Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Newyddion
  • Ymunwch â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
  • Cyhoeddiadau yn ymwneud â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
  • Wyneb tlodi yng Nghymru
  • Tlodi - Y Ffeithiau
  • Tlodi - Cwestiynau ac Atebion
    Tlodi - Diffinio a Mesur
    » Effeithiau Tlodi
  • Mentrau/polisïau'r Llywodraeth
  • Pa gamau a gymerir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i liniaru tlodi

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Tlodi Plant »Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru »Tlodi - Cwestiynau ac Atebion »Effeithiau Tlodi
Effeithiau Tlodi

Girl doing puzzleA yw eu profiad o dlodi yn amharu ar blant?

Fe wnaeth gwaith ymchwil a wnaed gan y Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd (ISER) ddangos perthynas rhwng tlodi yn ystod plentyndod a lles fel oedolion, gan ddangos y gall tlodi ymysg plant adael etifeddiaeth hirdymor niweidiol.

Iechyd/Lles
Y mae plant a enir i dlodi yn fwy tebygol o fod yn pwyso llai ar eu genedigaeth, o fod â chyfradd marwolaeth uchel fel babanod ac o fod ag iechyd gwaelach na phlant mwy cefnog.

Y mae dietau pobl sydd ar incymau isel yn aml yn wael o ran maeth, gan ddibynnu ar ‘galorïau rhad’ o fwyd rhad wedi’i brosesu. Fe ganfu astudiaeth a wnaed gan yr NCH fod mamau weithiau yn byw heb fwyd i ddiwallu anghenion eu plant. Fe ganfu astudiaeth gan Barnardo’s fod hyn yn arbennig o wir yn ystod gwyliau’r ysgol pan mae teuluoedd yn gorfod ymdopi heb ginio ysgol am ddim. Fe ganfu adroddiad gan yr NCH/Barnardos ar dlodi yng nghefn gwlad fod cael at fwyd fforddiadwy yn fater pwysig i deuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

Y mae yna gydberthynas cryf rhwng damweiniau ac amddifadedd yn ystod plentyndod. Y mae plant tlawd yn 15 gwaith mwy tebygol o farw mewn tân yn eu cartref na phlant mwy cefnog ac yn dair gwaith fwy tebygol o gael eu taro gan gar.

Fe wnaeth Chweched Adroddiad Blynyddol 2004, Cyfle i Bawb, o eiddo’r Adran Gwaith a Phensiynau ddatgelu bod y tebygolrwydd o ddod yn fam yn ei harddegau bron ddeg gwaith yn uwch i eneth y mae’i theulu yn y dosbarth cymdeithasol isaf yn 1999 o gymharu â’r dosbarth cymdeithasol uchaf. Y mae’r adroddiad yn datgelu hefyd bod y gyfradd marwolaeth i fabanod mamau yn eu harddegau yn 60 y cant yn uwch nag i fabanod mamau hyn. Fe ddangoswyd hefyd fod y grwp hwn yn cael babanod sy’n pwyso’n ysgafn ar eu genedigaeth. Y mae gan y Deyrnas Gyfunol y gyfradd genedigaeth uchaf ymysg genethod yn eu harddegau yn Ewrop ac y mae gan Gymru gyfradd sy’n gyson uwch na Lloegr.

Fe ddengys y Chweched Adroddiad Blynyddol, Cyfle i Bawb, hefyd fod disgyblion sy’n derbyn cinio ysgol am ddim (a ddefnyddir fel procsi ar gyfer incwm isel) yn fwy tebygol o ysmygu na’r rhan fwyaf nad ydynt yn derbyn cinio ysgol am ddim.

Tai a Digartrefedd
Y mae amodau megis digartrefedd ac amgylcheddau ble y mae yna ormod o bobl yn byw gyda’i gilydd dros gyfnod hirfaith yn cael effaith sylweddol ar les a datblygiad corfforol, meddyliol a chymdeithasol plentyn. Y mae gormod o bobl yn byw gyda’i gilydd yn cynyddu’r risg o afiechydon heintus neu anadlol. Fe all lleithder, llwydni ac anwedd beri rhychwant o afiechydon megis asthma ac alergeddau. Y mae wedi’i ddangos bod amodau tai gwael yn achosi straen eithafol ar blant ac oedolion, gan arwain at iselder a phryder hirdymor. Fe all amodau ble y mae’n gyfyng mewn ty arwain at safon wael o lanweithdra a chyfleusterau coginio cyfyngedig yn arwain at ddeiet gwael. Y mae plant mewn lletyau gwely a brecwast ddwywaith yn fwy tebygol o fynd i adrannau damwain ac argyfwng ysbytai gyda llosgiadau a llosgiadau dwr poeth. Y mae pobl sydd ag asthma fwy na dwywaith yn debygol o fyw mewn tai llaith ac y mae gan blant fwy o symptomau anadlol yn ogystal â chur yn y pen a thwymynau o gymharu â phlant mewn tai sych. Y mae’r Fenter Asthma Fyd-eang (GINA) wedi amcangyfrif bod gan Gymru ymysg y lefelau uchaf o asthma yn y byd tra ar yr un pryd y mae gan Gymru rai o’r tai gwaelaf yn y Deyrnas Gyfunol.

“Fe ddaeth mam a’i mab blwydd oed i Shelter oherwydd bod ganddynt besychiadau ac annwyd parhaol a achoswyd gan y lleithder yn eu fflat. Yr oedd y gwaliau a’r ffenestri yn ddu gyda llwydni. Ni allai’r fam adael teganau anwes ei phlentyn o gwmpas ei ystafell, neu fe fyddent wedi’u gorchuddio gyda llwydni.” - Papur Cyfarwyddiadau Tai & Digartrefedd, Tlodi Plant, Dileu Tlodi Plant a Shelter.

Dyled
Y mae pobl ar incymau isel yn aml yn cael profiad o ddyled. Y mae gan draean o gartrefi sydd ag incymau o lai na £9,000 y flwyddyn broblemau gyda dyledion. Y mae costau ad-dalu dyledion yn aml yn golygu bod teuluoedd yn byw heb eitemau hanfodol. Mathau eraill o gostau dyledion yw’r rhai a geir o safbwynt iechyd, perthynas ac ansawdd bywyd. Fe ganfu adroddiad gan Ganolfannau Cynghori fod chwarter y cleientydd sydd mewn dyledion yn ymofyn triniaeth ar gyfer straen, iselder a phryderon oddi wrth eu Meddyg Teulu.

Cyrhaeddiad Addysgol
Y mae’r cydberthynas rhwng tlodi, dosbarth cymdeithasol a phrofiad a chyrhaeddiad addysgol gwael wedi’u profi’n bendant. Y mae tlodi yn amharu ar y tebygolrwydd o fynd ymlaen drwy’r ysgol i ennill cymwysterau addysgol ffurfiol. Y mae Chweched Adroddiad Blynyddol 2004, Cyfle i Bawb, o eiddo’r Adran Gwaith a Phensiynau yn datgelu bod plant sy’n derbyn cinio ysgol am ddim yn llawer llai tebygol o ennill pump neu ragor o gymwysterau TGAU na phlant sy’n talu. Y mae lefelau cyrhaeddiad plant dan ofal yn parhau i fod yn llawer is na’r cyfartaledd ar gyfer yr holl blant.

Y mae plant o gefndiroedd tlotach yn fwy tebygol o chwarae triwant ac o gael eu gwahardd o’r ysgol. Fe amharir yn sylweddol ar fynediad at a chwblhau Addysg Uwch. Fe wnaeth grwp gorchwyl a gorffen o eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru archwilio’r ffactorau sy’n cyfrannu i’r bwlch rhwng perfformiad mewn ysgolion. Fe ganfu’r Grwp fod yna berthynas gref yn y cyfnod uwchradd rhwng lefelau anfantais a pherfformiad.

Er bod addysg ar gael am ddim, mae yna lawer o ‘bethau ychwanegol’ y mae disgwyl i deuluoedd dalu amdanynt. Y mae plant a phobl ifanc o deuluoedd tlotach yn aml yn colli’r cyfle i gymeryd rhan mewn gweithgareddau a theithiau ysgol.

“Nid yw athrawon yn deall bod gennym broblemau gartref - yr ydym yn cael ein trosglwyddo o wahanol athro i athro ac yn gorffen yn cerdded o amgylch yr ysgol. Y mae cael eich diarddel o’r ysgol i’w briodoli i straen gartref i deuluoedd tlotach ac athrawon nad ydynt yn barod i wrando ac i gynorthwyo gyda phroblemau.” - Person ifanc, Gwrandewch! Plant a Phobl Ifanc yn Siarad: Am Dlodi, Achub y Plant, 2003.

Troseddau
Yr ardaloedd yr amharir arnynt fwyaf gan droseddu a buddsoddi gwael yn yr isadeiledd yw’r union ardaloedd ble y mae’r plant tlotaf yn byw ac yn cael eu magu. Fe all bod yn ddioddefwr trosedd gael effaith fwy difrodus ar bobl sydd ar incymau isel oherwydd efallai nad oes ganddynt yswiriant ar gynnwys eu cartref.

“Ni allwch gael mynediad at ddim byd ac eithrio cyffuriau; fe allwch gael digon o’r rheiny cyn rhated ag yr hoffech.” (Mam) Y Bywyd Da' Effaith Tlodi Cefn Gwlad ar Fywyd Teuluol yng Nghymru’, Barnardo’s Cymru ac NCH Cymru, 2003.

Cyfranogi
Y mae tlodi yn effeithio ar y cyfleoedd sydd gan blant a phobl ifanc i gymeryd rhan yn llawn yn eu cymunedau; i ymwneud â gweithgareddau cymdeithasol; ac y mae’n effeithio ar eu profiadau addysg a hyfforddiant a’r pontio i annibyniaeth. Y mae plant a phobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi gwael a’u teuluoedd yn aml yn profi anawsterau gyda chael at ac elwa oddi wrth wasanaethau. Y mae cymunedau difreintiedig neu wledig yn aml wedi’u hynysu’n gymdeithasol gan brinder cyfleusterau, isadeileddau, mannau ar gyfer chwarae’n ddiogel a gwasanaethau i gynnal cyfranogiad marchnad lafur. Fe all rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau fod yn rhai corfforol megis pellter, prinder cludiant, costau cludiant a symudedd cyfyngedig neu o ganlyniad i’r stigma sy’n gysylltiedig â’u defnyddio neu hunanddibyniaeth. Y mae hygyrchedd gweithgareddau cymdeithasol a hamdden yn fater pwysig i bobl ifanc. Y mae cost ac argaeledd cludiant yn ffactor allweddol o ran bod pobl ifanc wedi’u dieithrio yn gymdeithasol ac o ran eu teimladau o unigedd. Yr oedd pobl ifanc yn cysylltu diflastod a phrinder cyfleusterau gyda throseddau ieuenctid, y camddefnydd o alcohol a chyffuriau, problemau iechyd meddwl ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Y mae mynd mewn tacsi i’r pwll nofio ac yn ôl yn costio £20. Fe ddywedasant y gallwn ei hawlio fo’n ei ôl. Y mae hynny os yw’r arian gennych yn y lle cyntaf.” - Rhiant gyda phlentyn anabl, ‘Y Bywyd Da? Effaith Tlodi Cefn Gwlad ar Fywyd Teuluol yng Nghymru’, Barnardos & NCH, 2003.

Stigma
Y mae plant o deuluoedd tlawd yn aml yn cael eu gwahardd rhag cymeryd rhan mewn gweithgareddau ysgol drwy anfanteision ariannol ac y maent yn teimlo pwysau stigma cymdeithasol drwy wisgo dillad ‘amhriodol’ a thrwy dderbyn cinio ysgol am ddim. Y mae un plentyn o bob pump yn peidio â defnyddio’i hawl i ginio ysgol am ddim. Fe ganfu gwaith ymchwil gan Achub y Plant fod plant tlotach yn teimlo eu bod ar eu colled ac yn cael eu stigmateiddio oherwydd na allent fforddio lifrai ysgol iawn neu offer ysgol hanfodol.

“Nid yw pobl yn hawlio cinio ysgol am ddim oherwydd cywilydd. Fe fyddwn yn gadael i bobl gydag arian fynd o’m blaen yn y rhes fel na fyddent yn gweld.” – bachgen deuddeng mlwydd oed, Gwrandewch! Plant a Phobl Ifanc yn Siarad: Am Dlodi, Achub y Plant, 2003.

A oes yna unrhyw ffactorau a all leihau niwed tlodi?

Y mae gwaith ymchwil wedi dangos bod yna amryw o ffactorau a all gynorthwyo i leihau effaith tlodi ar ddatblygiad gwybyddol, ymddygiadol ac emosiynol plentyn. Y ffactorau hyn yw plant yn byw mewn tlodi sy’n llai difrifol neu am amser byrrach; ansawdd y berthynas o fewn teuluoedd; hunan-barch y plentyn ei hun; lefelau cymorth; a rheoli agweddau tuag at stigma/tlodi yn yr ysgol; a lefelau cymorth a chydgysylltiad gwasanaethau o fewn y gymdogaeth. Fe fydd gan bolisïau sy’n ceisio â chynyddu effaith y ffactorau hyn, fodd bynnag, ond effaith gyfyngedig os yw plant yn parhau i gael anghydraddoldeb canlyniadau o ran cyfleoedd addysg, hamdden a chyflogaeth. I blant sy’n byw mewn tlodi i allu gwireddu’u potensial, yr unig wir ataliad yw dileu tlodi ymysg plant.

Beth y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ei feddwl?

Fe all hanesion plant eu hunain o sut y mae hi arnynt pan fyddant yn dlawd gynyddu’n dealltwriaeth ni o’r effaith ar deuluoedd o fyw ar incwm isel. Er mwyn i strategaethau gwrth-dlodi lwyddo, y mae’n bwysig caniatáu i leisiau plant eu hunain gael eu clywed. Y mae ymgynghoriadau gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru gan Achub y Plant, Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin Y Rhyl a Grwp Gorchwyl Tlodi Plant Cynulliad Cymru oll wedi nodi cyfres o themâu a negeseuon am effeithiau tlodi ar fywydau a phrofiadau plant a phobl ifanc. Fe wnaeth plant a phobl ifanc o bob oedran grybwyll materion yn ymwneud ag addysg, iechyd, troseddu, cyffuriau, cyfranogi, hamdden, cludiant, y pwysau sydd ar deuluoedd sy’n byw ar incwm isel ac effaith stigma sy’n dod yn sgîl byw mewn tlodi.

  

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313