Ym mis Mawrth, 1999, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol addo dileu tlodi ymysg plant o fewn cenhedlaeth, a'i haneru erbyn 2010.
Y mae gan y llywodraeth Lafur amryw o bolisïau sy’n cael eu hanelu at liniaru tlodi. Y mae’r rhain wedi canolbwyntio ar gefnogaeth i blant yn bennaf drwy’r gyfundrefn addysg; cefnogaeth i rieni a anelir at ei gwneud hi dalu i weithio, gofal plant, a mentrau magu plant; a newidiadau mewn cynhaliaeth gyllidol ar gyfer plant a theuluoedd drwy’r gyfundrefn drethi a budd-daliadau. Y mae diwygiadau lles y Llywodraeth wedi’u seilio ar yr egwyddor o ‘waith i’r sawl a all, sicrwydd i’r sawl na all’. Y mae prif ganolbwynt y polisi ar fudd-daliadau, a’u darpariaeth, wedi bod ar y cyntaf.
Y mae llawer o grwpiau o bobl yn wynebu rhwystrau neilltuol i ganfod a chadw gwaith cyflogedig. Ni all llawer weithio oherwydd eu bod yn oedrannus, gwaeledd, anabledd, anhwylder meddwl, llesgedd, a chyfrifoldebau gofal/teuluol. Y mae safonau byw yn neilltuol o isel i lawer o deuluoedd nad ydynt yn gweithio, sydd bedair gwaith yn fwy tebygol o brofi cyni difrifol na’r sawl sy’n gweithio.