Mae Plant yng Nghymru yn cynnal cynllun peilot sy’n cefnogi prosiectau i helpu pobl ifanc fregus i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer eu dyfodol. Caiff prosiect Llwybrau Bywyd, a ariennir gan Nokia Make a Connection, ei beilotio hyd fis Fehefin 2009. Mae’n cyfateb i brosiect llwyddiannus Life Routes yn Lloegr.
Y mae Llwybrau Bywyd yn gweithio gyda mudiadau ieuenctid i gynorthwyo pobl ifanc sy’n agored i niwed i ennill sgiliau y gallant fod wedi methu â’u cael yn ystod eu plentyndod. Fe allai hyn gynnwys:
Y mae cyfranogaeth yn ganolog i’r prosiect, gyda phobl ifanc yn canfod, datblygu ac yn cynnal prosiect ar bwnc o’u dewis eu hunain. Y maent hefyd yn cofnodi ac yn rhoi tystiolaeth o’u gwaith dysgu’u hunain. Drwy arwain y prosiectau, y maent yn datblygu amryw o sgiliau bywyd sy’n hanfodol i’w dyfodol:
Y mae Llwybrau Bywyd wedi’i gynllunio i fod yn brosiect hynod o hyblyg ac y mae’n galluogi pobl ifanc i ddewis eu prosiect eu hunain, ac i’w ddatblygu yn eu grŵp yn y ffordd y maent eisiau a phan fyddant yn cyfarfod. Y mae hefyd wedi’i gynllunio i gael cyn lleied o ffurflenni â phosibl ar gyfer ymarferwyr a phobl ifanc, fel ei gilydd, i’w llenwi.
Y mae Plant yng Nghymru yn awr yn chwilio am brosiectau newydd i gymryd rhan yn y prosiect Llwybrau Bywyd. Fe ellir lawrlwytho taflen ‘cwestiynau a ofynnir yn aml’ gyda mwy o wybodaeth am y prosiect peilot, ac y mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Llwybrau Bywyd, a blog y bobl ifanc. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Ed Janes (Ed.Janes@childreninwales.org.uk)