Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Meysydd Gwaith
    Eiriolaeth
    Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
    Bwlio
    Atal Damweiniau Plant
    Tlodi Plant
    Hawliau Plant
    Anabledd
    Blynyddoedd Cynnar
    Llythrennedd Emosiynol
    Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
    Cynadleddau Grwp Teuluoedd
    Gwaith Rhyngwladol
    Plant sy’n Derbyn Gofal
    » Cyfranogaeth
    Magu Plant
    Ymchwil
    Diogelu Plant
    Y Sector Gwirfoddol
    Gofalwyr Ieuainc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Cyfranogaeth
Cyfranogaeth

"Mae Cyfranogiad yn golygu bod gen i’r hawl i gael y cyfle i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu unrhyw weithred a all effeithio arna i. Cael Llais, Cael Dewis"

Yn 2005, cynhaliodd y Llywodraeth gystadleuaeth yn gofyn i bobl ifanc grynhoi ystyr cyfranogiad a dyma'r brawddeg a enillodd.

Mae Consortiwm Cyfranogaeth Pobl Ifanc, yr Uned Cyfranogaeth a Phrosiect Cyfranogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo cyfranogiad plant a phobl ifanc (0-25) yn y broses benderfynu yng Nghymru. Yr ydym wedi datblygu set o Safonau Cenedlaethol ar gyfer cyfranogaeth sy’n berthnasol i bob mudiad sy’n gweithio gyda neu sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc. Gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc ledled Cymru’n cael profiad positif ac ystyrlon wrth gyfranogi. Am ragor o wybodaeth, welwch yr adnoddau canlynol:

Adnoddau Defnyddiol

Canllawiau Blast Off - Cyfres o ganllawiau ymarfer da a gynhyrchwyd gan yr Uned Cyfranogaeth, sydd wedi'u seilio ar brofiadau gweithwyr cyfranogaeth yng Nghymru. Y mae yna ar hyn o bryd 9 o ganllawiau ymarfer da, gyda mwy yn yr arfaeth yn y dyfodol, ac y mae pynciau’n amrywio o gyflwyno cyfranogaeth i ganolbwyntio ar gyfranogaeth mewn ffurfiau ac amgylcheddau neilltuol.

Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru - Mae’r Consortiwm Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru, yr Uned Cyfranogiad a prosiect Cyfranogiad y Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu set of Safonau Cenedlaethol ar gyfer cyfranogaeth sydd yn berthnasol I bob sefydliad sydd yn gweithio gyda plant a phobl ifanc.  

A Ydym yn Diwallu’ch Anghenion: Pecyn Hunan-asesu Safonau Cenedlaethol Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc - Y bwriad wrth wraidd y pecyn, a ddatblygwyd gan yr Uned Cyfranogaeth, yw cynorthwyo sefydliadau i gasglu gwybodaeth i arddangos cyfranogaeth plant a phobl ifanc.

Adnoddau Cyfranogi Y mae’r adran hon yn darparu gwybodaeth am adnoddau a phecynnau cymorth i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i’w cynnwys hwynt mewn prosesau llunio penderfyniadau.

Barn Plant a Phobl Ifanc - Y mae’r adran hon yn darparu manylion ynglyn ag adroddiadau, sy’n amlygu’r hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei feddwl am amrywiaeth o bynciau.

Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru

pcwNod y PWNW (Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru) yw cefnogi gweithwyr a sefydliadau gyda hyrwyddo cyfranogiad plant a phobl ifanc a gwneud cyfranogiad plant a phobl ifanc yn wirionedd ledled Cymru.

Fe gynhelir y PWNW gan Plant yng Nghymru ar ran Consortiwm Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru, corff strategol amlasiantaethol sy’n adeiladu cynhwysedd ar gyfer datblygu cyfranogiad yng Nghymru.

Lansio gwefan PWNW

Y mae www.participationworkerswales.org.uk yn cynnwys ardal gyhoeddus gyda gwybodaeth am yr hyn yw cyfranogaeth, a buddion gweithgareddau cyfranogol i blant a phobl ifanc, ond hefyd i sefydliadau a’r gymuned ehangach. Y mae yna hefyd adran yr aelodau y gellir cofrestru am ddim amdani. Fel aelod, fe allwch chwilio am enghreifftiau o ymarfer da mewn cyfranogaeth yn eich ardal o Gymru neu yn eich maes gwaith.

Cysylltwch â’r rhwydwaith

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech fwy o wybodaeth am y Rhwydwaith, fe allwch gysylltu ag Ed Janes, Swyddog Datblygu y PWNW, ar 029 2034 2434 neu drwy e-bost yn ed.janes@childreninwales.org.uk

 
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313