Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Much Work Still to be Done
  • Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Newyddion
    Ymunwch â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Cyhoeddiadau yn ymwneud â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Wyneb tlodi yng Nghymru
    » Tlodi - Y Ffeithiau
    Tlodi - Cwestiynau ac Atebion
    Mentrau/polisïau'r Llywodraeth
    Pa gamau a gymerir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i liniaru tlodi

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Tlodi Plant »Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru »Tlodi - Y Ffeithiau
Tlodi - Y Ffeithiau
  • Girls in CorridorFe all tyfu i fyny mewn tlodi amharu ar les, iechyd a datblygiad corfforol a gwybyddol plentyn.
  • Y mae plant a enir i dlodi yn fwy tebygol o fod yn pwyso llai ar eu genedigaeth, o fod â chyfradd marwolaeth uchel fel babanod ac o fod ag iechyd gwaelach na phlant mwy cefnog.
  • Y mae dietau pobl sydd ar incymau isel yn aml yn wael o ran maeth, gan ddibynnu ar ‘galorïau rhad’ o fwyd rhad wedi’i brosesu.
  • Y mae plant tlawd yn 15 gwaith mwy tebygol o farw mewn tân yn eu cartref na phlant mwy cefnog a thair gwaith yn fwy tebygol o gael eu taro gan gar.
  • Y mae’r cydberthynas rhwng tlodi, dosbarth cymdeithasol a phrofiad a chyrhaeddiad addysgol gwael wedi’u profi’n bendant.
  • Er bod addysg am ddim, y mae yna lawer o ‘bethau ychwanegol’ y mae disgwyl i deuluoedd dalu amdanynt. Y mae ymchwil a wnaed yng Nghymru yn awgrymu bod plant a phobl ifanc tlawd ar eu colled ac yn cael eu stigmateiddio oherwydd na allant fforddio lifrai ysgol priodol, ac oherwydd eu bod yn cael cinio ysgol am ddim. Y mae plant a phobl ifanc o deuluoedd tlotach hefyd yn aml yn cael eu hallgàu o deithiau ysgol a gweithgareddau cymdeithasol yn yr ysgol.
  • Y mae pobl sydd ar incymau isel yn aml yn cael profiad o ddyledion. Y mae costau ad-dalu dyledion yn aml yn arwain at deuluoedd yn byw heb eitemau hanfodol. Costau eraill dyledion yw’r costau sy’n amharu ar iechyd, perthynas ac ansawdd bywyd.
  • Y mae sefyllfaoedd megis digartrefedd ac amgylcheddau ble y mae yna ormod o bobl yn byw gyda’i gilydd dros gyfnod hirfaith yn cael effaith sylweddol ar les a datblygiad corfforol, meddyliol a chymdeithasol plentyn.
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313