Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Newyddion
  • Ymunwch â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
  • Cyhoeddiadau yn ymwneud â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
  • Wyneb tlodi yng Nghymru
  • Tlodi - Y Ffeithiau
  • Tlodi - Cwestiynau ac Atebion
    » Tlodi - Diffinio a Mesur
    Effeithiau Tlodi
  • Mentrau/polisïau'r Llywodraeth
  • Pa gamau a gymerir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i liniaru tlodi

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Tlodi Plant »Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru »Tlodi - Cwestiynau ac Atebion »Tlodi - Diffinio a Mesur
Tlodi - Diffinio a Mesur

Girls CookingBeth yw Tlodi?

Nid oes yna un diffiniad safonol sengl o dlodi a dderbynir yn fyd-eang. Y mae diffiniadau cyfoes o dlodi wedi symud ymaith oddi wrth gysyniadau sy’n seiliedig ar ddiffyg angenrheidiau diriaethol tuag at ddealltwriaeth sy’n fwy cymdeithasol a chymharol. Diffiniad gwaith yr Undeb Ewropeaidd o dlodi yw:

‘Personau, teuluoedd a grwpiau o bersonau y mae’u hadnoddau (materol, diwylliannol a chymdeithasol) mor gyfyngedig fel ag i’w hallgau hwynt o’r ffordd o fyw sy’n cyrraedd safon sylfaenol dderbyniol yn yr Aelod Wladwriaeth y maent yn perthyn iddi.’

Dyma yn awr y diffiniad o dlodi a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin yn y byd diwydiannol. Y mae’n cydnabod bod tlodi yn golygu mwy na dim ond incwm ond ei fod yn ymwneud ag allgau, i bob diben, bobl sy’n byw mewn tlodi oddi wrth batrymau, arferion a gweithgareddau byw arferol.

Sut y caiff tlodi ei fesur a’i fonitro?

Y mae yna dair prif ffynhonnell swyddogol o ddata ynglyn â thlodi ymysg plant, a dieithrio cymdeithasol ym Mhrydain:

  • Households Below Average Income (HBAI) (Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog) Y mae’r ystadegau yn tarddu o ddadansoddiad o’r Arolwg Adnoddau Teuluol. Y mae’n defnyddio incymau cymharol ar sail cyn costau cynnal ty ac ar ôl costau cynnal ty ac y mae’n mabwysiadu incwm canolrif o 60% fel procsi ar gyfer y llinell dlodi. Y mae’r mesur ar ôl costau cynnal ty yn darparu’r dangosydd gorau o incwm gwario. Yng Nghymru, er enghraifft, y mae canran uwch o blant yn cael eu diffinio fel bod yn dlawd gan ddefnyddio’r mesur ar ôl costau cynnal ty o gymharu â’r mesur cyn costau cynnal ty. Y mae hefyd yn defnyddio Arolwg Panel Cartrefi Prydain i ddarparu amcangyfrifon o ba mor barhaus yw tlodi.
  • Opportunity for All (Cyfle i Bawb) sy’n cadw golwg ar gynnydd tuag at nod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol o greu "cymdeithas decach, fwy cynhwysol ble nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl oherwydd anfantais neu brinder cyfle." Yn ogystal ag adolygu polisi, y mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o ddangosyddion gan gynnwys y rhai hynny sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc.
  • The UK National Action Plan on Social Inclusion. (Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y Deyrnas Gyfunol ar Gynhwysiad Cymdeithasol) Yn yr uwchgynhadledd yn Lisbon yn 2000, fe gytunodd y Cyngor Ewropeaidd i dderbyn ‘dull agored o gydgysylltu’ er mwyn gwneud argraff bendant ar ddileu tlodi a chael cynhwysiad cymdeithasol erbyn 2010. Fe wnaeth gwledydd sy’n aelodau dderbyn amcanion cyffredin yng Nghyngor Ewropeaidd Nice ac fe wnaeth pob aelod-wladwriaeth lunio Cynlluniau Gweithredu Cenedlaethol yn erbyn tlodi a dieithrio cymdeithasol. Fe gyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol cyntaf y Deyrnas Gyfunol ar Gynhwysiad Cymdeithasol 2001-2003 ym mis Gorffennaf, 2001. Fe gyhoeddwyd ail Gynllun Gweithredu Cenedlaethol y Deyrnas Gyfunol ar Gynhwysiad Cymdeithasol 2003-2005 ym mis Gorffennaf, 2003.

Y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), fodd bynnag, wedi bod yn adolygu’r ffordd y maent yn mesur tlodi incwm. Fe wnaed cynigion ym mis Rhagfyr, 2003 gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ar ôl ymgynghori, i ddefnyddio dull tridaint yn seiliedig ar incymau isel absoliwt, incymau isel cymharol ac amddifadedd materol ac incymau isel wedi’u cyfuno. Fe fydd yr holl fesurau hyn ar sail cyn costau cynnal ty. Y mae’r Llywodraeth yn bwriadu cynnal rhagor o waith methodolegol a thrafodaeth gydag arbenigwyr cyn defnyddio’r mesurau newydd hyn.

Er mai’r mesur incwm isel cymharol sy’n derbyn fwyaf o sylw, y mae ganddo rai gwendidau fel mesur hirdymor allgynhwysol o dlodi ymysg plant. Yn 1999, fe wnaeth y Swyddfa Gymreig gomisiynu Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru (Welsh Index of Multiple Deprivation) ar lefel rhanbarthau etholiadol. Y mae’n mapio graddfa amddifadedd lluosog yng Nghymru ac y mae’n ymdrin ag incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, tai a mynediad daearyddol at wasanaethau. Fe gomisiynwyd Uned Data Llywodraeth Leol Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu Grwp Cynghori ac ymgynghori’n eang ar gynnig i ddiwygio a diweddaru’r Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru. Fe wnaeth y Grwp Cynghori gynghori y dylai’r Mynegrif gael ei ddiwygio a’i ddiweddaru gyda data targed o Ebrill/Mai 2005, a’i ddiweddaru’n rheolaidd ar ôl hynny i ragflaenu pob cylch ariannol tair blynedd.

Faint o blant yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi?

  • Fe ddengys ffigurau Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (HBAI) ar gyfer 2006/07 (a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, 2008) mai ar ôl costau cynnal ty, yr oedd 29 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn cartrefi gydag incymau islaw 60% o’r canolrif.
  • Fe ddengys Mewn Ffigurau: Tlodi Ymysg Plant 2008 o eiddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod gan 17% o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd a 15% o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd yr hawl i gael cinio ysgol am ddim.
  • Fe ddengys Bwletin Ystadegol 49/2008 yr Ystadegau Digartrefedd o eiddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mai rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, 2007, yr oedd yna 1,488 o gartrefi yng Nghymru wedi’u derbyn fel digartref. O’r 240 o gartrefi mewn llety Gwely a Brecwast, yr oedd 15 y cant yn deuluoedd gyda phlant.

 

Pwy sy’n byw mewn tlodi?

Fe ddengys ystadegau Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (CIIC / HBAI) fod y plant a ganlyn yn wynebu’r risg uchaf o fod yn dlawd:

  • Plant i deuluoedd rhieni unigol
  • Plant mewn teuluoedd mawr (mwy na 3 phlentyn)
  • Plant sy’n tyfu i fyny mewn cartrefi ble nad oes neb yn gweithio’n llawn amser
  • Plant o rai teuluoedd lleiafrifoedd ethnig

    Nid oes yna ddigon o ddata yn bodoli ynglyn â'r mater hyn yng Nghymru ond y mae ffigurau yn y Deyrnas Gyfunol benbaladr yn dangos bod gan blant lleiafrifoedd ethnig amrywiol gyfraddau o dlodi ymysg plant ond y maent yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi na phlant mewn cartrefi gwyn.  Y mae rhai carfanau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gynnwys teuluoedd mawrion, sy’n ffactor risg ar gyfer plant yn byw mewn tlodi. Y mae gan garfanau eraill nifer uchel o rieni unigol, sydd hefyd yn ffactor risg ar gyfer plant yn byw mewn tlodi. Y mae byw mewn cartref di-waith yn amharu’n neilltuol ar blant o leiafrifoedd ethnig. Y mae cyfraddau diweithdra yn neilltuol o uchel i garfanau ethnig Caribïaidd, Affricanaidd du, Bangladeshaidd a Phacistanaidd ac y maent hefyd yn uwch na’r cyfartaledd i bobl o darddiad Indiaidd. Y mae tangyflawniad o ran addysg a medrau a rhagfarn a chamwahaniaethu mewn addysg ac yn y gweithle i gyfrif am lawer o’r anfantais hyn. Y mae materion eraill yn cynnwys didoli galwedigaethol, lefelau uchel o iechyd gwael, materion iaith ac effeithiolrwydd cyfyngedig rhaglenni cyflogaeth.

  • Plant mewn cartrefi sydd â phlentyn neu oedolyn anabl

    Yr oedd unigolion mewn teuluoedd sy’n cynnwys un neu ragor o bobl anabl yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi incwm isel na’r teuluoedd hynny nad oedd ganddynt berson anabl. Y mae astudiaethau hefyd wedi dangos bod rhieni plant anabl yn llai tebygol o weithio, a phan fônt yn gweithio, yr oedd eu henillion yn is nag ar gyfer rhieni at ei gilydd. Y mae hi’n aml yn anodd i rieni ganfod gofal plant addas, fforddiadwy. Fe all rhai plant anabl angen ymweld yn aml â’r ysbyty, yn enwedig pan maent yn ifanc a phan fydd diagnosis a rhaglen o driniaeth yn cael eu pennu. Fe wna hyn hi’n eithriadol o anodd i rieni weithio, yn enwedig rhieni unigol. Fe ddengys canfyddiadau gan Sefydliad Joseph Rowntree fod magu plentyn anabl yn ddrutach oherwydd costau uwch o ran cludiant; dillad ac esgidiau; gorfod newid dillad gwely yn amlach; difrod a thorri pethau yn y cartref os oes gan y plentyn broblemau ymddygiad difrifol a’r angen am deganau a chyfarpar arbennig. Y mae yna hefyd dystiolaeth fod plant sy’n gymdeithasol dan anfantais yn llai tebygol o wneud cais am Lwfans Byw i’r Anabl ac y maent yn llai tebygol o lwyddo i dderbyn dyfarndal ar y gyfradd uwch.

    Y mae plant anabl hefyd yn fwy tebygol o ddioddef oddi wrth dlodi o ran cyfranogi a gwasanaethau. Y mae Comisiwn Hawliau’r Anabl yn adrodd bod ysgolion a sefydliadau addysgol yn amrywio yn eu parodrwydd a’u gallu i roi sylw i a chael gwared â rhwystrau sy’n wynebu plant a phobl ifanc anabl rhag derbyn addysg. Fe wnaeth gwaith ymchwil i Barnardo’s ynglyn â theuluoedd sydd â phlant anabl ganfod bod yna brinder adnoddau a bod yna reolau cyfyngol yn bodoli yng ngwasanaethau chwarae, hamdden ac adloniant.

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313