Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r Rhwydwaith, cysylltwch ag:
Anita Myfanwy24-26 Stryd FawrCaernarfonLL55 1RH
Ffôn: 01286 677570
E-bost: Anita.Myfanwy@childreninwales.org.uk
Y Deyrnas Gyfunol yw’r pedwerydd economi mwyaf yn y byd ond ar y llaw arall y mae ganddi un o’r lefelau uchaf o dlodi ymysg plant o’r holl wledydd diwydiannol. Fe ddengys ffigurau diweddar fod 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, sy’n uwch na’r cyfartaledd Prydeinig.
Y mae’r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn glymblaid o gonsyrn sy’n canolbwyntio ar dlodi ymysg plant ac y mae’n cynnwys cynrychiolwyr o Barnardo’s Cymru, Plant yng Nghymru, ChildLine Cymru, Child Poverty Action Group ,Achub y Plant Cymru, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, Action for Children, y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant Cymru, Cymunedau sy’n Gofalu, Fairbridge Cymru, Cyngor Ar Bopeth Cymru, Ymddiriedolaeth Frank Buttle, Shelter Cymru, a Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.
Ymunwch â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
Y mae gennym hefyd nifer cynyddol o Aelodau Cefnogol sy’n cefnogi’n gweledigaeth na ddylai’r un plentyn yng Nghymru fod yn byw mewn tlodi erbyn 2020. Fe ddaw’r aelodau hyn o drawstoriad eang o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
Fe sefydlwyd y Rhwydwaith ym mis Tachwedd, 2001 ac y mae’n gweithio i sicrhau:
Wrth ymuno â'r Rhwydwaith byddwch yn derbyn e-bwletin misol am ddim.
Ein llwyddiannau
Newyddion Diweddaraf
Ymchwil Diweddaraf