Y mae Plant yng Nghymru yn weithredol gysylltiedig â chynorthwyo i ddatblygu rhagor ar y Model Cynadledda Grwp Teuluoedd yng Nghymru.
Cyfarfod yw Cynhadledd Grwp Teuluoedd ble y mae aelodau teuluoedd eu hunain, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yn dylunio’u cynllun eu hunain i oresgyn problemau a nodwyd ac i ymateb i bryderon gweithwyr proffesiynol. Y mae’r cynadleddau, neu Gyfarfodydd Grwp Teuluoedd fel yr adwaenir hwynt weithiau, yn cael eu cynnull yn nodweddiadol gan gydlynwyr annibynnol nad ydynt yn uniongyrchol gyfrifol am asesu’r teulu nac am ddarparu gwasanaethau iddynt, ond yn hytrach y maent yn sicrhau bod teulu a chyfeillion yn cael eu gwahodd a’u paratoi’n ddigonol. Fe gaiff plant eu hannog yn gryf i fynychu ac yn aml fe’u cefnogir gan eiriolwr. Y mae yna 3 cham i’r cyfarfod: Cyfnewid gwybodaeth, amser preifat i’r teulu a chynllunio, ac fe all fod yna gyfarfodydd adolygu dilynol.
Y mae Plant yng Nghymru yn gweithio i ddatblygu rhagor ar y Model Cynadledda Grwp Teuluoedd yng Nghymru drwy:
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: sean.oneill@childreninwales.org.uk