Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Meysydd Gwaith
    Eiriolaeth
    Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
    Bwlio
    Atal Damweiniau Plant
    Tlodi Plant
    Hawliau Plant
    Anabledd
    Blynyddoedd Cynnar
    Llythrennedd Emosiynol
    Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
    Cynadleddau Grwp Teuluoedd
    Gwaith Rhyngwladol
    Plant sy’n Derbyn Gofal
    Cyfranogaeth
    Magu Plant
    Ymchwil
    Diogelu Plant
    » Y Sector Gwirfoddol
    Gofalwyr Ieuainc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Y Sector Gwirfoddol
Y Sector Gwirfoddol

Mae Plant yng Nghymru yn cynnal ystod o waith i gefnogi sector gwirfoddol y plant yng Nghymru. Y mae hyn yn cynnwys:

Cynrychiolaeth ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector

Y mae Plant yng Nghymru yn cynrychioli Sector Gwirfoddol y Plant ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (CPyTS). CPyTS yw’r corff allweddol sy’n galluogi’r sector gwirfoddol a’r Cynulliad Cenedlaethol i gyfathrebu parthed materion allweddol.  Y mae mwy o wybodaeth am GPySG a chyfarfodydd a gynhelir rhwng y sector gwirfoddol a Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gael yn adran Polisi y wefan hon.

Fe ddylai’r sawl sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol a hoffai godi materion yng Nghyngor Partneriaeth y Trydydd Sector neu yn y cyfarfodydd gyda Gweinidogion gysylltu ag Sian Thomas, Plant yng Nghymru, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: sian.thomas@childreninwales.org.uk

Grwp Cefnogi Mudiadau Gwirfoddol Gogledd Cymru  

Y mae Plant yng Nghymru yn cydlynu cyfarfodydd cynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol yng Ngogledd Cymru drwy Grwp Cefnogi Mudiadau Gwirfoddol Gogledd Cymru.  Y mae’r grwp hwn yn cyfarfod tua phedair gwaith y flwyddyn ac y mae’n trafod ystod o faterion sydd o ddiddordeb i’r sawl sydd yn y sector gwirfoddol.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Allison Hughes, Plant yng Nghymru, Ffôn: (01286) 677570, E-bost: Allison.Hughes@childreninwales.org.uk

Rhwydwaith Cynnwys Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (CYPPinCYMRU)

Y mae Plant yng Nghymru yn gweithio gyda CWVYS (Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol), cynrychiolwyr y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVC), a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) i hwyluso cyfarfodydd chwarterol o’r Rhwydwaith Cynnwys Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (CYPPinCYMRU).  Fe anelir y cyfarfodydd hyn at gynrychiolwyr o bob un Cyngor Gwirfoddol Sirol sy’n gysylltiedig â gwaith partneriaeth yn y Partneriaethau Plant a Phartneriaethau Pobl Ifanc ac ymgysylltu â’r sector gwirfoddol.  Y mae’r Rhwydwaith yn darparu cyfle delfrydol i rannu arferion gorau, gwybodaeth a phryderon ac y mae hefyd yn annog cysylltiadau gydag asiantaethau eraill gyda chyfarfodydd yn y gorffennol yn cael eu mynychu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ESTYN - Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg. a Hyfforddiant yng Nghymru, y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, a Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Yr ydym ar hyn o bryd yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu ymagweddiad cydgysylltiedig ledled y sector gwirfoddol yng Nghymru parthed codi ymwybyddiaeth o ddiogelu plant a phobl ifanc mewn ymateb i’r ymgynghoriad diweddar ynglŷn â’r cynllun archwilio cefndir ac atal newydd.

Os hoffech fynychu’r Rhwydwaith i roi cyflwyniadau neu i ymgynghori â’r grŵp, yna a fyddech cystal â chysylltu â Sarah Thomas yn Plant yng Nghymru, E-bost: sarah.thomas@childreninwales.org.uk, Ffôn: 029 2034 2434 neu Veronica Wilson yng Nghyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.

Grŵp Cefnogi Sefydliadau Gwirfoddol Gogledd Cymru
Mae’r grŵp hwn yn cynnwys unigolion a gyflogir gan sefydliadau gwirfoddol, sydd â briff traws-ffiniol yng Ngogledd Cymru i weithio gyda plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae’r grŵp yn cwrdd er mwyn dynodi, rhannu a hyrwyddo arfer da a rhoi cefnogaeth i’w gilydd.
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313