Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
    Much Work Still to be Done
    » Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Llythrennedd Emosiynol
  • Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Prosiect Llwybrau Bywyd
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Ymchwil
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Tlodi Plant »Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru

ECPNC LOGO

2020

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r Rhwydwaith, cysylltwch ag:

Anita Myfanwy
24-26 Stryd Fawr
Caernarfon
LL55 1RH

Ffôn: 01286 677570

E-bost: Anita.Myfanwy@childreninwales.org.uk

Y Deyrnas Gyfunol yw’r pedwerydd economi mwyaf yn y byd ond ar y llaw arall y mae ganddi un o’r lefelau uchaf o dlodi ymysg plant o’r holl wledydd diwydiannol. Fe ddengys ffigurau diweddar fod 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, sy’n uwch na’r cyfartaledd Prydeinig.

Y mae’r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn glymblaid o gonsyrn sy’n canolbwyntio ar dlodi ymysg plant ac y mae’n cynnwys cynrychiolwyr o Barnardo’s Cymru, Plant yng Nghymru, ChildLine Cymru, Child Poverty Action Group ,Achub y Plant Cymru, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, Action for Children, y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant Cymru, Cymunedau sy’n Gofalu, Fairbridge Cymru, Cyngor Ar Bopeth Cymru, Ymddiriedolaeth Frank Buttle, Shelter Cymru, a Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.

Ymunwch â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru

Y mae gennym hefyd nifer cynyddol o Aelodau Cefnogol sy’n cefnogi’n gweledigaeth na ddylai’r un plentyn yng Nghymru fod yn byw mewn tlodi erbyn 2020. Fe ddaw’r aelodau hyn o drawstoriad eang o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Fe sefydlwyd y Rhwydwaith ym mis Tachwedd, 2001 ac y mae’n gweithio i sicrhau:

  • Mwy o ddealltwriaeth gyhoeddus a phroffesiynol o dlodi ymysg plant yng Nghymru;
  • Cefnogaeth gyhoeddus a phroffesiynol dros fesurau i ddileu tlodi ymysg plant;
  • Cael polisïau yn eu lle ar bob haen o lywodraeth sy’n cyfrannu i ddileu tlodi ymysg plant yng Nghymru.

Wrth ymuno â'r Rhwydwaith byddwch yn derbyn e-bwletin misol am ddim.

Ein llwyddiannau

  • Tlodi Plant -seminarau, Monmouth Priory
  • Wedi lobïo Llywodraeth Cynulliad Cymru yn llwyddiannus am strategaeth tlodi plant yng Nghymru;
  • Wedi lobïo dros a chymeryd rhan yn y Grwp Gorchwyl Tlodi Plant;
  • Wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ynglyn â thlodi ymysg plant;
  • Ymatebion i ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol
  • Papur cyfarwyddo ar dlodi ymysg plant a chyfarwyddiadau ar adroddiad y Grwp Gorchwyl Tlodi Plant ar gyfer Pwyllgorau pwnc y Cynulliad.
  • Mynd i'r Afael a Thlodi Ymysg Plant yng Nghymru - Canllaw Ymarfer da ar Gyfer Ysgolion
  • Papur briffio ar Gost Addysg

Newyddion Diweddaraf

  • Cyllideb Llywodraeth y DU 2009: Papur Briffio - Mae'r papur briffio yma yn galw ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi o leia £3 biliwn i fewn i fudd-daliadau a chredydau treth er mwyn cyrraedd targed y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru o haneru tlodi plant yn erbyn 2010.
  • Deddf Tlodi Ymysg Plant newydd i Gymru - Y mae’r Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) arfaethedig, sydd â’r nod o fynd i’r afael â thlodi ymysg plant a chryfhau cymorth i deuluoedd mewn angen, i’w osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe fydd y Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatblygu Strategaeth Tlodi Ymysg Plant newydd i Gymru, y byddai’n rhaid ei hadolygu bob tair blynedd. Dilynwch datblygiad y Mesur yma.
  • Cost Addysg: Adnewyddu'r Galawd - Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu Tlodi Plant, fe adnewyddodd cynghrair Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru ei alwad y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gynnal astudiaeth ar ddichonoldeb cyflwyno gwasanaeth prydau ysgol am ddim i bawb ar gyfer pob disgybl ysgol ym mhob rhan o Gymru.
  • Y mae gwefan newydd a ddyluniwyd i gynorthwyo cynghorau a’u partneriaid i ddatblygu ymatebion lleol i ostwng tlodi ymysg plant wedi’i lansio: www.childpovertysolutions.org.uk
  •  

    Ymchwil Diweddaraf

    Newyddion
    Click here for the latest developments on child poverty in Wales.
    Ymunwch â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Cyhoeddiadau yn ymwneud â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Wyneb tlodi yng Nghymru
    Tlodi - Y Ffeithiau
    Tlodi - Cwestiynau ac Atebion
    Mentrau/polisïau'r Llywodraeth
    Pa gamau a gymerir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i liniaru tlodi
    Dolenni Cysylltiol
    Barnardo's
    Elusen sylweddol sy’n gweithredu amryw o brosiectau a anelir at gynorthwyo’r plant a phobl ifanc mwyaf bregus i weddnewid eu bywydau ac i wireddu eu gallu cudd.
    Achub y Plant
    Yn Elusen Brydeinig flaenllaw sy’n gweithio yn y Deyrnas Gyfunol ac yn Rhyngwladol i sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael y dyfodol y maent yn ei haeddu.
    Parth Plant y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant
    Gwybodaeth ar gyfer plant a phobl ifanc am y GGACB / NSPCC.
    ChildLine (Llinell Plant)
    llinell gymorth sydd ar gael bedair awr ar hugain y dydd sydd am ddim ar gyfer plant a phobl ifanc yn y Deyrnas Gyfunol
    Grwp Gweithredu ar Dlodi Ymysg Plant (Child Poverty Action Group)
    Grwp sy’n hyrwyddo gweithredu er mwyn lleddfu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, tlodi ymysg plant a theuluoedd gyda phlant.
    Fairbridge
    Y mae Fairbridge yn cefnogi pobl ifanc 13-25 mlwydd oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu waith cyflogedig neu sydd wedi’u canfod fel pobl sydd mewn perygl o wrthgilio.
    Canllawiau Cynghori gan y Canolfannau Cynghori (The Citizens Advice Bureau Advice Guide)
    Gwefan sy’n cynnig cynghorion ynglyn â rhychwant o bynciau.
    Ymddiriedolaeth Frank Buttle
    Y mae’r sefydliad hwn yn darparu cefnogaeth pan fo asiantaethau sy’n gweithio gyda phlant yn canfod bod yna anghenion hanfodol nad oes modd eu diwallu.
    Shelter Cymru
    Mudiad sy’n gweithio er mwyn osgoi digartrefedd ac er mwyn gwella cyflwr tai yng Nghymru, a thros hawl pawb i gael cartref diogel, addas ac y gallant ei fforddio.
    Comisiynydd Plant Cymru
    Ymwelwch â gwefan Comisiynydd Plant Cymru
    Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Gwladol Cymru (NPHS)
    Sy’n dod ag adnoddau iechyd cyhoeddus y pum awdurdod iechyd blaenorol yng Nghymru ynghyd.
    Action for Children
    Action for Children supports and speaks out for the UK's most vulnerable children and young people.
    Datrys Tlodi Plant
    Cafodd y wefan hon ei chreu i helpu ymarferwyr lleol, pobl sy'n creu polisïau a strategaethau, a rheolwyr i ddatblygu ymateb lleol i'r broblem o gwtogi ar dlodi ymhlith plant Cymru.
    Adnoddau Cysylltiol
    :Mynd i'r Afael a Thlodi Ymysg Plant yng Nghymru - Canllas Ymarfer da ar Gyfer Ysgolion
    :“Tlodi Plant yng Nghymru - llawer o waith ar ôl”
    :Cost Addysg, Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Tlodi 2006
    :Child Poverty Matters Report, August 06 (pdf 1178k)
    :Teuluoedd nid ardaloedd sy’n dioddef anfantais gwledig
    :Cost Addysg - Adnewyddu'r Galwad (Hydref 2008)
    :ECPN Cymru - Briefing Paper: UK Government Budget 2009
    Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
    Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313