Plant mewn Canolfannau CadwY mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Plant yng Nghymru wedi cyhoeddi cyfarwyddiad ynglŷn â phlant mewn canolfannau cadw. Bob blwyddyn, y mae tua 2,000 o blant yn y Deyrnas Unedig yn cael eu cadw dan glo er dibenion rheolaeth fewnfudo. Ers 2001, fe all plant sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo gael eu cadw dan glo ar yr un sail ag oedolion.Y hwy yw’r unig blant yn y wlad hon y gellir eu rhoi dan glo am gyfnod amhenodol heb arolygiaeth farnwrol. Lawrlwythwch y cyfarwyddiad llawn yma.
Adnoddau Defnyddiol
Materion Lloches a Ffoaduriaid a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn: Y mae gwaith Plant yng Nghymru yn ymwneud yn agos â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Y mae’r gwaith parthed Materion Lloches a Ffoaduriaid yn ymwneud ag Erthygl 7, Erthygl 8, Erthygl 10, Erthygl 20, Erthygl 22 ac Erthygl 39 Confensiwn y CU. Fe ellir cael golwg ar yr Erthyglau hyn yn adran Confensiwn y CU o’r wefan hon.
Mae Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid y Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyflwyno gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cynnwys ffoaduriaid yng Nghymru.
The European Network of Ombudsmen for Children - State Obligations for the Treatment of Unaccompanied Children, Medi 2006
Dyfodol Ansicr, Plant Sy'n Ceisio Lloches yng Nghymru - Y mae'r adroddiad hwn gan Achub y Plant yn darparu disgrifiad o amgylchiadau ceiswyr lloches ieuainc yng Nghymru.
No Place for Children - Ymgyrch gan y New Statesman yn galw ar y llywodraeth i ddiweddu'r ymarfer o gadw plant yn y ddalfa ar gyfer rhesymau o fewnfudiad.
Agenda ar gyfer Gweithredu - Adroddiad gan Achub y Plant sydd yn edrych ar ba broblemau sy’n wynebu gweithwyr y rheng flaen o ran sicrhau bod plant sy’n cael eu masnachu, plant sy’n cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd a phlant a theuluoedd sy’n ceisio lloches, yn cael gofal ac yn cael eu hamddiffyn, canfod bylchau hollbwysig yng ngwybodaeth a sgiliau’r gweithwyr hyn a gweld cyfleoedd i ddatblygu ymarfer.