golchi byth a beunydd. Y mae Dafydd yn cael trafferthion yn yr ysgol. Y mae ef yn aml yn absennol o’r ysgol oherwydd ei broblemau iechyd ac y mae’n dioddef oddi wrth warthnodaeth. Y mae unedau’r gegin yn pydru oherwydd y cyflwr ac y mae hyn yn gwneud glanweithdra a choginio yn anodd. Y mae’i fam yn derbyn cymhorthdal incwm ac y mae’n gorfod treulio llawer mwy o incwm y cartref ar wresogi’r eiddo nag y dylai oherwydd cyflwr yr eiddo sy’n dadfeilio. Y mae hyn yn cael effaith ar ei gallu i fwydo’r teulu yn iawn ac i gael eitemau hanfodol eraill. Y mae cyflwr gwael fel hyn y tai a phwysau ariannol eraill yn peri straen emosiynol a meddyliol ar y teulu.

*Yn seiliedig ar ffigurau oddi wrth Ffigurau Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (CIIC / HBAI) am 2006/07

**Y mae hanes  Dafydd yn seiliedig ar dystiolaeth ddiweddar achos bywyd go iawn a ddarparwyd gan Shelter Cymru.





Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313